BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Côr Meibion FroncysyllteDenu sylw Hollywood
Ar Dachwedd 20, 2006 rhyddhaodd Côr Meibion Froncysyllte eu record fasnachol gyntaf, o'r enw 'Voices of the Valley' ar y label Universal Classics.

Mae hanes i Gôr Meibion y Fron sy'n cwmpasu 60 mlynedd, ond yn fwyaf diweddar fe gawson nhw'u tynnu oddi wrth eu cylch arferol o gyngherddau lleol ac Eisteddfodau gan reolwr y band bechgyn pop Blue, Daniel Glatman.

Cafodd Glatman, a ddaeth ar draws y côr pan fuon nhw'n perfformio mewn priodas y bu ynddi, ei hudo gan bŵer eu sain ac, o sylweddoli eu potensial, fe sicrhaodd gytundeb recordio iddyn nhw gyda'r Universal Music Group, cwmni recordiau mwyaf blaenllaw'r byd, cartref i Eminem a 50 Cent.

Wrth ddarganfod y côr dywedodd Daniel Glatman, rheolwr Blue a nawr Côr y Fron, "pan fo'r gwallt ar gefn eich gwddw yn codi allwch chi ddim â diystyru'r peth."

Er bod y grŵp yn estyn sialens wahanol iawn i'w fentrau blaenorol, mae'n cellwair wrth ddweud ei fod eisoes wedi gweithio gyda un o grwpiau bechgyn ifanc mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig, a nawr mae'n gweithio gyda grŵp bechgyn gwreiddiol y Deyrnas Unedig.

Gyda chyfanswm oed o 3974, mae'n siŵr mai hwn yw'r hynaf!

Fel na bai hyn yn ddigon, mae yna gyffro yn Hollywood ynglŷn â Chôr Meibion o Gymru ar ôl i'r cynhyrchydd ffilmiau Prydeinig nodedig Zygi Kamasa sicrhau'r hawliau i stori unigryw Côr Meibion y Fron, sy'n hannu o bentref bychan yng Ngogledd Cymru.

Mae Kamasa, cynhyrchydd Bend it Like Beckham a chyd-gynhyrchydd ffilm George Clooney a enwebwyd ar gyfer Oscar, Good Night and Good Luck, hefyd yn rhedeg swyddfa Lionsgate Films, un o gwmnïau ffilmiau mwyaf Hollywood a enillodd Oscar am y Ffilm Orau eleni gyda Crash.

Sicrhaodd yr hawliau i'r ffilm ddyddiau'n unig ar ôl clywed am y côr, gan ddweud, "Mae stori'r côr hwn a bigwyd o ddinodedd llwyr i'w harwyddo gan y label recordiau mwyaf yn y byd yn stori glasurol i godi'r galon sydd â photensial anhygoel, yn enwedig o gofio bod cyfartaledd oed y cantorion yn 60!"

Mae'r côr 60 o leisiau yn arwain adfywiad mewn canu corawl amatur wrth i Kamasa lywio'u stori i fod y diweddaraf mewn cyfres o lwyddiannau Prydeinig yn apelio at y genhedlaeth hŷn, yn dilyn llwyddiant ffilmiau megis Calendar Girls a Brassed Off.

Addewid Hollywood yw'r datblygiad diweddaraf mewn blwyddyn syfrdanol i Gôr y Fron sy'n 60 oed. Wedi 59 mlynedd o gystadlu yn erbyn Corau Meibion lleol a rhyngwladol, cychwynnodd y grŵp y flwyddyn trwy arwyddo cytundeb recordiau anferth gyda Universal Classics and Jazz, y label a ddarganfu dalentau ifanc Jamie Cullum, Katherine Jenkins a Nicola Benedetti.

Ond nid dim ond yn ystod y flwyddyn lwyddiannus diwethaf yma yr hoeliwyd sylw mawrion y byd ffilmiau.

Mae'r côr wedi ei drwytho yn nhraddodiad Cymru gyda hanesion am gyfeillgarwch yn eu cario trwy nifer o helbulon a thrafferthion.

Yn dod o'r pentref bychan Froncysyllte yn Nyffryn hyfryd Llangollen, mae'r côr wedi bod yn rhan bwysig o'r gymuned glos hon, a gydag enwogrwydd byd-eang yn galw all hyn ond cryfhau balchder y gymuned yn ei gôr lleol.

Wedi ei ffurfio ar ôl yr Ail Ryfel Byd i hybu ewyllys da cymdogol, mae'r côr wedi tyfu mewn niferoedd, hyder ac ansawdd o'r dyddiau cynnar ym 1947 pan oedd nifer o'r aelodau yn dal yn lowyr.

Estynnodd John Hughes Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Corau Meibion Gogledd Cymru longyfarchiadau i Gôr Meibion Froncysyllte gan ddweud "Mae'n gryn gamp i gôr Cymreig i ddod â chanu corawl i amlygrwydd yn y byd adloniant mewn oed o adloniant 'karaoke'.

"Mae hyn yn newyddion da i bawb sy'n ymwneud â Chorau Meibion yng Nghymru yn fwy na dim, fy ngobaith yw y bydd yn ysbrydoli mwy o ddynion ifanc i ymuno â ni a chadw'r traddodiad gwych hwn yn fyw ac yn llawn egni. Rydw i'n dymuno pob llwyddiant i Gôr Meibion Froncysyllte."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Trefi
Radio Cymru
Hanes
Papurau Bro


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy