MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
'Rhywbeth i fyny i lewis' - Robyn yn Archdderwydd Dewis Lewis Gyda Robyn Lewis heb gyrraedd cyfarfod Bwrdd yr Orsedd pan ddechreuodd yr oedd y dyfalu yn chwilboeth ei fod "yn gwybod" iddo fod yn aflwyddiannus yn etholiad yr Archdderwydd - ac wedi sori!Yr oedd y ddau ymgeisydd arall , Selwyn Griffiths a T. James Jones, yno ym Mhabell y Cymdeithasau mewn llawn bryd ac yn eistedd gyda’i gilydd yn y rhes gefn. Cydnabyddodd Mr Griffiths ar y ffordd i mewn nad oedd ef yn disgwyl ennill - yr oedd T. James Jones cyn ddistawed ag y bu gydol yr ymgyrch. Gyda’r cyfarfod yn prysur fynd rhagddo gwelwyd Robyn Lewis yn cerdded y maes yn hamddenol gyda’i wraig, Gwennan. "Mae ganddo fo rywbeth i fyny’i Lewis," meddai rhywun heb lawn weld ei jôc ei hun.Dim ond rhyw chwarter awr cyn diwedd y cyfarfod trodd yr ymgeisydd archdderwyddol i gyfeiriad Babell y Cymdeithasau a cherdded i mewn gan ei gadael hi yn disgwyl amdano oddi allan. "Mae o wedi ennill," meddai newyddiadurwr wrth glywed cymeradwyaeth y Gorseddigion - ond cyd-ddigwyddiad oedd hynny a’r cyhoeddiad yn dal heb ei wneud. Ond ni fu’n rhaid disgwyl yn hir cyn agor yr amlen yn datgelu canlyniad y bleidlais Archdderwyddol gyntaf erioed. Ac yr oedd y gwr y bu ei ymgyrchu dyfal am yr anrhydedd yn ddiarhebol wedi ennill ac yn cael ei ruthro ar draws y maes i gynhadledd i’r wasg y tu cefn i’r prif bafiliwn.Gan fynd y ffordd arall heibio i brotest gan y mudiad iaith newydd, Cymuned. Yn cael ei hysio gan gwmwl o newyddiadurwyr edrychai dros ei ysgwydd i wneud yn siwr fod ei wraig yn dilyn. Yn amlwg wedi cyffroi a chydai’i wallt yn wyllt disgrifiodd ei ethol fel digwyddiad hanesyddol ar ddau gyfrif. "Dyma’r tro cyntaf y cafodd aelodau o’r Orsedd gyfle i bleidleisio ac i enwebu Archdderwydd," meddai. "Y mae yn gam mawr ymlaen o Fwrdd yr Orsedd yn esgor ar un enw." Cyn bwysiced â hynny yng ngolwg Mr Lewis yw’r ffaith iddo fod yn gymwys i’w ethol ar sail y ffaith mai llenor rhyddiaith yn hytrach na phrifardd yw. "Ers sefydlu’r Fedal Ryddiaith yn y tridegau y mae wedi bod yn daith araf i lenorion ymsefydlu eu hunain," meddai, yn aelodau cyfartal o’r Orsedd. "Ond i mi dwy ochr o’r un darn arian yw llenyddiaeth a barddoniaeth a hwnnw yn ddarn o aur," meddai."Yr oedd y cam rhesymegol i brif lenorion fod yn agored i’w hethol yn Archdderwydd ac yr wyf yn ei hystyried yn fraint unigryw i mi fod y cyntaf o’r prif lenorion i fod yn Archdderwydd," meddai. Pan ofynnwyd iddo a fyddai fel Archdderwydd yn mynegi ei farn ar bynciau’r dydd ymatebodd: "Ar hyn o bryd y cyfan yr rydw i am ei ddweud yw fy mod yn Archdderwydd, atalnod. "Dydw i ddim yn mynd i raffu polisïau ar hyn o bryd," meddai gan ychwanegu na fyddai’n gwneud datganiadau nes cael amser i feddwl ac ystyried. "Ond mae gen i fy syniadau a dydi hi ddim yn gyfrinach lle yr ydw i yn sefyll," meddai. Yr awgrym yw y gellir disgwyl siarad go ddi-flewyn ar dafod ynglyn â phynciau fel yr iaith a Chymreictod unwaith y bydd wedi cael ei draed dano. Gwrthododd hefyd a chael ei berswadio i wneud unrhyw sylw am brotest Cymuned ar y maes yr union adeg honno. Y mae ethol Robyn Lewis yn golygu torri ar olyniaeth eitha hir o weinidogion o dde Cymru - neu fel y dywedodd ef gyda gwên ar ei wyneb mae’r Orsedd wedi symud yn awr "o’r proffwydi i’r cyfreithwyr"! Yn byw yn Nefyn cychwynnodd Robyn Lewis ar yrfa fel ieithydd gan droi i fyd y gyfraith. Bu’n dwrnai ym Mhwllheli ac wedyn yn ddirprwy farnwr yn Llys y Goron cyn ymddeol yn gynnar a chanolbwyntio ar ysgrifennu a chymhwyso ei hun yn fargyfreithiwr.Y mae’n awdur cryn ddeunaw o lyfrau ond efallai yn fwyaf adnabyddus am ddau eiriadur cyfreithiol a gyhoeddodd. Bydd trydydd geiriadur cyfreithiol 1,500 tudalen yn cael ei gyhoeddi "cyn bo hir" Y trydydd o Ben Llyn
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |