| Sicrhaodd Davies o Abertawe y fuddugoliaeth yn y rownd derfynol mewn amser o 28.67 eiliad gyda Emma Saunders yn gorffen yn ail. Roedd rhagor o lwyddiant i'r Cymry gyda Jemma Lowe yn sicrhau ei lle ym Mhencampwriaeth y Byd yn Shanghai. Gorffennodd Lowe yn ail yn 200m dull pili pala gyda Ellen Gandy yn ennill y ras.
 |