BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC VOCAB: OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


BBC Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Hanes lleol mewn olwyn ddŵr

1 Awst 2007

Olwyn ddwr

Arlunydd yn cyfuno hanes diwydiannol a chelf

Bydd olwyn ddŵr fawr yn cael lle o anrhydedd ar faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos hon.

Mae Megan Broadmeadow, sydd yn artist preswyl yn yr Eisteddfod, wedi peintio'r olwyn a greodd mewn ffordd fydd yn ein hatgoffa o gêm gwis ar y teledu.

Wedi ei bwriadu i adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol Sir y Fflint, bydd testun neu bwnc wedi ei beintio ym mhob rhan o'r olwyn bren er mwyn cynrychioli'r dewisiadau sydd ar gael i bobl yr ardal.

Yna, bydd perfformiad byw o sioe deledu ffug yn defnyddio'r olwyn am dri o'r gloch heddiw.

Mewn partneriaeth â Chelf Cyhoeddus Cymru ac Amgueddfa Cymru mae artist preswyl yr Eisteddfod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol - cyn, yn ystod ac yn dilyn yr Ŵyl a bu Megan Broadmeadow yn cynhyrchu ffilmiau, yn peintio ac yn cynnal gweithdai yn ardal Y Fflint yn ogystal ag ymchwilio i hanes y gymuned er mwyn creu'r negeseuon ar yr olwyn.

"Cefais fy ysbrydoliaeth i wneud y gwaith am Dreftadaeth Diwydiannol Fflint ar ôl lleoli fy hun ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Rwyf wedi mwynhau'r cyfle i greu gwaith newydd ac yn edrych ymlaen at ei gyflwyno ar faes yr Eisteddfod," meddai.



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy