MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig | ![]() |
Yma o'r blaen - hanesydd lleol yn son am ddau ymweliad blaenorol y Genedlaethol â Dinbych Tristwch personol wrth gofio Steddfod '39 Eisteddfod 1882 yn Ninbych - dim Cadeirio na Choroni! Mae’r Eisteddfod wedi ei chynnal yn Ninbych ddwy waith o’r blaen, yn 1882 ac yn 1939. Yn 1882 mewn pafiliwn pren yr oedd y cystadlaethau a’r seremoniau a hwnnw wedi ei osod a fryn y castell. Clwydfardd oedd yr archdderwydd, bardd o’r ardal oedd yn enwog am wneud a thrwsio clociau yn nhref Dinbych. Ddydd Gwener yr eisteddfod, Gladstone, y prif weinidog, oedd llywydd y dydd ond gan ei fod wedi blino penderfynodd na fyddai’n ymweld â’r wyl ac anfonodd ei wraig yn ei le. Nid enillodd neb y gadair yn yr eisteddfod er bod saith wedi cystadlu. Yn eisteddfod 1882 y sefydlwyd y Cyngor Addysg Cenedlaethol a ddechreuodd gynllunio ar gyfer cael prifysgol i’r gogledd. Eisteddfod 1939 Daeth yr Eisteddfod i’r dref wedyn yn 1939 a hon oedd yr eisteddfod gyntaf i’w chynnal wedi sefydlu Cyngor yr Eisteddfod. Mae’r Eisteddfod hon yn cael ei chofio fel yr unig un erioed yr ataliwyd y gadair a’r goron ynddi. Cynhaliwyd yr eisteddfod ger Egwlys Dewi Sant ar waelod caeau Ysgol Howells. Adeiladwyd Cylch yr Orsedd yn Lôn Llywelyn ym mhen Ucha’r Dref. Ond nid yw yno heddiw gan i’r meini i gyd gael eu symud tua 1960 ar gyfer adeiladu stâd o dai ac Eglwys Gatholig Sant Joseph. Cyn yr eisteddfod penderfynodd y Pwyllgor Gwaith y dylid sefydlu pafiliwn bach mewn un rhan o’r cae a fyddai’n lle i gymdeithasau gyfarfod. Dyma Babell y Cymdeithasau heddiw. Un o’r rhai sy’n cofio’r eisteddfod honno yw yr hanesydd lleol o Ddinbych, R.M.Owen. Bachgen ifanc oedd o ar y pryd ac heb fawr o ddiddordeb yn y cystadlu. Ond mae’n cofio’r pafilwin mawr yn cael ei osod ac yn cael ei dynnu i lawr wedyn. Ar y diwrnod pan oedd yn cael ei dynnu i lawr yr oedd R. M.Owen a’i ffrindiau yn ceisio mynd i’r maes i chwilio am arian yr oedd yr eisteddfodwyr wedi ei golli tra’n crwydro’r maes. Yr oedd plant yr ardal yn aelodau o gôr plant. Yr ysgolion oedd yn dewis eu plant eu hunain a phrifathro ysgol R.M.Owen oedd yn gyfrifol am ddewis y rhai a gai berfformio o’u hysgol nhw. "Roedd yn aelod o’r pwyllgor cerdd ac yn ofalus iawn pwy oedd yn ei ddewis. Ches i mo fy newis er mawr ryddhad imi. "Dywedodd, ‘Bobi, ti’n gneud swn drwg’". Nid caneuon Cymraeg oedd y côr yn eu canu’r adeg honno ond rhai Saesneg! Digwyddiad trist Ond er gwaethaf llawer o atgofion melys digwyddiad trist iawn sy’n aros yng nghof R.M.Owen gan i’w dad farw ychydig fisoedd wedi’r eisteddfod. Saer coed oedd ef ac yn aelod o bwyllgor celf a chrefft yr eisteddfod y flwyddyn honno. Yn ystod wythnos y steddfod fe aeth i bysgota gyda’i ffrindiau i Lansanan. Dechreuodd fwrw’n drwm ac fe wlychodd y pedwar ohonyn nhw. Wedyn fe aeth ei dad yn syth i weld perfformiad o’r ddrama Llywelyn ein Llyw Olaf a dal niwmonia. Bu farw yn yr hydref. Casgliad o bethau steddfodol Mae R.M.Owen yn casglu pethau sy’n ymwneud a’r steddfod ac mae ganddo gasgliad arbennig o hen gardiau post. Eisteddfodau Dinbych sydd o ddiddordeb mwyaf iddo ac mewn llyfr llofnodion a gafodd gan ffrind a fu’n eu casglu yn ystod yr wyl y mae sgrifen rhai fel Crwys a Dewi Emrys. Hefyd mae ganddo fathodyn pwyllgor gwaith Thomas Gee o eisteddfod 1882 a chopi Kate Roberts o destunau 1939. Er bod rhai yn meddwl am eisteddfod 1939 fel un lle’r ataliwyd y gadair a’r goron dywedodd R.M.Owen i’r goron gael ei hennill y tro hwn. Eisteddfod gyntaf? Mae R.M.Owen yn dadlau mai yn Ninbych y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf erioed fel yr ydym ni’n ei hadnabod heddiw. Cyn hynny steddfodau rhanbarthol a gai eu cynnal ond yn niwedd y 50au gofynnwyd i bwyllgor drefnu eisteddfod yn y gogledd a’r de bob yn ail. Er mai Eisteddfod Aberdar 1861 a ystyrir fel yr eisteddfod gyntaf dywed R.M.Owen mai yn Ninbych flwyddyn ynghynt oedd y gyntaf yn go iawn. "Cafwyd hysbyseb yn y Caernarvon and Denbigh yn datgan ‘Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Ninbych 1860’". Diddordeb mawr mewn hanes lleol Mae R.M.Owen yn enedigol o Ddinbych. Fe fu’n brifathro dwy ysgol yn y dref ac yn y Mwnyglawdd hefyd. Yn 1984 ymddeolodd yn gynnar. Bu ganddo ddiddordeb mewn hanes lleol ers yn blentyn. "Roedd gan fy nhaid fusnes cario glo a chan mai fi oedd yr hynaf o’r plant roeddwn yn cael fy ngyrru efo’r dynion ac roedden nhw wastad yn son am Ddinbych ers talwm ac roeddwn i am wybod mwy." "Mae’n niddordeb i yn ymestyn ar hyd a lled Dyffryn Clwyd ond yn bennaf Dinbych a’r dalgylch." Cyhoeddodd nifer o lyfrau ac erthyglau ar Ddinbych ac mae’n sgrifennu i bapurau bro’r ardal ac i gylchgronau hanes ac yn darlithio. Mae’n ymddiddori mewn casglu pethau hefyd yn arbennig llyfrau hynafol ar Ddyffryn Clwyd, hen gardiau post o’r ardal, hen lythyrau a hen filiau o Ddinbych. Mae R.M.Owen yn edrych ymlaen at wythnos yr eisteddfod eleni: "Dydw i ddim yn meddwl mod i erioed wedi bod yn y pafiliwn. I’r Babell Lên a Phabell y Cymdeithasau y bydda i’n hoffi mynd.Dwi’n mwynhau’r gwmniaeth yn y steddfod ac wrth fy modd yn mynd rownd y maes a gweld pobol nad ydw i wedi eu gweld ers hanner canrif."
| |
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |