Mae Gardd Fotaneg Cymru yn Llanarthne wedi croesawu aelodau newydd i'w teulu, gyda'r defaid Llanwenog yn rhoi genedigaeth yn barod at y Pasg. Mae'r dyfodiaid newydd ar Warchodfa Natur Waun Las yn rhan o bartneriaeth rhwng yr Ardd Fotaneg a Choleg Sir Gâr i brynu da byw i ofalu am erwau o laswellt, ac i gynnig adnoddau dysgu i'r Coleg drwy gynnal ymchwil ar gynefinoedd. Mae'r defaid Llanwenog yn cael eu bridio'n agos iawn i safle'r Ardd Fotaneg, ac maen nhw'n brin iawn. Mae gan y safle yn Llanarthne 70 o'r brid hwn. Mae ansicrwydd ynghylch dyfodol y brid hwn o ddefaid, ac mae'r Ardd felly'n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn gam ymlaen at eu diogelu drwy gynnig amodau addas iddyn nhw'n agos at eu man geni. Mae gan frid Llanwenog gotiau trwchus i'w diogelu nhw rhag y glaw (defnyddiol iawn yn y rhan yma o Gymru!), traed duon sy'n gallu gwrthsefyll pydru, a system dreulio sy'n gallu ymdopi â'r diffyg mwynau yn y pridd sy'n gyffredin iawn yn yr ardal hon. Mantais arall sydd i fridio defaid Llanwenog yw eu bod nhw'n gyfeillgar ac yn eithaf bach. Mae gan y brid ganran da o ran bridio hefyd, fydd o gymorth i sicrhau eu dyfodol ar y safle. Un peth anghyffredin am frid Llanwenog yw eu bod nhw'n adnabyddus am ofalu am ddefaid o fridiau eraill. Yn y gorffennol, mae defaid Llanwenog wedi gofalu am ddefaid Llyn - sydd yn dipyn o beth i'w weld, mae'n debyg! Mae gwartheg duon ar safle'r Ardd Fotaneg hefyd, ac mae disgwyl iddyn nhw ddechrau bridio yn yr wythnosau nesaf. Maen nhw'n gobeithio cael 12 llo eleni. Am fanylion o'r hyn sy'n digwydd yn yr Ardd Fotaneg eleni, ewch i'r wefan: www.gardenofwales.org.uk
 |