Dewch ar leoliad i Lanberis!
Rydych chi'n newyddiadurwr ar drywydd stori ym mhentref Llanberis yng ngogledd Cymru. Eich tasg chi yw creu adroddiad newyddion am effaith datblygiad posib ar y pentref.
Adnodd daearyddiaeth ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed, Cyfnod Allweddol 3, yw Ar Leoliad. Trwy ganolbwyntio ar ardal Eryri, mae'n rhoi'r cyfle i ddysgu mwy am sut a pham y bydd amgylcheddau'n newid.
Mae Eryri'n un o ardaloedd prydferthaf Prydain. Ond mae'n bosib bydd atyniad newydd i dwristiaid yn cael ei adeiladu ar safle hen chwarel Glyn Rhonwy. Y bwriad yw denu mwy o ymwelwyr i'r ardal - ond beth fydd yr effaith ar bentref Llanberis?
Trwy bwyso a mesur y dadleuon o blaid ac yn erbyn adeiladu atyniad newydd fe fydd yna gyfle i chi:
- ddatblygu barn
- deall bod gwahanol werthoedd, agweddau a safbwyntiau gan bobl
- asesu tuedd a dibynadwyedd tystiolaeth
- gwneud penderfyniadau.
Defnyddiwch y mapiau i grwydro'r ardal ac ymweld â'r lleoliadau gwahanol. Mae gwybodaeth gefndir, ystadegau defnyddiol a chlipiau archif diddorol i'w casglu ym mhob lleoliad.
Wrth fynd ati i greu eich adroddiad bydd angen i chi ddefnyddio sgiliau ymchwilio fel:
- arsylwi
- cofnodi data
- dadansoddi a gwerthuso syniadau a thystiolaeth
- cyfiawnhau casgliadau.
Bydd hefyd angen i chi adlewyrchu barn y trigolion lleol yn eich adroddiad. Cofiwch achub ar y cyfle i recordio cyfweliadau gyda'r bobl rydych chi'n cyfarfod yn ystod eich ymweliad.
Felly gafaelwch yn eich camera a'ch llyfr nodiadau ac i ffwrdd â chi!
Mae tair adran i'r wefan:
Map ffeithiau
Ymwelwch â'r pedwar lleoliad ar y map ffeithiau yn eu trefn.
- 1 Gorsaf Rheilffordd yr Wyddfa
- 2 Amgueddfa Lechi Cymru
- 3 Parc Cenedlaethol Eryri
- 4 Caffi Pete's Eats
Mae yna ffaith i'w chasglu a chyfweliad i'w ffilmio ymhob un. Ar ôl i chi ddod o hyd i'r ffaith bydd yna gwestiwn i'w ateb er mwyn i chi allu cadw'r ffaith a symud ymlaen.
Map tasgau
Ar ôl cwblhau'r map ffeithiau, gallwch symud ymalen at y map tasgau. Ymwelwch â'r pedwar lleoliad yn eu trefn.
- 1. Gorsaf Rheilffordd yr Wyddfa
- 2. Caffi Pete's Eats
- 3. Chwarel Glyn Rhonwy
- 4. Gwesty Dôl Peris
Ewch i'r tri lleoliad cyntaf i ddysgu am fewnfudo ac allfudo, swyddi lleol, cynlluniau ar gyfer datblygu safle Glyn Rhonwy a barn trigolion lleol am Lanberis a'r diwydiant twristiaeth.
Yn olaf, ewch i westy Dôl Peris i gyflawni'r brif dasg sef creu eich adroddiad gan ddefnyddio'r golygydd fideo.
Golygydd fideo
Gallwch fynd at y golygydd fideo trwy westy Dôl Peris ar y map tasgau.
Eich tasg yw llunio adroddiad ar yr effaith byddai datblygu hen chwarel Glyn Rhonwy yn ei gael ar ardal Llanberis.
Dewiswch glipiau a chyfweliadau i'w rhoi yn eich adroddiad. Gallwch chi wylio eich adroddiad, ei gadw neu wneud newidiadau iddo.
> Ewch yn syth at y golygydd fideo
Cymorth Clyweledol
Cliciwch ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:
- clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel
- arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain
Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi yn yr adran 'Gwybodaeth'.
Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.