Grymoedd yw thema'r gemau yma. Helpwch y chwain i wneud eu triciau syrcas anhygoel gyda chanonau, pasteiod cwstard, trapisau a thrampolinau! Eich tasg chi fydd dewis y maint cywir o rym i'w ddefnyddio bob tro.
Mae'r gêmau yn dangos sut gall amrywio cryfder grym (gwthiad) newid cyflymder a chyfeiriad gwrthrych sy'n symud.
Rydych chi'n cael arbrofi a gwneud camgymeriadau ond mae'n rhaid llwyddo dair gwaith ac ennill tair chwannen er mwyn cwblhau gêm.
Wrth i'r lefelau fynd yn fwy anodd bydd angen i chi reoli nifer cynyddol o newidynnau.
Y Tŵr Chwain Anhygoel
Helpwch y chwannen ar y si-so i lanio ar y targed.
Bydd y chwannen gyntaf yn neidio o'r platfform ac yn glanio ar y si-so er mwyn taflu'r chwannen arall i'r awyr i gyfeiriad y targed neu'r tŵr chwain.
Chwifio'r Chwannen Chwareus
Helpwch y chwannen i fwrw'r targed pan mae'n cael ei saethu o ganon.
Y Chwyrligwgan Cwstard
Helpwch y chwannen i anelu ei phastai gwstard at y targedau!
Y Trapîs Chwain Trafferthus
Helpwch y chwain i wneud triciau ar y trapîs!
Y Ffinalé Mawreddog
Mae hwn yn gyfle i wylio holl driciau'r chwain unwaith eto.
Llusgwch y sêr lliw rydych chi wedi eu hennill i'r bylchau yn y stribed ffilm. Cliciwch ar eicon y camera i wylio ffilm sy'n gasgliad o glipiau o'r gemau gwahanol.