Cynlluniem daith gogyfer â phob 'gwyliau ysgol' i ddim mwy o bwrpas na ymgynefino ac ardal Thomas Pennant . . . onid oedd Paul Evans wedi gwneud ei ddoethuriaeth ar sawl agwedd o berson y polimath hwn (1726-1798) o'r Downing? Dysgasom lawer. Un diwrnod arbennig, benthyciwyd allweddau eglwys y plwyf i ni, i droi i mewn ac edrych ar y cerflun-gofeb sydd yno wrth yr organ wedi ei godi gan fab Thomas Pennant - David - er parchus goffadwriaeth am ei dad.
Digwyddais sôn wrth yr hogia' fy mod flynyddoedd ynghynt wedi tynnu llun o feddrod arlunydd y gŵr enwog oedd bellach wedi ei symud yn ei grynswth i glawdd terfyn gogleddol y fynwent. Wedi cloi'r eglwys, gwnaethom ein llwybr ar draws y lawnt-fynwent i'r llecyn.
'Hed amser meddwn - na Erys amser dyn a.'
Dyna feddyliais wedi cyrraedd y fan ac edrych mewn dychryn ar y beddfaen a'r ysgrifen! Yn fy nhryloywder i, wrth ei daflu ar y sgrîn, gellir darllen holl fanylion byw a marw'r arlunydd hwn o Lŷn! Pan edrychom arno, nid yn unig y cen cerrig a'r mwsogl oedd wedi bod wrthi yn erydu - ond elfennau amser a hin!
Penderfynasom fynd i weld y person i edrych beth allem, garedigion coffadwriaeth y ddau deithiwr, wneud i achub y safle.
Cawsom ribidirês o resymau pam na fedrai'r eglwys wneud dim oherwydd y gofynion trwm sydd arni(ynt) felly gofynasom am hawl a bendith i wneud rhywbeth ein hunain! Wedi rhoi'r peth gerbron cyngor yr eglwys a rhoi sicrwydd na fyddem yn pwyso arnynt o gwbl, cawsom ganiatâd i 'wneud rhywbeth'. Gallaf ddweud yn awr heb os nac oni bai, mai dyma gychwyn 'Y Grŵp Pennant' fel y galwem ein hunain y pryd hynny - ond erbyn hyn sydd wedi cael hunan ddyrchafiad i fod yn 'Cymdeithas Thomas Pennant' efo'n cyfansoddiad, bwriadau a'n prosiectau i hyrwyddo cof amdano yn y fro a'r genedl.
Yn nhrafodion y grŵp (cymdeithas) mae cofnodion a hen filiau am y gost wynebwyd y dyddiau hynny - a chymhorthdal gan y cynghorau hefyd). Cawsom wasanaeth arbennig i ddadorchuddio'r beddfaen a'r gofeb yn y mur ac ar y nos Sul arbennig honno 17 Hydref, 1990 roedd Cymanfa Ganu ddwyieithog yn yr eglwys a neb llai na'r diweddar annwyl Athro Bedwyr Lewis Jones yn annerch!
Atgoffwyd fi o hyn ychydig yn ôl pan oeddwn yn y 'stac' yn Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor ac yn byseddu ôl rifynnau Y Faner. Yn rhifyn Tachwedd 2il, 1990 gwelais
'Moses Griffith 1742-1819'
Fersiwn Gymraeg o anerchiad dwyieithog a draddodwyd mewn Cymanfa Ganu yn Eglwys Chwitffordd ar achlysur ailgysegru bedd Moses Griffith, 17 Hydref gan Bedwyr Lewis Jones.
O hynny hyd yn awr, mae gennyf ddiddordeb personol yn yr artist 'cyntefig' (primitive) hwn o Lŷn. Mae sawl un wedi ymchwilio i fywyd a gwaith 'Pennant' - ond mae lle i ofyn pa le y buasai Pennant heb ei was ffyddlon? Yn wir - y mae'r glew bolimath yn cyfaddef ei ddyled iddo. Yn ei gyfrol 'Literary Life' cyfeira ato fel 'Fy Nhrysor'! Gan dynnu ar anerchiad Bedwyr a ffynhonnell neu ddwy arall, hoffwn ymhelaethu i danlinellu pwysigrwydd y gwas i'r meistr!
Dyma dri ohonynt i gychwyn . . .
'Hogyn o Lŷn oedd Moses Griffith. Yno yn ardal Bryncroes ym mhen pella gwlad Llŷn y'i ganwyd o yn 1747. Hogyn cyffredin oedd o, mab i forwyn a gwas ffarm. Mi gafodd beth addysg yn Ysgol Botwnnog. Mi ddangosodd fod ganddo dalent i dynnu llun. Ond doedd medr i dynnu llun fawr o fudd i chi ym Mhen Llŷn ddau gant a hanner o flynyddoedd yn ôl; doedd yna ddim cyfle nac anogaeth i feithrin dawn felly, ac eithrio, efallai, i baentio arwydd tŷ tafarn neu ben blaen llong . . . Yn ddwy ar hugain oed, cyflogwyd Moses Griffith i Pennant ac fe'i cyflogwyd yn was ganddo. Yn ogystal â darn llithrig o ysgrifennu cyhyrog Bedwyr - mae'r darn yn gofyn cwestiwn, gwaelodol! Sut y cafodd Pennant afael ar Moses? Hyd y gwelaf i - er fod yna dipyn o ymchwil a sgwennu wedi bod ar y polimath o Chwitffordd, nid wyf wedi gweld unrhyw gyfeiriad hanesyddol, pendant yn egluro sut! Gofynnaf innau - a welodd Pennant fwy ynddo na ffynhonnell gwas cyflog i fynd a dwad, troi a thrin a chodi beichiau? A gafodd gip yn rhywle, gan rywun ¬cydnabod uchelael efallai - o waith y bachgen cyffredin? Mae maes ymchwil yma yn sicr.
Yna dyma frawddeg ddiddorol eto 'Gadawodd [Moses Griffith] ar ei ôl ddwy fil a rhagor o luniau. Gwnaed ysgythriadau o rai ohonynt a'u hatgynhyrchu yn llyfrau Pennant - yn ei Deithlyfr trwy Gymru, yn ei lyfr ar hanes plwyfi Chwitffordd a Threffynnon'.
Dwy fil o luniau! Bobol bach . . . ac yn awr, maent i gyd dan glo ym mherfeddion ein Llyfrgell Genedlaethol. Ond mae mwy rhwng llinellau'r frawddeg. Mae hanes oes o gyd deithio - ac nid yma yn Sir Fflint ond Cymru, Ynys Manaw, Yr Alban ac Ynysoedd yr Heledd . . . mae yma'r syniad o gydfyw, o gydsymud a'r naill yn elwa ar y llall. Heblaw Person Caerwys, y Parch John. Lloyd - gan bwy oedd yr allwedd ieithyddol mewn pentref a thref a thafarn yng Nghymru? Moses! Cofiaf yn Ynys Skye - Yr Heledd, fynd o gwmpas bragdy wisgi - yn eu harddangosfa - credwch neu beidio roedd llun o Pennant a chyfeiriad at ei Was o Drysor oeddynt wedi bod yn croniclo a recordio bywyd lled gyntefig yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg! Tra ar daith - ni allai godi'r un pwn o flawd na golchi'r ceffylau! Mae Bedwyr yn gorffen ei draethawd fel hyn.. .
'Atgynhyrchwyd llawer mwy [lluniau] mewn nifer bach o gopïau arbennig iawn - copïau grangerized o'r Teithlyfr trwy Gymru. Mae un set bedair cyfrol o'r rhain yn Llyfrgell Coleg Bangor, ac yn hyfryd o beth ¬testun y llyfr wedi ei osod ar ganol dalen fawr wen, ac yna ar waelod y ddalen neu ar y dudalen wag ar y chwith atgynhyrchir dau o luniau Moses Griffith wedi eu lliwio a llaw: llun o Enlli o Uwchmynydd a ffermwyr wrthi yn y gwair, llun o Bont Llanrwst, a lluniau bach, bach o dai yn y rhan hon o Glwyd [Sir Fflint rŵan] y mae'n bleser edrych arnyn nhw. Mae'r cyfrolau'n drysor amhrisiadwy.
Llygaid clir Moses Griffith, ei fedr fel crefftwr, hynny sy'n eu gwneud yn drysor . . . '
Er ffurfio Cymdeithas Thomas Pennant - mae wedi bod yn amhosibl, yng ngweithgareddau'r Gymdeithas, ddatgysylltu'r meistr a'r gwas. Erbyn hyn, mae gennym ddarlith flynyddol - 'Darlith Pennant' - ac ymysg y deg darlith sydd wedi bod, mae tair wedi bod ynglŷn â gwaith arlunwyr yn cofnodi cronicladau Thomas Pennant - gydag arbenigwyr fel cyn geidwad darluniau a mapiau y Llyfrgell, Donald Moore, yna ar ei ôl ef - Dr Paul Joyner yn anerch! Yr oeddynt ill dau yn hyddysg â'r pwnc - ac yn gallu cymharu gwaith a thechneg Moses efo arlunwyr eraill megis John Sandby ac Ingleby a ddefnyddiwyd gan Pennant. Ni roddodd neb ef yn 'nefoedd' yr anfarwolion - megis Turner a Wilson - ond roedd ac mae pawb yn gytûn fod ei gyfraniad i'n gwybodaeth am dir a daear a byd natur, a Chymru yn enwedig wedi bod yn enfawr.
Beth am ryw 'ragymadrodd' i'w fywyd a'i waith? Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979 gwnaeth Cyngor y Celfyddydau ddau beth: Arddangosfa Deithiol a drefnwyd mewn cysylltiad a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei selio ar ei fywyd a'i waith. Cyhoeddwyd cyfrol ddwyieithog yn sgîl hyn.
'Moses Griffith
1747-1819
Arlunydd a Darlunydd yng
Ngwasanaeth Thomas Pennant'
Mae hwn yn drysor o lyfryn - ac fel aur - allan o brint ers amsetr ond mae'mn ymdriniaeth safonol - eto gan Donald Moore Ceidwad Printiau, Darluniau a Mapiau (bryd hynny) Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bu farw Moses yng Ngwibnant ym 1819 yn 72 mlwydd oed.
Un o'm trysorau personol erbyn hyn yw'r sleid a dynnais o'i feddrod ac arno yn blaen:
IN MEMORY OF MOSES GRIFFITH - an ingenious and self-taught arist, who accompanied Thomas Pennant, the Historian on his Tours, whose works he illustrated by his faithful pencil. Died November 11th, 1819, aged 72.
Yr oedd y meistr yn trysori'r gwas cymaint i'r graddau fel - yn ei ewyllys ef yn 1798 rhoes orchymyn i'w fab ¬etifedd David fod Moses i gael byw yn ei gartref, ar y stâd - yn rhad ac am ddim, weddill ei oes! Fel troed nodyn i'r traethawd hwn, hoffwn ddweud fod y stori yn mynd yn ei blaen. Bu'r Grŵp Pennant - a Chyfeillion Llŷn yn cydweithio a pherchnogion 'Trygarn' hen gartre Moses, i roddi cofeb lechen ar y wal, er gogoniant i'w enw a'i gyfraniad!
Rhof ynoch y meddwl hwn . . . Wrth syllu ar hunan bortread ohono yn hir a manwl . . . nid gwas cyffredin dwylo creithiog - gwisg ffwr a hi fuasai yn gwisgo y mwffler drud, y wasgod a'r got uchelaidd, a heb flewyn o dan ei drwyn nac o gwmpas ei ên! Na nid gwas cyffredin y trysor hwn!
Norman Closs Parry
Gyda diolch i Llafar Gwlad am ganiatâd i atgynhyrchu'r erthygl hon. Ymddangosodd yn rhifyn Haf 2007 y cylchgrawn.