BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hwlffordd
Logo Yma i ChiBBC Cymru Yma i Chi yn Hwlffordd
Hwlffordd yw'r dref ddiweddaraf yng Nghymru i elwa o gydweithrediad cymunedol blaengar Yma i Chi gyda BBC Cymru.
  • Cliciwch yma i ddweud wrthon ni beth sy'n digwydd yn Hwlffordd

    Trwy gydol misoedd Mehefin a Gorffennaf eleni, bydd Hwlffordd yn ganolbwynt i ddigwyddiadau a rhaglenni BBC Cymru. Bydd y rhaglenni ar BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a'r teledu yn cynnwys newyddion, y celfyddydau, addysg, drama, cerddoriaeth a hyd yn oed chwaraeon.

    Mae safle we newydd bbc.co.uk/hwlffordd yn cynnwys yr holl wybodaeth am y cyfnod a llawer iawn mwy am hanes, digwyddiadau a datblygiadau'r ardal.

    Mae cydweithrediad a brwdfrydedd pobl leol yn hanfodol i lwyddiant y prosiect, a dyma beth mae'r trefnwyr yn awyddus i'w annog. Ffurfiwyd bwrdd ymgynghori o bobl leol eisoes i wneud paratoadau ac mae grwpiau cymunedol yn canolbwyntio ar syniadau a gwneud cynlluniau ar gyfer allbwn BBC Cymru o'r ardal.

    Eich cyfle chi i gyfrannu
    Dyma gyfle i bobl leol gyfrannu at y rhaglenni, i gymryd rhan mewn digwyddiadau, datblygu syniadau am hanesion sy'n bwysig ac ysgrifennu ar gyfer gwefannau'r BBC.

    "Mae presenoldeb BBC Cymru yn Hwlffordd yn ystod Mehefin a Gorffennaf yn rhan o'n hymgyrch Yma i Chi, sy'n gweithio gyda chymunedau ym mhob cwr o Gymru," meddai Alison Quinn, cydlynydd y prosiect o BBC Cymru.

    "Mae yna frwdfrydedd am y syniad hwn yn y dref eisoes. Byddwn yn darlledu rhaglenni radio a theledu, yn creu deunydd ar-lein, yn cynnal gweithdai a pherfformiadau, yn chwilio am ddoniau newydd a llawer iawn mwy. Felly, os oes gennych stori i'w hadrodd, syniad am eitem newyddion neu hyd yn oed llun yr hoffech rannu, cysylltwch â ni."

    "Mae hwn yn brosiect mawr i BBC Cymru," esbonia Alison. "Yn ystod ein cyfnod yn yma rydyn ni'n gobeithio ennill dealltwriaeth am yr ardal a'i phobl a bydd hefyd yn galluogi gweddill Cymru i ddysgu mwy am Hwlffordd."

    "Rydyn ni wedi derbyn croeso cynnes a chalonogol yn Hwlffordd," ychwanega, "Hoffwn ddiolch i'r bwrdd ymgynghori lleol am eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd wrth helpu ni i ddatblygu cysylltiadau agos â'r gymuned, ac rydyn ni'n gobeithio bydd y rheiny'n parhau ymhell y tu hwnt i'r deu fis o ddigwyddiadau lleol."

    Hwlffordd yw'r chweched ardal yng Nghymru i elwa o'r prosiect lleol Yma i Chi. Mae'r fenter wedi ymweld ag Ynys Môn eisioes eleni ac yn 2005 aeth i Aberdâr, Dinbych, Butetown yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin.

    Gallwch gysylltu â thîm Yma i Chi! BBC Cymru drwy anfon e-bost at ymaichi@bbc.co.uk neu drwy ffonio 08703 500 700.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lluniau
    Radio Cymru
    Natur


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy