BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Mickey Thomas
Mickey Thomas

Ganwyd: 7 Gorffennaf 1954

Magwyd: Mochdre

Addysg: Ysgol Gynradd St. Joseph, Ysgol Pendorlan ym Mae Colwyn


Pêl-droediwr i dimau Wrecsam, Manchester United a Chymru

Mae Mickey Thomas yn un o griw o bêl-droedwyr talentog a ddaeth o'r gogledd orllewin yn ystod yr wythdegau.

Yn ifanc iawn, roedd ei frwdfrydedd yn amlwg dros y gêm ond yn anffodus doedd ganddo ddim esgidiau pêl-droed. Fe glywodd ffatri leol Quinton Hazell am hyn a phrynu rhai iddo a doedd dim stop arno wedyn!

Yn 13 mlwydd oed fe brofodd Mickey lwyddiant efo tîm y ffatri yng Nghyngrair Conwy ar yr asgell chwith. Ond yn 15 oed mi gafodd o a'i ffrind Joey Jones eu gwahodd i ymuno â thîm pêl-droed Wrecsam. Er iddo dreulio'r ddwy flynedd gyntaf yn glanhau sgidiau, stafelloedd newid a'r stadiwm, fe gafodd ei ddewis yn 17 oed i chwarae dros y tîm cyntaf. Dan arweiniad y rheolwr ar y pryd, John Neal, fe fu'r tîm yn llwyddiannus iawn yn ystod y cyfnod gan gyrraedd rownd yr wyth olaf yng nghwpan FA Lloegr yn 1974, Cwpan Enillwyr Ewrop yn 1976 gan golli i'r pencampwyr, Anderlecht.

Ond ar ôl helpu Wrecsam i gyrraedd Pencampwriaeth y Drydedd Adran mentrodd Mickey i chwarae dros y ffin ac ymunodd â Manchester United. Yno fe chwaraeodd 110 o gemau gan sgorio 15 gôl i'r cochion cyn symud i Everton ac yna i Brighton, Stoke a Chelsea. Yn Chelsea, bu'n chwarae i'r tîm a enillodd yr Ail Adran yn Lloegr gyda'i hen gyfaill Joey Jones, cyn symud yn ôl i Wrecsam yn 1991.

Ac fe ddathlodd! Pan gurodd Wrecsam Arsenal yng nghwpan yr FA yn Ionawr 1992, Mickey, ac yntau'n 37 oed, a sgoriodd y gôl enillodd y gêm.

Enillodd Mickey Thomas 51 cap dros Gymru hefyd gan sgorio gôl bwysig ym muddugoliaeth 4-1 Cymru dros Loegr - un o gemau bwysicaf ei yrfa yn ôl Mickey. Er nad ydy o'n chwarae'r gêm bellach, mae'n sylwebu'n gyson ar gemau Manchester United a Chymru.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy