Dydd Llun
Seremoni Coroni'r Bardd
16.30 Pafiliwn Tasg: Casgliad o gerddi heb fod dros 200 llinell: Newid
Dydd Mawrth
Seremoni Medal Syr T. H. Parry - Williams er clod
12.10pm
Pafiliwn
- 2010: Leah Owen
- 2009: Haf Morris enillodd y fedal hon yn Y Bala.
- Yn Eisteddfod Caerdydd 2008 dyfarnwyd y Fedal i Mair Penri Jones, Y Bala
Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
17.00
Pafiliwn
Tasg: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Dydd Mercher
Seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaith a Chroesawu Cyfeillion o Wledydd Tramor
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Adfywiad.
Nos Fercher
Seremoni Tlws y Cerddor
19.15
Pafiliwn
Cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o un llais a dau offeryn mewn unrhyw arddull addas. Caniateir mwy nag un symudiad heb fod yn hwy nag 8 munud.
Dydd Iau
Cyflwyno enillydd Dysgwr y Flwyddyn
11.30
Pafiliwn
- 2010: Julia Hawkins. Stori; Seremoni
- 2009: Meggan Prys, yn wreiddiol o Ohio yn America enillodd y teitl
- 2008: Madison Tazu oedd enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Cyflwyno Enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
11.35
Pafiliwn
Am gyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- 2010: H. Gareth F. Roberts o Fangor
- 2009: Dafydd Dafis o Randirmwyn oedd yr enilllydd
- 2008: Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
Seremoni Cyflwyno enillydd y Fedal Ddrama
16:00
Pafiliwn
- 2010: Neb yn deilwng. Stori
- Am yr ail dro'n olynol enillodd Dyfed Edwards y Fedal Ddrama yn 2009 ar ôl ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008
Dydd Gwener
Seremoni Cadeirio'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Awdl mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell: Ennill tir.
Eisteddfod Glynebwy 1958
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â Glynebwy oedd yn 1958 pan oedd William Morris yn Archdderwydd, T Llew Jones yn ennill y Gadair , Llewelyn Jones y Goron ac E Cynolwyn Pugh y Fedal Ryddiaith.
Gwybodaeth ychwanegol
Tua awr o hyd yw pob un o'r prif seremonïau (y Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio). Mae angen i bawb fod yn eu seddau erbyn 16.15. Ni agorir y drysau wedyn tan bod y seremoni wedi gorffen am tua 17.30 o'r gloch.
Darllenwch am holl seremonïau Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009, Caerdydd 2008 ac Eisteddfod Y Fflint 2007 trwy glicio ar y dolenni ar y dde.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Straeon o'r Maes

Edrych nôl
Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.


