BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Hwlffordd
LogoYma i Chi yn Hwlffordd
Manylion llawn holl weithgareddau BBC Cymru yn Hwlffordd a'r ardal rhwng Mehefin 25 a Awst 4, 2006.
SUL 25 MEHEFIN

Celebration
BBC Radio Wales
8am-8.30am

Gwrandewch ar y gwasanaeth a recordiwyd fis diwethaf yn Eglwys Annibynnol y Tabernacl.

Mousemat
BBC Radio Wales
5-5.30pm
Ymunwch â Adam Walton wrth iddo drafod cysylltiad Hwlffordd â'r dechnoleg ddiweddaraf. I'w ail-darlledu nos Lun 26 Mehefin am 9.30pm ac eto nos Fercher 28 Mehefin am 6.30pm.

MAWRTH 27 MEHEFIN

Diwrnod Archif Hwlffordd
BBC Radio Wales
Gwrandewch ar leisiau a straeon o Hwlffordd a recordiwyd gan y BBC dros y blynyddoedd ar raglenni Radio Wales trwy gydol y dydd.

MERCHER 28 MEHEFIN
Bws BBC Cymru
Canol Tref Hwlffordd
9am-3pm
Dewch ar y bws i gwrdd â Kath o raglen Roy Noble ar Radio Wales rhwng 9am-11am ac i gymryd rhan yng nghystadleuaeth y Llais Cudd.
Hefyd, gallwch gyfrannu at wefannau lleol y BBC: bbc.co.uk/hwlffordd neu bbc.co.uk/haverfordwest a chael mwy o wybodaeth am raglenni a phrosiectau'r BBC.

IAU 29 MEHEFIN

Gweithdai C2
Ysgol Uwchradd Bro Gwaun
Dafydd Du sy'n cynnal gweithdai DJ gyda'r disgyblion, a chyfle iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu a chyflwyno.

Extra Time Quiz
Clwb Pêl-droed Hwlffordd
7.30pm
Noson o hwyl gyda Frances Donovan, Jason Mohammad ac Owen Money wrth iddynt brofi gwybodaeth clybiau chwaraeon lleol. I'w darlledu ar Radio Wales ddydd Sadwrn 12 Awst ac ar ddydd Sadwrn 2 Medi am 12.30pm.

GWENER 30 MEHEFIN

Roy Noble
BBC Radio Wales
Rhywle yn Hwlffordd!
9-11am
Gwrandawyr Radio Wales sy'n gwahodd Roy i ddarlledu o'u milltir sgwâr yn Hwlffordd.

Siân Thomas
BBC Radio Cymru
2-3pm
Bws BBC Cymru yng Nghanolfan Gymunedol Picton (1-5pm)
Dewch draw am glonc a chân ar drothwy'r penwythnos wrth i rai o'r cymeriadau lleol sgwrsio â Siân Thomas.

Geraint Lloyd
BBC Radio Cymru
Bws BBC Cymru yng Nghanolfan Gymunedol Picton (6-8pm) 6.30-8pm
Heno fe fydd Geraint yn darlledu ei raglen oddi ar y Bws. Pam na ewch chi draw i'w weld yng Nghanolfan Gymunedol Picton.

SADWRN 1 GORFFENNAF

Galwad Cynnar
BBC Radio Cymru
6.30-8am
Ymunwch â Gerallt Pennant ben bore wrtho iddo grwydro arfordir Sir Benfo mewn cwch.

Diwrnod y Dysgwyr
Coleg Sir Benfro
9.30am
Diwrnod llawn o ddigwyddiadau i ddysgwyr Cymraeg o bob lefel. Bydd rhai o sêr BBC Cymru yno i'ch helpu chi gan gynnwys Derek Brockway, actorion Pobol y Cwm yn ogystal â Siân Thomas, Hywel Gwynfryn a Marc Griffiths o Radio Cymru. Dysgwch eiriau Hen Wlad Fy Nhadau gydag aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a dewch i gwrdd â'r Bobinogi. Gallwch gofrestru drwy e-bostio learnwelsh@bbc.co.uk neu ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru.

Bws BBC Cymru
Canolfan Ymwelwyr Scolton Manor
11am-3pm
Dewch â'ch lluniau natur i'r bws er mwyn eu cynnwys ar y wefan leol hon: bbc.co.uk/hwlffordd

Cyngerdd Y Tywydd a'r Tonnau
Ysgol Syr Thomas Picton
7pm
Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am gyngerdd rhyngweithiol llawn hwyl wedi'i ysbrydoli gan y tywydd a'r tonnau. Cyflwynir y noson gan Derek Brockway a Jamie Owen. Tocynnau £6, gostyngiadau £3. Ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru am docynnau neu fanylion pellach.

SUL 2, GORFFENNAF

Diwrnod Agored BBC Cymru
Maes Sioe Sir Benfro
10am-4.30pm
Dewch i weld TARDIS Doctor Who a'r Dalek, darllenwch y newyddion gydag Eleri Morgan a Jamie Owen, cyflwynwch y tywydd gyda Derek Brockway a dewch i gwrdd â'r Bobinogi, actorion Pobol y Cwm ac aelod o dîm Iolo's Welsh Safari. Mynediad am ddim.

Owen Money
BBC Radio Wales
Bws BBC Cymru ar Faes Sioe Sir Benfro
2- 4.30pm
Ymunwch ag Owen am brynhawn o adloniant a cherddoriaeth.

Adam Walton
BBC Radio Wales
10pm-1am
Gwrandewch ar Adam Walton sydd heno'n sgwrsio â Robin Benson o Tidy Like Records - y cwmni recordio cymunedol o Hwlffordd.

MAWRTH 4 GORFFENNAF

An Evening with Jamie Owen
Theatr Myrddin
7.30pm
Jamie Owen sy'n rhannu rhai o brofiadau ei yrfa teledu a radio - gan gynnwys Magic Harbours a'i gyfres newydd fydd yn cael ei darlledu yn hwyrach eleni. Am docynnau, ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru neu galwch heibio i Theatr Merlin.

Oedfa
Capel Pen y Bont, Cas-blaidd
7pm
Ymunwch â'r gynulleidfa yng Nghapel Pen y Bont yng Nghas-blaidd. I'w darlledu ar BBC Radio Cymru ddydd Sul 9 a 16 Gorffennaf am 11.30am.


MERCHER 5 GORFFENNAF

Jamie Owen
BBC Radio Wales
Bristol Trader
11am -12pm
Bydd Jamie Owen yn darlledu ei raglen ddyddiol yn fyw o'r Bristol Trader a bydd Nozrul Hussain, y cogydd o fwyty'r Taj Mahal yn cadw cwmni iddo ac yn paratoi'r pryd o fwyd a enillodd y Tiffin Cup yn 2006.

Y Celfyddydau
BBC Radio Cymru
12.10-12.50pm
Golwg ar fywyd celfyddydol Hwlffordd a'r fro gyda Beti George.

Bws BBC Cymru
Clwb Rygbi Hwlffordd
2-8pm
Galwch draw i gwrdd â rhai o sêr rygbi'r dyfodol.

Geraint Lloyd
BBC Radio Cymru
Bws BBC Cymru yng Nghlwb Rygbi Hwlffordd
6.30-8pm
Dewch draw i gadw cwmni i Geraint yn y Clwb Rygbi.

IAU 6 GORFFENNAF

Hywel a Nia
BBC Radio Cymru
10.30am-12.10pm
Oedd, roedd 'Steddfod '72 yn steddfod i'w chofio ac fe fydd Hywel Gwynfryn a Nia Roberts yn treulio'r rhaglen hon yn hel atgofion â'r rheiny oedd yno, ac yn cael cyfle i ail-glywed rhai o uchafbwyntiau ymweliad y Brifwyl â Sir Benfro.

Diwrnod Cymunedol Bws BBC Cymru
Canol Tref Hwlffordd
10am-4pm
Y thema yw "Ddoe a Heddiw". Os oes gennych stori i'w hadrodd yn ogystal â lluniau o'r ddau gyfnod, dewch draw i'r bws, er mwyn eu cynnwys ar y wefan leol bbc.co.uk/hwlffordd

GWENER 7 GORFFENNAF

Jonsi
BBC Radio Cymru

Canolfan Gymdeithasol Capel y Tabernacl 8.30-10.30am
Dewch draw am sgwrs, cerddoriaeth dda a digon o hwyl wrth i Jonsi fwynhau pryd cynta'r dydd gyda thrigolion Hwlffordd a'r fro. Bydd y sgwrs yn siŵr o droi at fwyd wrth i Jonsi chwilio am gacen siocled!

Taro'r Post
BBC Radio Cymru
Bws BBC Cymru - Canol Tref Hwlffordd
1-2pm
Rhaglen drafod boblogaidd Radio Cymru yn fyw o Hwlffordd sy'n rhoi sylw i rai o brif faterion y dydd ac yn cynnig cyfle i chi ddweud eich dweud.

Bws BBC Cymru
Canol Tref Hwlffordd
10am-3pm
Ar ddiwrnod Marchnad y Ffermwyr, bydd criw'r bws yn chwilio am straeon a lluniau sy'n gysylltiedig â'r farchnad arbennig hon.

SADWRN 8 GORFFENNAF

Look Up Your Genes
Llyfrgell Hwlffordd
10am-4pm
Dewch i'r diwrnod hel achau er mwyn rhoi cychwyn ar ddarganfod eich coeden deuluol gyda'r arbenigwraig achau Cat Whiteaway. Ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru i gadw'ch lle.

Gweithdy Repertoire Corawl
Ysgol Syr Thomas Picton
10.30am-4pm
O dan arweiniad Adrian Partington, Cyfarwyddwr Artistig Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, dyma gyfle i gorau a chantorion lleol gymryd rhan mewn gweithdy repertoire corawl, a bydd rhan o'r diwrnod yn canolbwyntio ar gerddoriaeth y Nadolig. I gadw'ch lle, ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru. Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cerddoriaeth Amatur Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Corawl Prydain.

Talent Radio Cymru
Clwb Rygbi Hwlffordd
7pm-9pm
Fel rhan o'n Diwrnod Talent cenedlaethol, dewch draw i'r clwb rygbi i weld pobl o'r ardal yn cael eu cyfle cyntaf erioed i gyflwyno rhaglen fyw ar BBC Radio Cymru.

SUL 9 GORFFENNAF

Harfats Hwlffordd
BBC Radio Cymru
12pm
Cip ar fywyd trigolion y dre ar gyrion rhan llai adnabyddus o Barc Cenedlaethol Sir Benfro ar lannau'r Cleddau Wen.
LLUN 10 GORFFENNAF
A Day in the Life of Haverfordwest
BBC Radio Wales
Gydol y dydd, gwrandewch ar rai o drigolion yr ardal wrth i ni gael cipolwg ar fywyd bob dydd yn nhref Hwlffordd. Gallwch hefyd ddilyn y cymeriadau ar y wefan leol bbc.co.uk/haverfordwest

Pawb a'i Brofiad
Llyfrgell Hwlffordd
6.30pm
Guto Harri a'i westeion yn trafod pob math o bynciau mewn noson o hwyl a phrofiadau dirdynnol am yn ail. Recordir dwy raglen ar y noson. Ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru am docynnau rhad ac am ddim.

MAWRTH 11 GORFFENNAF

Y Talwrn
Tafarn Sinc, Rosebush
7pm
Y meuryn Gerallt Lloyd Owen fydd yn cadw trefn ar yr ymryson wrth i'r gystadleuaeth gyrraedd y rownd gyn-derfynol gynta. I'w darlledu ar Radio Cymru ddydd Sul 23 Gorffennaf am 6.30pm.

MERCHER 12 GORFFENNAF

Nicola Heywood Thomas
BBC Radio Wales
Canolfan Gymunedol Picton
12-2pm
Ymunwch â Nicola yn fyw o Hwlffordd wrth iddi drafod dyfodol ysbytai yng Nghymru.

Manylu
Canolfan Gymunedol Picton
6pm
Gwilym Owen sy'n cadeirio trafodaeth ynglyn ag adrefnu gofal meddygol yn Ne Orllewin Cymru. Darlledir y rhaglen ar BBC Radio Cymru nos Iau 13 Gorffennaf am 6pm ac eto ddydd Sul 16 Gorffennaf am 6pm. Ffoniwch llinell Wybodaeth BBC Cymru am docynnau.

IAU 13 GORFFENNAF

Beti a'i Phobol
BBC Radio Cymru
12.10pm
Marilyn Lewis o Hwlffordd, enillydd gwobr TH Parry Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni fydd gwestai arbennig Beti George.

I'll Show you Mine
Clwb Rygbi Hwlffordd
7.30pm
Ray Gravell, Frank Hennessy a'u gwesteion sy'n eich gwahodd am noson o gerddoriaeth fyw a chomedi. Darlledir y rhaglen ar Radio Wales ddydd Sul 16 Gorffennaf am 6pm. Mynediad am ddim - ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru am docynnau.

GWENER 14 GORFFENNAF

Gig C2
Clwb Rygbi Crymych
8pm
Terwyn Davies yn cyflwyno Eusebio, Coda (Enillwyr Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2006) a Vanta o Glwb Rygbi Crymych. Galwch llinell Wybodaeth BBC Cymru am docynnau sy'n £5 yr un. Darlledir y noson yn ddiweddarach ar BBC Radio Cymru.
SADWRN 15 GORFFENNAF

Gweithdy Sgiliau Radio
Coleg Sir Benfro
10am-4pm
Am fod yn gyflwynydd neu'n gynhyrchydd radio? Dewch i brofi'ch sgiliau ac i gael cyngor. Ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru i gadw'ch lle.

MAWRTH 18 GORFFENNAF - GWENER 21 GORFFENNAF

Gweithdy Straeon Digidol
Coleg Sir Benfro
Mae'r gweithdy pedwar diwrnod yma yn gyfle gwych i greu stori ddigidol bersonol ynglyn ag unrhyw bwnc sy'n bwysig i chi, gan ddefnyddio'r dechnoleg cyfryngau newydd ddiweddaraf. Mae'r ffilmiau byr hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Capture Wales a chaiff rhai eu darlledu ar deledu a radio. Saesneg fydd iaith y gweithdy. Mae llefydd yn brin ac mae'n rhaid i chi gofrestru. I wneud cais, ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru neu ewch i'r wefan bbc.co.uk/capturewales
Dyddiad cau: Mercher 5 Gorffennaf

SADWRN 29 GORFFENNAF
Cyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Neuadd Ysgol Syr Thomas Picton
7pm
Fel rhan o Ŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun, dyma gyngerdd cyffrous yng nghwmni Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Ailish Tynan (soprano) a Natalie Clein (soddgrwth) mewn rhaglen sy'n cynnwys Concerto Elgar i'r Soddgrwth, o dan arweiniad James Judd.
Tocynnau: £6 a £14 gyda thocynnau rhatach i ddisgyblion ysgol. Ffoniwch 08703 500 700.

LLUN 31 GORFFENNAF - GWENER 4 AWST

5 Days in Haverfordwest
BBC 2W
Cyfle i gael blas ar fywyd yn Hwlffordd trwy lygaid y bobl sy'n byw yno.

Look Up Your Genes
BBC 2W
7.30pm
Gwyliwch drigolion Hwlffordd yn hel achau gyda'r tîm o raglen Radio Wales.

GWENER 4 AWST

Cabaret Cymunedol
Theatr Myrddin, Hwlffordd
7.30pm
Perfformwyr gorau eich ardal yn ymuno â chabaret teithiol BBC Radio Wales i greu noson fythgofiadwy o gomedi a cherddoriaeth. Ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru am docynnau neu am fanylion ar sut i gymryd rhan yn y sioe.

Bydd ein rhaglenni newyddion radio a theledu yn crwydro Hwlffordd yn ystod yr ymgyrch Yma i Chi!, gan ddod â mwy o straeon lleol i wylwyr a gwrandawyr ledled Cymru.



Lluniau
Radio Cymru
Natur


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy