"I ddathlu lawnsio'r cwmni, cynhelir cyngerdd gala operatig ar ddydd Sul yr 21ain o Fehefin am dri o'r gloch y prynhawn , ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, yng nghalon Ceredigion.
Mae hanes hir o wyliau a llwyddiannau cerddorol yn perthyn i Bafiliwn Pontrhydfendigaid ac mae'r hanes yma yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymraeg a Chymreig. Mae gan yr adeilad, ar ei newydd wedd, awditoriwm enfawr a chaeau godidog o'i gwmpas: lleoliad delfrydol ar gyfer gweledigaeth ddeinamig cwmni OPRA.
Dyma fydd lleoliad operau ar raddfa lawn ac o'r safon theatrig uchaf; operau a berfformir yn Gymraeg, ac ar gyfer pawb; operau mewn awyrgylch gartrefol, hamddenol,gwyl i bawb fwynhau ar lan yr afon ym Mhontrhydfendigaid.
Yn addas iawn, 'Troad y Rhod' yw'r enw ar y gyngerdd agoriadol eleni - ganol haf wrth gwrs, sydd yn digwydd ar yr 21ain o Fehefin - ond mae bwriad a gobeithion OPRA yn cael eu cyfleu'n addas iawn yn yr ymadrodd hynafol yma, gan fod sefydlu'r cwmni yma yn gychwyn ar chwyldro ym myd celfyddydol Cymru.
Mae delwedd y cylch hefyd yn cyfleu'r syniad o barhad - sydd yn addas iawn i waith OPRA: troi opera yn gelfyddyd Cymraeg a thrwy wneud hynny sicrhau ei fod yn apelio at gynulleidfa eang yng Nghymru. Mae'r cwmni hefyd yn gosod y seiliau ar gyfer creu repertoire operatic Cymraeg newydd sbon mewn blynyddoedd i ddod.
Mae OPRA'n falch i gydnabod cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y gyngerdd gala hon ac i'r Rhaglen Datblygu Digwyddiadau Gwledig Ceredigion. Mae'r cwmni hefyd wedi derbyn cefnogaeth arbennig ac unigryw gan y gemydd byd enwog Rhiannon, sydd wedi creu cynllun newydd i gofnodi pwysigrwydd hanesyddol y gyngerdd hon.
Bydd y cynllun yma ar gael ar ffurf darn o emwaith - dim ond ar ddiwrnod y gyngerdd, ac ym Mhontrhydfendigaid yn unig!
Bydd y gerddorfa yn y gyngerdd hon yn cynnwys rhai o gerddorion ifainc mwyaf talentog Cymru, dan arweiniad y sielydd a'r arweinydd o fri Gareth john. Ymhlith yr unawdwyr fydd Leah Marian Jones, Jeremy Huw Wiliiams, Rhian Lois Evans, Gareth Huw John a Sion Goronwy. Bydd Côr Caerdydd, dan arweiniad Gwawr Owen yn perfformio, a cyflwynydd y digwyddiad fydd yr actor a'r awdur Huw Garmon.
Menter newydd a chyffrous ar gyfer perfformio opera yn Gymraeg yn unig yw OPRA. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru mae wedi datblygu i fod yn brosiect o'r safon artistig orau gan y cyfarwyddwr opera rhyngwladol Patrick Young."