Cynhaliwyd y cyntaf o'r ddau ddigwyddiad ar Ebrill 17 yn Neuadd Capel Ebeneser. Daeth dros gant o blant o dan bump oed ynghyd â'u rhieni i fwynhau hwyl a sbri yng nghwmni rhai o hoff gymeriadau adloniant yn y Gymraeg. Yn arwain y gweithgareddau roedd Gareth Delve a Lowri o raglen S4C Cyw. Mae Lowri yn gyn-ddisgybl y Cylch Meithrin yma yn Rhuddlan. Roedd y plant yn ymateb yn hwyliog ac yn dangos brwdfrydedd tu hwnt i'r disgwyl! Pan ymunodd Sam Tân a Sali Mali yn yr hwyl roedd pawb wrth eu bodd yn gwylio ymateb y plant i'r cymeriadau hyn. Pawb eisiau cael eu lluniau wedi eu tynnu hefo Sam, Sali, Gareth a Lowri a thra roedd bwyd yn cael ei weini torrwyd y gacen i ddathlu yr achlysur arbenning hwn. Yn bresennol hefyd roedd nifer o gyn-athrawon y Cylch Meithrin yn cynnwys yr athrawes gyntaf sef Mrs Lywena Ashton a oedd yn ymddangos fel pe bai'n mwynhau y parti gymaint â'r plant! Roedd DVD yn cael ei chwarae ac yn dangos y canwr enwog Mike Peters yn canu hefo'r plant meithrin ac fe brofodd hyn i fod yn atyniad poblogaidd dros ben. Yn ddyn dewr iawn, crwydrodd Hywel Gwynfryn o amgylch y plant a'r rhieni gan siarad, holi a recordio unigolion. Darlledwyd yr achlysur ar raglen Nia ar ddydd Llun wedi'r dathlu. Pnawn i'w gofio! Cyngerdd y dathlu
Fel rhan o'r dathlu cynhaliwyd Cyngerdd y Dathlu yng Nghapel Ebeneser ar nos Sadwrn, Ebrill 24. Roedd y capel yn orlawn gyda degau o bobl yn sefyll yn y cyntedd a thu allan i'r capel. Yn diddanu'r cannoedd roedd Côr Ysgol Glan Clwyd, Côr yr Arfordir, parti unsain ag un adroddwr ac unawdydd, Parti Gwen a Rhys Jones, Rhian Edwards (Rhuddlan), Bethany Davies (Rhuddlan), Catrin Jones (Sir Fôn) a Ffion Hywel (Caerdydd). Yn gweu y cyfan at ei gilydd roedd Alun Williams (cyflwynydd rhaglen Sgorio ar S4C) ac un sydd yn gyn-ddisgybl o'r Cylch Meithrin. Diolchwyd i bawb gan Hywel Jones, y cadeirydd, ac wedi'r adloniant ddirwyn i ben cafodd bawb gyfle i fynd i neuadd y capel i fwynhau paned a sgwrs, i dynnu'r raffl ac i bori drwy hen luniau o'r Cylch ac wrth gwrs i hel atgofion.
 |