| Casglodd Eleri symiau enfawr at yr elusen, ers i Aled Jones, y canwr enwog ddod yn noddwr i Dŷ Gobaith. Wedi hyn ffurfiwyd grŵp o "Ffrindiau Aled" i gasglu arian at yr elusen ac Eleri yn un ohonynt. Bu yn edmygydd o Aled ers yn ifanc, pan gyfarfu ag ef, pan oedd yn canu yng Nghôr y Gadeirlan ym Mangor ugain mlynedd yn ôl. Cyfarfod ag ef eto ym mis Mawrth diwethaf ar ôl y Cyngerdd yn Neuadd y Philarmonic yn Lerpwl.
 Casglodd Eleri £2,100 mewn ymdrech a drefnodd yng Nghastell Bodelwyddan ym Medi diwethaf a £1,600 mewn Noson Nadoligaidd a drefnodd gyda rhai eraill yn y Rhyl. Mae hi'n gobeithio cyfarfod ag Aled Jones eto pan fydd yn canu yn Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl ar Fawrth 27. Bydd yn ymuno hefo "Ffrindiau Aled at Tŷ Gobaith" ac yn casglu arian at yr elusen yn y Cyngerdd yno. Fe gasglwyd £12,000 gan y grŵp yn y flwyddyn ddiwethaf - digon i dalu am therapi trwy gerddoriaeth i'r plant yn yr hosbis am flwyddyn. Trefnir Ymdrech arall gan Eleri ym Mhlas Teg ger Yr Wyddgrug ar Mehefin 2 tuag at yr elusen. Dymunwn bob llwyddiant i'w hymdrechion i godi arian at achos mor deilwng. Nyrs yw Eleri yn Ysbyty Prestatyn ac mae ei phriod yn nyrsio hefyd yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae ganddynt ddau o blant, sy'n ddisgyblion yn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl, Aled a Tesni. Mae Tŷ Croeso angen tair miliwn a hanner o bunnau i gyflawni'r gwaith pwysig a wnant bob blwyddyn. Daw 3% o'r arian oddi wrth y Cynulliad ond mae'n rhaid i'r 97% gael ei godi gan wirfoddolwyr Ymroddgar fel Eleri.
 |