Tasg 2: Corff Cors

Tasg 2: Corff cors



Mae'r dasg Corff Cors yn cyflwyno pump o weithgareddau gwyddonol wrth i'r dysgwyr archwilio cors o fawn a'r corff, nad yw wedi pydru, sydd wedi ei ganfod yno.

Am y Gors
Yn y gweithgaredd hwn, mae'r dysgwr yn cael gwybodaeth am ddaearyddiaeth, daeareg, cemeg a bioleg cors o fawn asidig er mwyn chwilio am gliwiau sy'n berthnasol i gadw rhywbeth organig mewn cyflwr da, hynny yw heb iddo bydru. Mae'r gweithgaredd yn rhoi cyfleoedd amlddisgyblaethol gan alluogi'r dysgwr i ganolbwyntio ar ecosystem unigryw'r mawndir a hefyd ar yr effaith fawr y mae pobl wedi'i chael ar yr amgylchedd hwn yn hanesyddol a heddiw. Mae'r rhyngweithio'n ddigon hawdd a syml er mwyn i'r dysgwr allu canolbwyntio ar amsugno gwybodaeth a dysgu.


Am y Corff
Mae Am y Corff yn gyfle i'r dysgwr archwilio'r corff y daethpwyd o hyd iddo, heb bydru, yn y gors. Mae'n annog y dysgwr i graffu'n ofalus ar y manylion i gyd i ganfod cliwiau a allai ddweud wrthynt pwy oedd y person. Bydd y dysgwr yn craffu ar luniau o'r corff i chwilio am gliwiau am fywyd a marwolaeth y person, edrych ar y dannedd i weld pa mor hen oedd y person a phryd y bu farw a chymryd mesuriadau i weld pa mor dal oedd y person.

Mae Am y Corff yn rhoi cyfleoedd amlddisgyblaethol i'r dysgwr gan edrych ar dystiolaeth am sut roedd y person yn byw a phwy ydoedd yn fiolegol a rhoi hynny mewn cyd-destun hanesyddol posibl.


Atal y Pydredd
Mae Atal y Pydredd yn archwilio sut y gall amryw gyflyrau effeithio ar sut y mae pethau yn pydru. Rhaid i'r defnyddiwr archwilio sut y gall lefelau gwahanol o ddŵr, pH, ocsigen a thymheredd effeithio ar ba mor gyflym y mae corff yn pydru. Y nod yw dod o hyd i'r cyflyrau y gellir cadw corff ynddynt a, felly, pennu pa mor hir y gallai'r corff fod wedi bod yn y gors.


Profion metel
Daethpwyd o hyd i rai eitemau metel gyda'r corff yn y Gors Las. Drwy ganfod pryd y cafodd yr eitemau hyn eu gwneud, gellid pennu pa mor hen yw'r corff. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, daethpwyd o hyd i eitemau metel y gwyddys eu bod yn deillio o'r Oes Haearn mewn cors arall gerllaw. Profwch y ddau set o eitemau mewn toddiannau asidig i weld eu cyfansoddiad a chymharu'r canlyniadau.


Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle amlddisgyblaethol gan gynnwys craffu ar hanes echdynnu metel a pham y gall cyfansoddiad metel ddarparu gwybodaeth werthfawr iawn i archeolegwyr.

Y Dail a'r Paill
Gweithgaredd adnabod a chategoreiddio planhigion yw Y Dail a'r Paill. Gan ddefnyddio dau ddull syml, gall y dysgwr ganfod pa blanhigion y daethpwyd o hyd iddynt yn y gors. Mae'r gweithgaredd yn gyfle i ddeall sut y mae mawndir yn gallu bod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth hanesyddol. Mae pethau wedi'u cadw mewn mawn yn rhoi gwybodaeth am yr hinsawdd, y tywydd, y planhigion a mwy dros gyfnod o amser. Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfleoedd amlddisgyblaethol gan alluogi'r dysgwr i edrych ar rolau hanesyddol planhigion. Yn yr enghraifft hon, bydd gwybodaeth y planhigion yn rhoi cliw er mwyn datrys dirgelwch y corff yn y gors.




BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.