Mae Saffari Gwyddoniaeth yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2:
- Ar Daith (Hanes)
- Codi Cwestiwn (Addysg Grefyddol)
- Dinesydd Da (ABCh)
- Ein Byd (Daearyddiaeth)
- Syrcas Gerdd (Cerddoriaeth)
Dewch i ddysgu am greaduriaid y fforest law, priodweddau defnyddiau a grymoedd gyda Saffari Gwyddoniaeth. Cewch deithio o gwmpas ynys mewn fan ac ymweld â thair gêm wahanol. Mae yna 90 o gardiau gwyddoniaeth aml-gyfrwng i'w casglu a'u gwylio hefyd.
Gallwch chi fynd at y gemau naill ai drwy glicio ar y map ar ochr chwith y sgrin neu wrth yrru'r fan ar hyd y ffordd. Mae cardiau gwyddoniaeth yn cael eu hennill am gwblhau'r gemau yn llwyddiannus. Bydd y fan yn codi unrhyw gardiau fydd yn ymddangos ar y ffordd. Gallwch chi newid lliw y fan ac ychwanegu patrymau, olwynion newydd a chyrn swnllyd pan fyddwch chi'n galw yn y tri garej ar yr ynys!
Ewch i gefn y fan i ddosbarthu'r cardiau gwyddoniaeth aml-gyfrwng i'r adrannau cywir er mwyn cael edrych arnyn nhw. Pan fyddwch chi wedi casglu mwy nag un copi o'r un cerdyn gallwch chi ei gyfnewid am un arall gyda'r cyfrifiadur.
Cliciwch ar y botwm Casglu Cardiau os ydych chi am gadw y cardiau rydych chi'n eu casglu ar eich cyfrifiadur tan y tro nesaf.
Galw Milio
Gêm blatfform yw Galw Milio sy'n cyflwyno gwybodaeth am briodweddau un deg tri o ddefnyddiau cyffredin. Bydd angen defnyddio'r wybodaeth yma i ddatrys y posau sy'n rhan o'r gêm.
Tric y Trychfil
Yn ngêm Tric y Trychfil mae'n rhaid darganfod pedwar grŵp o greaduriaid sy'n cuddio mewn fforest law cyn defnyddio allwedd syml i ddarganfod eu henwau. Mae fideos byr ar gael yn dangos pob un o'r creaduriaid.
Dewch i Greu
Gêm am ffrithiant a grym yw Dewch i Greu sy'n rhoi cyfle i chi greu eich peiriant pinbel unigryw eich hun. Mae modd arbed y peiriant er mwyn ei chwarae a'i wella rywbryd eto.
Arbed gwaith
Bydd angen clicio ar y botwm Casglu Cardiau er mwyn cadw'r cardiau sydd eisoes wedi cael eu casglu. Gallwch chi hefyd gadw peiriant pinbel o gêm Dewch i Greu. Bydd y cardiau a'r peiriant pinbel yma ond yn cael eu harbed ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio ar y pryd a dim ond ar y peiriant hwnnw bydd modd ail-lwytho'r cardiau sydd wedi cael eu casglu a'r peiriant pinbel yn y dyfodol.
Os byddwch chi'n arbed sawl darn mawr o waith ar yr un cyfrifiadur mae hi'n bosib bydd bocs deialog yn ymddangos fydd yn gofyn a ydych chi am ganiatáu'r rhaglen i ddefnyddio mwy o gof y cyfrifiadur. Bydd angen cytuno i hyn cyn gallu arbed mwy o waith.
Mae modd dileu proffil penodol neu'r holl broffiliau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.
Cymorth Sain a gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.
Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' tra eich bod chi'n darllen y Nodiadau Rhieni ac Athrawon.
Gallwch ddefnyddio'r bysellfwrdd i symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys.