Rhestr gemau
Canolfan Anifeiliaid

Gwirfoddoli (wyneb yn wyneb)
Gwirfoddolwch mewn canolfan achub anifeiliaid. Dysgwch am iechyd a diogelwch a sut i drin anifeiliaid yn ogystal â phenderfynu ar y ffordd fwyaf cyfrifol i ddatrys problemau.

Dylunio Poster (ymarferol)
Dyluniwch boster i annog pobl i roi help llaw yn y lloches anifeiliaid, yna penderfynwch ar ddyletswyddau addas ar gyfer y gwirfoddolwyr.

Codi arian (crynodeb)
Trefnwch ddigwyddiadau difyr ac adloniant arbennig ar gyfer sioe gŵn a fydd yn codi arian i'r lloches anifeiliaid.
Rhyngrwyd

Cyfrifoldeb ar y rhyngrwyd (wyneb yn wyneb)
Darbwyllwch olygydd y we fod pobl ifanc yn ddigon cyfrifol i redeg eu gwefan eu hunain.

Diogelwch arlein (ymarferol)
Atebwch gwestiynau gan y cyhoedd am ddiogelwch arlein.

Dylunio gwefan (crynodeb)
Dyluniwch wefan a fydd yn boblogaidd gyda phobl ifanc.
Bywyd Ysgol

Etholiad cyngor yr ysgol (wyneb yn wyneb)
Atebwch gwestiynau'r panel er mwyn cael eich ethol ar gyngor yr ysgol. Profwch eich sgiliau drwy gynghori ar broject mentora.

Erthygl i gylchgrawn yr ysgol (ymarferol)
Ysgrifennwch a dyluniwch erthygl ar gyfer cylchgrawn yr ysgol am y pynciau llosg sy'n effeithio ar fywyd ysgol.

Cynllunio bwydlen (crynodeb)
Cynlluniwch fwydlen newydd sbon ar gyfer cinio'r ysgol. Gwnewch yn siŵr fod y fwydlen yn iachus ac yn addas ar gyfer anghenion deietegol pawb.
Canolfan Ieuenctid

Trafod gyda'r Cyngor (wyneb yn wyneb)
Darbwyllwch y cyngor fod angen canolfan ieuenctid newydd yn yr ardal.

Ysgrifennu llythyr deiseb (ymarferol)
Ysgrifennwch lythyr deiseb. Gwnewch waith ymchwil er mwyn hel llofnodion a chael cefnogaeth gan bobl leol.

Dylunio canolfan ieuenctid (crynodeb)
Gan ddefnyddio brîff a chyllideb benodol, dyluniwch ganolfan ieuenctid sy'n gweddu i anghenion a diddordebau pawb yn yr ardal.
Cyfiawnder Ieuenctid

Cyngor ar y system cyfiawnder (wyneb yn wyneb)
Dysgwch am y system cyfiawnder troseddol er mwyn helpu ffrind sydd wedi ei gyhuddo ar gam.

Tystiolaeth i gefnogi ffrind (ymarferol)
Cynhaliwch gyfweliadau gydag aelodau o'r gymuned er mwyn cyflwyno tystiolaeth gryf i gyfreithwraig eich ffrind.

Cyflwyniad ar gyfiawnder ieuenctid (crynodeb)
Chwiliwch am wybodaeth, ffeithiau a delweddau addas ar gyfer cyflwyniad ar gyfiawnder ieuenctid.