BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC VOCAB: OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


BBC Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Diogelu lluniau enillydd

31 Gorffennaf 2007

Arwydd ffordd ger Maesteg - un o luniau Andrew Richards

Yr Amgueddfa Genedlaethol yn prynu lluniau enillydd

Mae enillydd ysgoloriaeth artist ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol 2006 wedi gwerthu ei gasgliad trawiadol o ffotograffau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Gyda'i gasgliad o luniau ôl-ddiwydiannol dan yr enwGreen? My Valley Now mae Andrew Richards o Abertawe wedi canolbwyntio ar dirwedd Maesteg ac astudiaeth arbennig o waith ffotograffydd o'r enw Robert Frank yn yr un ardal yn y Pumdegau.

Defnyddiodd Andrew Richards rai o'r lluniau a dynnwyd gan Frank i er mwyn dangos y newid a fu dros y blynyddoedd.

Dilyn cwrs

O ganlyniad i ennill yr ysgoloriaeth gallodd Andrew astudio cwrs MA mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Prifysgol Casnewydd ac fe gyhoeddodd lyfr hefyd.

Dywedodd Rhiannon Michaelson-Yates o'r Amgueddfa Genedlaethol i'r Llyfrgell brynu'r casgliad gan fod y lluniau yn gofnod mor bwysig o'r Gymru ôl-ddiwydiannol.

Bydd rhai o'r lluniau i'w gweld ar faes yr Eisteddfod yn y Ganolfan Celf Gweledol.

Meddai Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau'r Eisteddfod: "Mae'n bwysig dangos i'n hartistiaid ifainc bod llwyfan a chyfleon iddyn nhw yma yng Nghymru. Mae'r ffaith bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu gwaith Andrew Richards yn cydnabod pa mor arwyddocaol yn diwyllianol yw ei waith yng nghelfyddyd Cymru."



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy