MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Ardal hynod llawn hanes Atyniadau bro'r Eisteddfod ![]() Dinbych Mae’r dref yn cael ei henwi yn Neddf Uno 1536 ond roedd yn dref bwysig am ganrifoedd cyn hynny. Y mae’r enw yn gyfuniad o’r geiriau Din sy’n golygu caer a bych yn golygu bach.. Un chwedl tu ôl I’r enw yw i Sion y Blodau ddefnyddio ei nerth anghyffredin i ladd anghenfil a elwid ‘y bych’ gan ddatgan yn fuddugoliaethus wedyn , ‘Dim bych!’ Hen enw arall ar y lle oedd Caledfryn a ddefnyddiwyd yn enw barddol gan William Williams (1801 –1869). Roedd gan y Tywysogion lys arall ar fryn ger Dinbych. Safai yn Ystrad Owen. Cludwyd dinasyddion estron i’r dref newydd gan symud holl boblogaeth Dyffryn Clwyd i’r ucheldir gan osod y tir i’r Normainiaid. Rhifau Ffôn Llyfrgell Dinbych (01745) 816313 Castell Dinbych (01745) 813385 Canolfan Hamdden (01745) 816311 Castell Dinbych Un o gestyll Edward 1 yw Castell Dinbych. Cafodd ei godi yn y drydedd ganrif ar ddeg gan un o brif swyddogion y brenin, Henry de Lacy.Roedd yn safle pwysig gan ei fod wedi ei adeiladu dros dir Dafydd ap Gruffudd ac felly yn pwysleisio grym Lloegr dros Gymru. Dechreuwyd ar yr adeiladu wedi i Edward I drechu Llywelyn Ein Llyw Olaf mewn brwydr yn 1282. Yn ogystal â’r castell fe ffurfiwyd bwrdeistref Seisnig newydd o fewn waliau’r dref. Yn 1294 tarfwyd ar yr adeiladu pan gipiwyd y castell gan griw o Gymry. Mae’r gwaith adeiladu a wnaed wedyn yn wahanol i’r gwaith a gafodd ei wneud yn gynharach. Yn ystod ail ran yr adeiladu defnyddiwyd carreg wahanol a ffurfiwyd tyrrau uchel fel sydd yng nghastell Caernarfon. Oriau agor y castell: Llun – Gwener 10.00-17.30 Sadwrn a Sul 09.30-17.30 Muriau’r dref Rhaid cael allwedd o lyfrgell Dinbych neu gan Geidwad y Castell pan fydd ar ddyletswydd i grwydro waliau’r dref. Rhaid talu blaendal sy’n cael ei ddychwelyd pan ddychwelir yr allwedd. Yn ystod y daith gwelir: Twr yr Iarlles a Thwr y Goblin Gweddillion Eglwys Iarll Caerlyr Dechreuwyd adeiladu’r eglwys ym 1578 gyda’r bwriad o greu eglwys Brotestannaidd i ddisodli Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Ni chafodd ei chwblhau gan i’r dasg o godi arian fethu oherwydd amhoblogrwydd yr iarll Gwariwyd yr arian a godwyd ar ymgyrch filwrol yn Iwerddon. Roedd y bobol leol yn gwrthwynebu’r adeilad ac yn dymchwel y gwaith yn aml. Porth y Bwrdeisiaid Mae’r porth i’w weld wrth i chi grwydro’r bryn tua’r castell ac mae’n rhan o’r gaer a adeiladwyd gan Henry de Lacy i amddiffyn Dinbych yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yma, mae amgueddfa fechan sy’n rhoi hanes Dinbych. Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Dinbych Hen Neuadd y Sir a gafodd ei hadeiladu yn 1572. Fe’i haddaswyd yn ganolfan wybodaeth, llyfrgell, amgueddfa ac oriel gydag arddangosfa barhaol o hanes y dref ac yn cynnwys amrywiaeth o waith celf. Gellir prynu rhai eitemau. Oriau agor: Llun a Mercher 9.30 am – 7.00 am Mawrth a Gwener 9.30am – 5.00am Iau 10.30am – 5.00pm Sadwrn 9.00am – 1.00pm Cofeb Dr Evan Pierce Yng nghanol y dref mae cofeb i’r meddyg o’r ddeunawfed ganrif a ddaeth i enwogrwydd adeg helynt y colera yn y 1830au. Dywedodd yr hanesydd lleol, R.M. Owen, fod cred iddo achub pobol Ddinbych adeg y colera ar ei ben ei hun. Ond dywed Mr Owen fod tystiolaeth yn dangos fod yma feddygon go iawn adeg y colera. Evan Pierce a gododd y gofgolofn iddo ef ei hun a hynny tua ugain mlynedd cyn iddo farw. Roedd yn byw mewn plasdy gyferbyn ac felly’n gallu gweld y gofgolofn o’i ffenest bob dydd. Eglwys Llanfarchell(Eglwys Wen ar lafar) Dyma eglwys plwyf Dinbych ac mae ar gyrion y dref. Mae’n adeilad hardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac ymhlith yr enwogion lleol y mae ei fedd yno y mae Twm o’r Nant. Mae cofeb i Humphrey Llwyd. Egwlys DyfnogLlanrhaeadr-yng-Nghinmeirch Mae’r eglwys hon tua thair milltir o Ddinbych i gyfeiriad Rhuthun ym mhentref Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Yn yr eglwys gellir gweld ffenestr "Coeden Jesse" a gafodd ei chreu yn 1533. Yn ystod y Rhyfel Cartref cafodd ei chuddio mewn cist fawr sydd yn awr dan y ffenest. Mae crochendy yn y pentref hefyd a arferai fod yn efail. Llys Gwenllian Tomen ar y dde ar y ffordd o Ddinbych i Brion. Bu’r llys yn gartref i ferch Llywelyn, Gwenllian de Lacy. Gwylltiodd y ffordd y cafodd ei hystad hi ei rhannu gan y Goron y Tywysog Dafydd ap Gruffudd a bu’n rhannol gyfrifol am wrthryfel 1282. Brodordy Dinbych Hen abaty’r Brodyr Gwyn ac mae yng ngwaelod Stryd y Dyffryn yn Ninbych. Diddymwyd yn 1534 ond parhau fel ysgubbor, bragdy ac ystordy gwlan. Gwnaed difrod mawr iddo gan dân yn 1898. Plas Clough Codwyd gan Richard Clwch (Clough), ail wr Catrin o Ferain
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |