BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Côr Meibion Froncysyllte
Côr Meibion Froncysyllte

Ganwyd: 1947


Côr meibion sydd wedi cyrraedd brig y siartiau.

  • Ail albwm platinwm i Gôr y Fron
  • Denu sylw Hollywood
  • Mae'r stori am lwyddiant Côr y Fron ar ôl cael eu 'darganfod' yn canu mewn priodas bellach yn chwedloniaeth.

    Cawsant gytundeb recordio gyda chwmni Universal Classics wedi i'r rheolwr Daniel Gatland eu clywed mewn priodas yn Llangollen. Enillodd eu halbwm gyntaf, Voices of the Valley, ddisg blatinwm yn 2007 ar ôl cyrraedd rhif un yn y siartau clasurol a rhif 9 yn siart BBC Radio 1 yn syth wedi ei ryddhau yn 2006.

    Mae eu hail albwm, Voices of the Valley - Encore wedi sicrhau iddynt ddisg blatinwm am yr eilwaith yn 2008 am werthu dros 300,000 o gopïau ers ei rhyddhau fis Tachwedd 2007.

    Côr y FronOnd mae hanes y côr sydd â chyfartaledd oedran o 66 - 'boy band hyna'r siartiau' yn ôl rhai - yn mynd yn ôl i'r blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd pan aeth criw lleol ati i gefnogi'r Eisteddfod Ryngwladol newydd oedd yn cael ei chreu yn Llangollen i hybu heddwch wedi blynyddoedd du y rhyfel.

    "Cafodd y côr ei sefydlu ym 1947, pan ddaeth yr hogia oedd yn byw yn Froncysyllte ddychwelyd o'r Rhyfel," meddai Cyril Jones, aelod o Gôr Froncysyllte ers dros ugain mlynedd.

    "Yn y dyddiau hynny doedd fawr ddim i'w wneud ac felly fe sefydlwyd côr a'r flwyddyn wedyn roedd digon i gystadlu yn Eisteddfod Llangollen.

    "Nid oedd yn gôr mawr o'i gymharu â heddiw ond fe dyfodd ac ymhen dwy flynedd rwy'n deall roedd rhyw 80 yn aelodau.

    "Yn y blynyddoedd ers hynny fe gododd aelodaeth y côr i dros gant ac roeddynt yn cystadlu bob blwyddyn yn Llangollen - dyna oedd eu prif beth bob blwyddyn.

    "Mae'r côr wedi bod yn ffyddlon iawn i Eisteddfod Llangollen a dwi ddim yn cofio'r un flwyddyn lle nad ydym wedi cystadlu yno.

    "Dros y blynyddoedd rydym wedi gwneud yn dda yno ac wedi ennill ddwywaith. Mae pobl Llangollen yn ein gweld fel y côr lleol.

    "Rydym yn ymarfer ddwywaith yr wythnos yn Ysgol Acrefair a rhyw 60 sydd yn y côr erbyn hyn.

    "Mae'r Côr yn gwneud tair cyngerdd y flwyddyn i Dŷ Eos yn Wrecsam ac yn ogystal â Llangollen rydym hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond nid bob blwyddyn.

    "Rydym hefyd wedi teithio dros y môr gan gystadlu ac ennill yn Athen a Malta. Mae'n rhaid i chi fynd i lefydd eraill a cheisio gwneud yn dda yn y fan honno.

    "Rwyf wedi bod yn aelod o'r côr ers ugain mlynedd ac mae'r cymdeithasu yn bwysig. Rydym yn edrych ymlaen at weld ein gilydd bob wythnos a dysgu darnau newydd.

    "Rydym wedi recordio CD's o'r blaen ond dim byd mawr

    "Bu Daniel Glatman o Lundain yn gwrando arnom mewn priodas yn Trefor Hall yn Llangollen y flwyddyn ddiwethaf.

    "Dyma'n gaddo i ni bryd hynny y byddai'n cael cytundeb recordio i ni hefo Universal i wneud CD.

    "Tydi hyn ddim y math o beth sydd yn digwydd i gorau meibion!"

    Aeth y CD honno, a'u hail CD i frig y siartiau, a chafodd y côr eu henwebu ar gyfer yr albwm gorau yng ngwobrau'r Brits Clasurol yn 2007 gan ganu ar y noson yn yr Albert Hall yn Llundain. Mwy ....

    Arweinydd y côr o 2002-10 oedd y mezzo soprano o Gorwen, Ann Atkinson. Ym Mawrth 2010 cafodd Leigh Mason ei henwi'n arweinydd y côr.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy