Pump o bobl ifainc yn wisgo crysau t goch 'Yma i helpu'

Gwybodaeth i bobl anabl

I arbed ansicrwydd ar y dydd, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn awgrymu eich bod yn cysylltu â Swyddfa'r Eisteddfod am wybodaeth gyffredinol o flaen llaw ar 0845 122 2003.

Cadeiriau olwyn a sgwteri

Mae cwmni Byw Bywyd yn cynnig benthyg cadeiriau olwyn, a sgwteri yn rhad ac am ddim. Dylid archebu ymlaen llaw drwy ffonio 01248 717 500.

Fersiwn print bras

Gallwch ofyn am gymorth gyda fersiwn print bras o Raglen yr Eisteddfod trwy gysylltu â Swyddfa'r Eisteddfod ymlaen llaw (mae'n bwysig rhoi digon o rybudd). Gweler y manylion cyswllt isod.

Cyrraedd yr Eisteddfod

Darperir mannau arbennig i ddeilwyr bathodynnau glas i barcio ym mhob maes parcio. Mae modd defnyddio'r bws gwennol ond nid yw pob bws gyda lloriau isel. Y cyngor yw i aros nes bydd bws yn cyrraedd gyda mynediad i gadair olwyn. Bydd y bysiau gwennol yn dod â phawb i'r brif fynedfa.

I brynu tocynnau, mae'r ffenestri yn isel, sydd yn addas i bobl mewn cadeiriau olwyn. Yma hefyd mae system 'loop' er mwyn cynnig cymorth i bobl sydd yn gwisgo teclyn clywed.

Gallwch dderbyn gwybodaeth a chyngor cyffredinol am yr Eisteddfod yn y Ganolfan Groeso, lle gallwch hefyd fenthyg offer cyfieithu yn rhad ac am ddim.

Mae tywyswyr, sydd yn gwisgo crysau t coch, gyda'r geiriau Yma i helpu o gwmpas y Ganolfan. Gallant gynnig gwybodaeth am yr hyn sydd i'w gynnig ar y Maes, mewn sawl iaith.

Mae stiwardiaid y Brifwyl (sydd hefyd ymhob un o adeiladau'r Eisteddfod) yno i gynnig cymorth. Ewch atynt gydag unrhyw broblem ymarferol, a byddent yn barod i'ch helpu, neu yn trefnu i rywun arall eich cynorthwyo.

Darperir bws mini, wedi'u haddasu i bobl ag anableddau, gyda gyrrwr cymwys a thrwyddedig i fynd o amgylch y Maes trwy'r dydd. Gellir defnyddio'r bws yma i deithio o fewn y Maes yn rhad ac am ddim.

Toiledau

Ymhob bloc o doiledau, mae un sydd wedi ei addasu ar gyfer pobl anabl, gyda ramp yn arwain atynt. Hefyd, yn y ddau brif floc o doiledau, mae toiled anghenion arbennig. Mae clo ar y toiledau hyn sydd yn gweithio gyda goriad RADAR. Os fyddwch angen defnyddio'r rhain, a heb y goriad pwrpasol, ewch i stondin MENCAP.



Manylion pellach

Am fanylion llawn, gan gynnwys darpariaeth y Pafiliwn a'r Babell Lên, ewch i wefan swyddogol yr Eisteddfod.

Os cewch unrhyw drafferthion yn ystod eich ymweliad â'r Maes, ewch i Swyddfa'r Eisteddfod, sydd wedi ei leoli tu ôl i'r Pafiliwn, neu

Cysylltu â'r Swyddfa'r Eisteddfod

Ffoniwch: 0845 122 2003
Ebostiwch gwyb@eisteddfod.org.uk


Straeon o'r Maes

Tudur Hallam

Edrych nôl

Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.