Mae'r Goeden Greu yn cynnwys pedair stori gyda thestun a lluniau lliwgar a deniadol.
Mami Wata
Mae'r stori wedi ei seilio ar chwedl draddodiadol o Affrica am Mami Wata, ysbryd dewr yr afonydd, sy'n achub pentref yn Affrica rhag anghenfil ofnadwy. Mae'n llawn disgrifiadau cyfoethog a deialog rhwng cymeriadau. Mae'n esiampl dda o sut i strwythuro stori ddychmygus.
Jîni y Darten Geirios
Stori fodern yw hon am fachgen o'r enw Math sy'n dychmygu bod jîni yn codi o'r stêm a ddaw o'i darten geirios boeth ac yn gwneud pob math o bethau drosto. Mae hi'n stori am ddychymyg plentyn a'r bobl bwysig yn ei fywyd. Mae'n llawn disgrifiadau cyfoethog a deialog rhwng cymeriadau ac mae'n esiampl dda o sut y gall plant greu eu storïau dychmygus eu hunain.
Jac Do
Darllenwch stori Jac Do i weld beth sy'n digwydd pan mae'n mynd i fyw yng nghwt y colomennod. Mae'r stori yn canolbwyntio ar thema hiliaeth ac yn rhoi cyfle i'r plant edrych ar y byd o safbwynt gwahanol. Mae gan y stori ddau ddiweddglo gwahanol a gallwch chi ddewis pa un yw'r un gorau.
Chwilio am yr Haul
Ymunwch â Gwibiwr, Llamwr a'u ffrindiau ar y traeth i weld beth sy'n digwydd pan fydd yr haul yn mynd ar goll. Mae'r stori hon wedi ei lleoli ym myd creaduriaid bach ar y traeth ac mae'n edrych ar y byd trwy eu llygaid nhw. Mae hi'n esiampl dda o sut y gall plant greu eu storïau personol eu hunain. Mae gan y stori ddau ddiweddglo gwahanol a gallwch chi ddewis pa un yw'r un gorau.
Gweithgareddau
Gwylio Stori
Gwyliwch y stori gyda thestun neu hebddo. Cliciwch ar yr eicon llyfr os ydych chi am weld testun ochr yn ochr â'r lluniau a'r sain.
Darllen stori
Darllenwch y stori ar gyflymdra sy'n addas i chi. Mae'r testun yn ymddangos ochr yn ochr â'r animeiddiad.
Trefnu stori
Profwch eich sgiliau gwrando neu ddarllen a deall trwy osod digwyddiadau yn y drefn gywir cyn cwblhau brawddegau sydd wedi eu seilio ar y stori.
Lefel 1
Cliciwch ar y lluniau o'r storïau er mwyn eu rhoi yn y drefn gywir.
Lefel 2
Cwblhewch 5 neu 9 o frawddegau fel eu bod yn cyfateb i luniau o'r stori.
Newid stori
Dewiswch deitl o blith detholiad o gymeriadau a sefyllfaoedd cyn mynd ati i ysgrifennu.
Mae dewis o bedwar o dempledi yn yr adran ysgrifennu. Mae'r rhain yn amrywio yn ôl faint o destun rydych chi am ei ysgrifennu a faint o help rydych chi ei eisiau.
Bydd un o'r cymeriadau yn eich helpu trwy ofyn y cwestiynau canlynol:
• Pwy sydd yn eich stori?
• Ym mhle mae eich stori'n digwydd?
• Sut mae eich stori'n dechrau?
• Beth sy'n digwydd yn eich stori?
• Sut mae eich stori'n gorffen?
Ar ôl i chi orffen ysgrifennu, mae cyfle i greu lluniau ar gyfer pob tudalen o'ch stori.
Creu Stori
Ysgrifennwch a dyluniwch stori am y cymeriadau a'r gwrthrychau sydd yn y stori rydych chi newydd ei darllen. Mae dwy lefel