First Cymru Mae'r cwmni hwn yn gweithredu yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Castell-nedd, Maesteg, Port Talbot ac Abertawe. Mae hefyd yn rhedeg y gwsanaeth wennol, y Shuttle, rhwng Abertawe a Chaerdydd. Ac i'r rheiny ohonoch sy'n hoffi dipyn o hanes cymdeithasol - mae gan y safle hwn hefyd gronoleg o sut yr adeiladwyd y cwmni o'i wreiddiau yn 1914. Gwefan:www.firstcymru.co.uk Ffoniwch: 0870 608 2608 Cyngor Sir Gaerfyrddin Mae gan y safle awdurdod lleol hwn wybodaeth am wasanethau bysiau yn yr ardal. Gwefan: www.sirgar.gov.uk/welsh/index Ffoniwch: 0870 608 2608 Brodyr Richards Am wasanaethau ar gyfer ardaloedd Tyddewi, Hwlffordd, Abergwaun, Aberteifi, Llandudoch, Niwgwl, Mathry, Castell Newydd Emlyn, Saron, Llandysul, Caerfyrddin, Aberporth, Aberaeron, Ceinewydd, Llangrannog, ac Aberystwyth. Gwefan:www.gobybus.net Ffoniwch: 01239 613756 ARRIVA Cymru Ymhlith gwasanaethau'r cwmni hwn, mae'r chwedlonol 'Traws Cambria' - y bws sy'n rhedeg o Landudno i Fryste drwy Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd. Maen nhw hefyd yn rhedeg gwasanaethau lleol yn ardal Aberystwyth. Ffoniwch: 0870 608 2 608 National Express Mae National Express yn rhedeg amrywiaeth o deithiau hirach yn yr ardal, ac mae ei wefan hylaw yn cynnig gwybodaeth a'r cyfle i archebu tocynnau arlein yn ddiffwdan. Gwefan:www.nationalexpress.com Ffoniwch: 08705 808080
 |