BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Paul Brighton a Norman Closs-Parry o flaen pabell y gymdeithas yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007Cymdeithas Thomas Pennant
Dod ar draws bedd yr arlunydd Moses Griffith mewn cyflwr difrifol ar daith o gwmpas Sir y Fflint a ysgogodd rhai o drigolion y sir i sefydlu cymdeithas i gofio am y naturiaethwr Thomas Pennant.

Norman Closs Parry, Paul Brighton a'r Dr Paul Evans oedd y tri a benderfynodd bod angen adfer bedd yr arlunydd o Ben Llŷn a oedd yn gydymaith ac yn ddarluniwr i Thomas Pennant ar ei deithiau.

Fe gasglon nhw £3,000 i ailosod y bedd a threfnwyd darlith gan y diweddar Bedwyr Lewis Jones.

"O geiniog i geiniog aeth swllt yn bunt," meddai Norman Closs-Parry wrth adrodd yr hanes ac fe ddaeth Cymdeithas Thomas Pennant i fodolaeth.

Paul Brighton a Norman Closs-Parry Yna, yn 1996, dyddiad 200 mlwyddiant cyhoeddi un o lyfrau lleol enwocaf Pennant, The History of the Parishes o Whiteford and Holywell, cyhoeddodd y gymdeithas 5 o deithiau cerdded a sefydlu darlith flynyddol yn enw Thomas Pennant. Cynhelir y ddarlith bob blwyddyn yn yr Hydref.

Amcanion y gymdeithas ydy hyrwyddo coffadwriaeth deilwng i Thomas Pennant a chodi arian i brosiectau a fydd yn dod â'r ardal i amlygrwydd fel 'Gwlad Pennant'.

Fe wnaethon nhw ddathlu 200 mlwyddiant ei fywyd mewn gwasanaeth arbennig yn 1998.

Mae'r gymdeithas hefyd wedi ymuno â Chyfeillion Llŷn i roi cofeb ar fur hen gartref Moses Griffith yn Nhrygarn, Sarn Mellteyrn. Nod arall y gymdeithas ydy codi cofeb i Thomas Pennant ym mhentref Chwitffordd.

Rhoddodd llywydd y gymdeithas, Dr Goronwy Wynne, ddarlith ddifyr am fywyd Thomas Pennant yn Eisteddfod Sir y Fflint a'r Cyffiniau.

Os hoffech chi gysylltu â'r gymdeithas, gallwch ffonio'r cadeirydd Norman Closs Parry ar 01352 711036.




0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy