Am y wefan

'Da Ar Yr Iâ' - Am y wefan



Mae Horas ab Afiach wedi cipio'r gwartheg o'r caeau ar gyfer ei ffatri hufen iâ. Helpwch Seren, Roci, Dr. Mww a Del i achub eu ffrind, Lowri o'r argyfwng!

Defnyddiwch eich gwybodaeth am ffrithiant a grymoedd i arwain y gwartheg drwy'r ffatri, ac i ryddhau pob un o'r gwartheg coll ar hyd y ffordd.

Buwchfyrddwyr i'r llethrau ... i ffwrdd â ni!

Mae 'Da Ar Yr Iâ' yn adnodd gwyddoniaeth ar gyfer plant 7-11 oed, Cyfnod Allweddol 2. Mae'n cyflwyno grymoedd a ffrithiant mewn ffordd fydd yn ennyn diddordeb ystod eang o ddefnyddwyr.

Bydd rhaid i'r chwaraewr benderfynu ar faint o rym sydd ei angen i wthio'r fuwch o'r sbring ar ddechrau'r dasg, deall faint o lithriant a gafael sydd ei angen ar arwyneb yr iâ, a rheoli cryfder y gwynt er mwyn cyrraedd y targed ym mhob ystafell.

Mae'r dilyniant dysgu yn y gêm yn cyflwyno cysyniadau gwahanol:
a) sut mae gwrthrychau llonydd yn cael eu symud gan rym
b) sut mae gwrthrychau symudol yn cael eu harafu
c) sut mae gwahanol arwynebau yn addasu grym y ffrithiant.

Gan ddefnyddio sgiliau rhagweld a rhesymu, bydd y chwaraewr yn llwyddo i arwain y cymeriadau tuag at y nod.


Mae opsiwn y gêm lawn yn gadael i'r chwaraewyr edrych ar yr animeiddio dechreuol, cyn dewis eu lefel anhawster:

Lefel Hawdd


  • Yn y modd hawdd, gall y chwaraewyr newid un peth ar y tro yn unig.
  • Gallant naill ai newid garwedd yr arwyneb neu faint o rym sy'n symud y cymeriad.

Chwarae lefel hawdd.


Lefel Ganolig


  • Yn y modd canolig, rhaid i'r chwaraewyr newid dau allan o ddewis o dri pheth.
  • Mae'r rhain yn cynnwys ffrithiant yr arwyneb, y grym sy'n gwthio'r cymeriad, yn ogystal â chryfder y gwynt.

Chwarae lefel ganolig.


Lefel Anodd


  • Yn y modd anodd, rhaid i'r chwaraewyr newid dau neu dri o'r newidynnau.
  • Y tri newidyn ydy ffrithiant yr arwyneb, grym sy'n gwthio'r cymeriad, a chryfder y gwynt.

Chwarae lefel anodd.


Yn ogystal, gall y chwaraewyr greu eu lefelau eu hunain.

Creu eich pos eich hun


  • Bydd y chwaraewyr yn defnyddio eu gwybodaeth am ffrithiant a grymoedd, yn ogystal â'u creadigrwydd a'u sgiliau rhagweld a rhesymu i greu pos newydd sbon.
  • Gall y chwaraewyr ddefnyddio sbringiau, gwyntyllau a llethrau i adeiladu eu posau.
  • Gallwch annog y chwaraewyr i rannu eu creadigaethau ag eraill a gosod sialensiau i'w cyfoedion.

Creu eich pos eich hun.


Mae modd trafod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn 'Da Ar Yr Iâ' fel gweithgaredd grŵp.

Ar ôl chwarae'r gêm, ceisiwch dynnu gwahanol wrthrychau, fel hen esgid a phêl rwber, dros hambwrdd. Beth ydy'r gwahaniaeth? Beth sy'n digwydd os ydych chi'n ychwanegu iriad fel hylif golchi llestri neu olew coginio?


Cymorth Sain a Gweledol


Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:

  • newid lliw a chefndir testun ar y sgrîn
  • arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain

Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi'n darllen yr adran Gwybodaeth.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r bysellfwrdd i symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys.



BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.