Dydd Iau, 4 Mehefin, daeth tyrfa fawr i Ruthun i weld gweddw Tom Pryce, Nally, yn dadorchuddio cerflun i gofio amdano. Roedd Gwyneth Pryce, ei fam, yn bresennol ynghyd â nifer o'i gyfeillion o fyd rasio Ceir. Ganwyd Tom ym 1949 ac er iddo cael gyrfa mor fer, roedd wedi llwyddo i ennill enw da yn y byd Fformiwla 1. Dyma gasgliad o luniau o Tom a anfonwyd gan gyfranwyr i'r wefan.
 |