Cliciwch ar leoliad ar y map i ddechrau aseiniad. Bydd aelod o Dîm Gweithredol y Dinesydd Da yn dweud wrthoch chi am y broblem sydd angen ei datrys.
Logio i mewn
Dim ond pan fyddwch chi wedi logio i mewn byddwch chi'n gallu cadw eich cynnydd. Bydd angen i chi greu proffil a fydd yn cael ei gadw ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio. Dewiswch enw unigryw ar gyfer eich proffil a defnyddiwch yr enw yma i'w lwytho yn y dyfodol.
Mae modd dileu proffil penodol neu'r hoff broffiliau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.
Creu cymeriad
Bydd y cymeriad hwn yn eich cynrychioli chi yn y gêm. Dewiswch:
• eich enw
• ble rydych yn byw
• eich rhyw
• lliw eich croen
• gwisg ar gyfer eich pen
• lliw a steil gwallt
• dillad, esgidiau, sbectol, oriawr ac ati.
Pan fyddwch yn hapus â'ch cymeriad, cliciwch ar y saeth i gychwyn.
Symud
Symudwch eich cymeriad trwy glicio ar unrhyw ran o'r sgrin lle mae'r cyrchwr yn newid i fod yn bâr o esgidiau. Ewch i leoliad cyfagos trwy symud y cyrchwr i ymylon y sgrin. Gallwch hefyd ddefnyddio'r map i symud o gwmpas.
Map
Cliciwch ar yr eicon i weld map mawr o'ch aseiniad presennol. Mae'r seren yn dynodi eich lleoliad presennol. Symudwch i sgwâr arall trwy glicio arno.
Cymeriadau
Mae'r cymeriadau mae'n rhaid i chi eu helpu a'u gwneud yn hapus yn ymddangos ar dop y sgrin. Mae'r mesurydd hapusrwydd sydd nesaf at bob un yn dangos i chi pa mor hapus maen nhw. Fe fyddan nhw'n ymateb i'r newidiadau wrth i chi chwarae'r gêm.
Mae'r cymeriadau yma hefyd yn ymddangos yn y gêm ei hun. Cliciwch arnyn nhw i ddarganfod beth hoffen nhw i chi ei wneud. Mae pob sgwâr coch yn y swigen siarad yn cynrychioli rhywbeth maen nhw eisiau ei ddweud wrthoch chi.
Pan fo'r aelod o'r tîm a gyflwynodd y broblem yn ymddangos yn lle'r map, cliciwch arno fe neu arni hi i gael cyngor.
Gwneud gwelliannau
• Cyfnewidiwch y pethau sydd wedi torri am eitemau newydd wedi eu dewis o'r gyfres o fotymau ar y chwith.
• Pan fyddwch yn clicio ar eitemau y gellir eu newid yn y gêm mae'r cyrchwr yn newid i siâp morthwyl a sbaner.
• Mae'r cyrchwr ebychnod yn dynodi ei fod yn arwydd gallwch chi ei newid am un arall.
• Cliciwch ar yr eitem rydych eisiau ei chyfnewid yna cliciwch ar yr eitem rydych eisiau ei roi yn ei le.
• I ddileu eitem rydych wedi ei hychwanegu cliciwch arni, yna cliciwch ar y botwm llwyd gyda'r groes wen arno
• Mae angen datgloi botymau sy'n dangos clo clap trwy gwblhau gweithgareddau.
• Cliciwch ar Help i ddysgu mwy am sut mae'r cyrchwr yn newid.
Gweithgareddau 
Cliciwch ar yr eicon i weld y rhestr o weithgareddau ar gyfer pob aseiniad. Cwblhewch y gweithgareddau hyn i ddatgloi adnoddau i'w defnyddio yn eich prosiect cyfredol.
Gweithgaredd ymchwil
Gwyliwch fideos byr am brosiect ysgol perthnasol yna atebwch gwestiynau amlddewis. Os byddwch yn ateb yn gywir bydd mwy o adnoddau'n cael eu datgloi. Gallwch wylio'r fideos gyda neu heb yr isdeitlau.
Datrys anghydfod
Eich tasg yw dewis cyfaddawd mae o leiaf dau allan o'r tri pherson yn eich tîm yn ei ddewis.
Gosodwch y cyrchwr uwchben llun o bob person, gwrandewch ar y tri gosodiad mae pob un yn ei wneud. Dewiswch yr un rydych chi'n ei feddwl sydd bwysicaf. Bydd rhain yn cael eu hychwanegu at eich llyfr nodiadau.
Yna rydych yn cael dewis o dri chynllun. Dewiswch un mae o leiaf dau o'r tri pherson yn eich tîm yn ei ddewis, gan ennill mwy o adnoddau ar gyfer eich aseiniad.
Prosiect codi arian
Cynlluniwch ddigwyddiad rhithwir i godi arian i brynu mwy o adnoddau ar gyfer eich prosiect.
Yn gyntaf, dewiswch eich tîm o godwyr arian, fe fyddwch angen pobl i lenwi tair rôl:
• codwr arian
• person cyhoeddusrwydd
• cynorthwyydd.
Gosodwch y cyrchwr uwchben llun o bob person i arddangos eu nodweddion.
Bydd aelodau'ch tîm wedyn yn awgrymu tri syniad bob un. Cliciwch ar syniad gorau pob person, fydd wedyn yn ymddangos yn eich llyfr nodiadau.
Yna darllenwch erthygl papur newydd fydd yn dweud wrthych a oedd eich digwyddiad codi arian yn llwyddiannus ai peidio.
Ysgrifennu llythyr
Ysgrifennwch lythyr at berson mewn awdurdod i'w berswadio i wneud rhywbeth fydd yn eich helpu i gwblhau eich aseiniad.
Dewiswch dair brawddeg i lenwi'r bylchau yn y templed llythyr. Cliciwch ar adran wag yn y llythyr a dewiswch un o'r tair brawddeg fydd yn ymddangos.
Os ydych chi'n llwyddiannus fe gewch chi'r adnoddau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.
Help
Mae'r adran Help yn egluro sut mae'r cyrchwr yn newid wrth i chi chwarae'r gêm.
Adnoddau 
Mae gennych swm cyfyngedig o adnoddau i'w defnyddio ar eich prosiect. Mae'r bar 'Adnoddau' yn dangos faint o adnoddau sydd gennych ar ôl.
Cadw
Pan fyddwch chi wedi logio i mewn i'ch proffil, gallwch chi gadw eich gêm wrth glicio ar yr eicon Cadw.