BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Joey Jones
Joey Jones

Ganwyd: 4 Mawrth 1955, Bangor

Magwyd: Llandudno

Addysg: Ysgol Gynradd Stella Maris, Ysgol Uwchradd Mostyn


Arwr i dîm Wrecsam ac un o bêl-droedwyr enwocaf Cymru a Lerpwl.

Ganed Joey ym Mangor a chafodd ei fagu yn Llandudno lle chwaraeodd i'r un tîm â Neville Southall, y Llandudno Swifts.

Dan arweiniad y sgowt lleol, Evan Williams, Craig-y-Don, aeth ar brawf i Gaer a Wrecsam. Gydag un arall o arwyr Wrecsam, Mickey Thomas , gafodd gynnig gwaith ar y Cae Ras yn 1971 - yn trin y cae. Ond yn 17 oed, cafodd ei gêm gyntaf i'r tîm cyntaf mewn gêm gwpan yn erbyn y gelyn lleol, Dinas Caer.

Joey Jones yn chwarae dros Gymru Fel aelod llawn o dîm cyntaf Wrecsam, roedd yn rhan o'r garfan a gyrhaeddodd rowndiau go gyn derfynol Cwpan yr FA am y tro cyntaf yn hanes y clwb yn nhymor 1973/74 gan guro timau'r ail adran Crystal Palace a Middlesborough a Southampton o'r adran gyntaf cyn colli i Burnley, hefyd o'r adran gyntaf.

Yn 1975, enillodd Joey Gwpan Cymru pan gurodd Wrecsam Ddinas Caerdydd yn y rownd derfynol, ond wrth i'w gyd chwaraewyr baratoi i fynd i Ewrop i wynebu Djurgardens yn Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, roedd Joey ar ei ffordd i Anfield am ffi anodd-ei-wrthod, £110,000.

Gan ei fod yn frodor o Landudno mae bywgraffiad llawn o yrfa Joey ar wefan Lleol y gogledd orllewin.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy