Y Cymro ifanc o Ddinbych oedd ar y blaen drwy gydol yr ornest derfynol ac aeth ar y blaen o 3-0 nes i Whitlock frwydro'n ôl i leihau'r fantais. Roedd ar y blaen o 4-2 ar yr egwyl ac er i Whitlock ennill tair set, roedd Webster yn bencampwr haeddiannol. Webster yw'r trydydd Cymro i ennill Pencampwriaeth y BDO gan ddilyn yn ôl troed y diweddar Leighton Rees a Richie Burnett. Hawliodd y dartiwr o Ddinbych ei le yn y rownd derfynol drwy guro'r prif ddetholyn Martin Adams 6-4 mewn gêm gyffrous arall.
 |