Defnyddiwch eich Ffrangeg er mwyn datrys y dirgelwch a dod o hyd i'r ddraig werdd. Gêm antur ryngweithiol ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 yw Le Mystère de Dragon de Jade.
Mae lladron wedi dwyn y Dragon de Jade a'i guddio mewn banc ym Mharis. Chi yw 'Asiant X' - a'ch tasg chi yw cael gafael ar y cerflun trwy ddatrys posau a chwarae cyfres o gemau.
Casglwch wrthrychau sydd wedi eu cuddio i ddarganfod cliwiau wrth i chi symud o ystafell i ystafell. Bydd y pethau rydych chi'n eu casglu'n cael eu cadw yn y Stockage (storfa) ar waelod y sgrîn.
Ydych chi'n barod am yr her?
Gemau
Wrth i chi fynd ar drywydd y 'Dragon de Jade', bydd rhaid i chi gwblhau cyfres o gemau a gweithgareddau.
Mae'r gemau'n eich dysgu chi i:
- ddweud y dyddiad yn Ffrangeg
- adnabod cenedl geiriau
- adnabod berfenwau Ffrangeg
- rhoi cyfarwyddiadau syml (chwith, dde a syth ymlaen)
- defnyddio gwybodaeth rydych chi wedi ei darganfod i ateb cwestiynau.
Côd
Does dim angen i chi ddechrau o'r dechrau bob tro rydych chi'n chwarae. Byddwch yn derbyn côd fydd yn eich galluogi chi i symud yn syth i unrhyw ystafell rydych wedi ymweld ag hi o'r blaen.
Help
Os ydych chi'n cael trafferth, cliciwch ar y botwm cymorth. Neu, crafwch eich pen tan i chi ddarganfod yr ateb drosoch chi eich hun!
Bonne chance Asiant X!
Ewch at wefan Les Choix i fwynhau mwy o weithgareddau ar gyfer dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg
Cymorth Clyweledol
Gallwch chi glicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' i:
- newid lliw testun a'r cefndir
- clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel.
Nid yw'n bosib defnyddio'r dewisiadau yma tra'ch bod yn yr adran Gwybodaeth.
Gallwch chi hefyd symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys trwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.