BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Bwrdd dartiau
Mark Webster

Ganwyd: Awst 12, 1983

Magwyd: Llanelwy


Pencampwr ar chwarae dartiau

Enillodd Mark Webster, llanc ifanc o Ddinbych, Bencampwriaeth Dartiau'r Byd ym mis Ionawr, 2008.

Curodd Simon Whitlock o Awstralia 7-5 mewn gornest derfynol gyffrous yn y Lakeside yn Frimley Green, ar ôl bod ar y blaen drwy gydol y gêm derfynol. Roedd llu o gefnogwyr swnllyd o Ddyffryn Clwyd yno i roi hwb iddo.

Daeth â chlod mawr i'w wlad a chipiodd y brif wobr o £85,000, sy'n cadarnhau ei le fel un o arwyr y byd dartiau, er y cyfyngwyd ef hyd yn hyn i chwarae'n rhan amser, gan gynnal ei hun hefyd drwy waith plymio o dro i dro.

Ei dafarn leol yw'r Golden Lion yn Ninbych; ni ddechreuodd chwarae dartiau tan roedd yn ddeunaw oed.

Mark yw'r trydydd Cymro i ennill pencampwriaeth y BDO (Sefydliad Dartiau Prydain) gan ddilyn yn ôl troed y diweddar Leighton Rees a Richie Burnett. Gwobr Leighton Rees oedd £3,000.

Nid oes gan Mark ffug enw, fel y rhan fwyaf o'r chwaraewyr eraill, ond cysylltir ef a'r gân Jump gan Van Halen, ei gerddoriaeth agoriadol.

Daeth i'r brig drwy ennill Cwpan y Byd (Senglau) yn 2007. Enillodd Gwpan Ewrop Ffederasiwn Dartiau'r Byd yn 2006, a chyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yng Nghystadleuaeth Meistri'r Byd Winmau yr un flwyddyn. Enillodd hefyd Gystadleuaeth Agored Cymru, y Clasur Gymreig, a Chystadleuaeth Agored Canada. Mae wedi curo'r goreuon, yn eu plith Phil Tailor.

"Fedra i ddim coelio'r peth," meddai Mark, sy'n chwarae gyda'i law chwith. "Dw i ddim yn meddwl y buaswn i wedi medru mynd ymlaen lawer mwy."

Ond er ei fuddugoliaeth fythgofiadwy - a'r sws gafodd gan ei gariad Lorraine! - bydd Mark yn dal ymlaen gyda'i gwrs plymio yn y coleg lleol.

"Wnes i fwynhau fy hun - mae'n rhaid i chi, oherwydd does dim sicrwydd y cewch gymryd rhan eto ym mhencampwriaeth y byd. Rydw i wedi dotio. Mae gen i un diwrnod i ffwrdd, ac wedyn dwi nôl yn y coleg!"


Cyfrannwch

Gregory Thimble o Saron
Wel dyn Mark la, hogia Dinbych nai
Mon Jan 14 23:30:27 2008


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy