Pwrpas Dewch i Greu yw adeiladu peiriant pinbel. Gêm ffiseg yw hi sy'n ymdrin â grymoedd gwthio a thynnu, ffrithiant, bownsio a gwrthdaro. Gallwch chi addasu un o'r peiriannau pinbel parod neu ddechrau o'r dechrau a chreu un unigryw eich hun. Bydd rhaid i chi arbrofi gyda gwahanol rannau'r peiriant ac amrywio eu garwedd, cryfder gwthiad, bowns a phwysau er mwyn cael y peiriant i weithio.
Mae gennych chi ddewis o dair thema sef Chwaraeon, Anialwch neu Tanddwr. Bydd rhai o'r gwrthrychau sy'n cael eu defnyddio i greu'r peiriannau yn amrywio o un thema i'r llall.
Ar ddechrau'r gêm bydd peiriant wedi ei greu yn barod. Gallwch chi addasu hwn neu wasgu'r botwm clirio sgrin i ddechrau adeiladu peiriant pinbel newydd sbon. I ennill cerdyn gwyddoniaeth mae'n rhaid i'ch peiriant saethu'r bêl i mewn i'r fasged neu'r gasgen, yn dibynnu ar y thema rydych chi wedi ei dewis.
Bydd robot yn ymddangos ac yn cynnig help yn ystod y gêm ac yn egluro beth i'w wneud gyda'r gwrthrychau gwahanol.
Arbed Gwaith
Byddwch chi'n gallu arbed cyfanswm o naw gêm, sef tair gêm ym mhob un o'r tair thema. Os byddwch chi'n arbed mwy o gemau byddan nhw yn cymryd lle gemau sydd eisoes wedi cael eu harbed. Bydd eich peiriannau pinbel chi ond yn cael eu harbed ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio ar y pryd a dim ond ar y peiriant hwnnw bydd modd ail-lwytho'r peiriannau pinbel yn y dyfodol.
Mae modd dileu proffil penodol neu'r holl broffiliau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.
> Chwarae Dewch i Greu