bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
»Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau
Newyddion
Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Tri chyfle Llyn

Robyn Lewis y trydydd Archdderwydd o Ben Llyn


Robyn Lewis yw’r trydydd Archdderwydd a’i wreiddiau ym Mhen Llyn.

O Ben Llyn y deuai’r enwocaf a’r mwyaf trawiadol o archdderwyddon y cyfnod diweddar - Cynan.

Ac yn ystod ei gyfnod fel archdderwydd gallai yn hawdd fod wedi gwneud gyda cymorth cyfreithiwr fel Robyn Lewis ac yntau’n cyhuddo y cylchgrawn Lol o’i enllibio - a gorfodi’r cylchgrawn i hepgor geiriau o gartwn a ystyriai yn enllibus ohono.

PedrogOnd bu archdderwydd o Lyn cyn Cynan hefyd, Pedrog.

Ar ôl colli ei rieni yn ifanc cafodd ei fagu gan ei fodryb a dechreuodd weithio yn gyw garddwr yng ngerddi Plas Madryn ym Mhen Llyn.

Symudodd oddi yno i erddi Dickson yng Nghaer ac wedyn i erddi Plas Machynlleth cyn cyrraedd Lerpwl yn 23 oed lle cafodd ei berswadio i fynd yn bregethwr cynorthwyol.

Ennill tair cadair

Ac yntau yn llenor o bwys ac yn un o brif feirdd Cymru yn ei ddydd dewiswyd ef yn Archdderwydd yn 1928 am bedair blynedd.

Enillodd dair cadair Genedlaethol, yr olaf yn Eisteddfod genedlaethol Lerpwl, 1900.

Ar ben hynny cafodd ddwy dysteb genedlaethol, un o Lerpwl a’r llall o Lundain, a gradd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Fe’i bedyddiwyd yn eglwys Llanfihangel Bachellaeth a anfarwolwyd maes o law mewn cerdd gan Cynan a fu yn archdderwydd ddwywaith yn ystod ei yrfa ac sy’n cael ei ystyried yr archdderwydd gyda’r llais gorau ar gyfer y seremonïau y bu ganddo gymaint rhan yn eu hurddasu a dod â hwy i drefn.

Straeon Eisteddfod 2001:
BBC
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy