Yn wreiddiol o Aberteifi mae Anwen Francis bellach wedi ymsefydlu ym mhentre' Beulah ger Castellnewydd Emlyn. Mae Anwen wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am Siani'r Shetland, sef Siani'r Shetland, Nadolig Llawen Siani, Siani'n Achub y Dydd, Campau Siani'r Shetland, a Siani ar Garlam ac un nofel 'Siani the Shetland' drwy gyfrwng y Saesneg.
Rych chi 'n berchen ar fridfa eich hun sef Bridfa Serenteifi. Sut mae eich diddordeb mewn ceffylau a marchogaeth wedi bwydo'ch llyfrau am Siani?
Mae pawb sy'n fy adnabod yn gwybod fy mod i'n ddwl am geffylau a wastad wedi bod. Francis oedd enw'r poni cyntaf oedd gyda fi - Shetland fach frown ac roeddem wrth fy modd yn edrych ar ei hol. Yna cefais boni mwy o faint o'r enw Spice, a hi oedd fy ffrind gorau am dros ddeng mlynedd. Doedd dim modd ein gwahanu ac fe fyddem wedi bod yn ddigon hapus iddi fyw yn y tŷ gyda fi! Mae'r ffaith fy mod i wedi treulio cymaint o amser yng nghwmni'r anifeiliaid hoffus yma wedi dylanwadu'n fawr ar y llyfrau. Mae'r ffeithiau yn y llyfrau yn gywir ac yn ddealladwy a nifer o'r digwyddiadau ynddyn nhw yn wir ac yn olrhain fy hanes innau ar hyd y blynyddoedd.
Beth sy'n digwydd i Siani yn y nofel ddiweddaraf?
Wel druan â Siani fach! Mae ganddi fywyd bisi iawn, a s'dim stop arni - o gystadlu yn Sioe Aberteifi i rasio mewn cystadleuaeth pwynt i bwynt gyda'r helfa leol! Mae hefyd yn mynd ar goll ac mae'r heddlu yn chwilio amdani ymhob man! A fydd Siani yn cael ei darganfod yn ddiogel? A fydd Sioe Aberteifi yn mynd yn ei blaen? Ac a fydd yr haul yn gwenu dros Fferm Parc yr Ebol erbyn diwedd gwyliau'r ysgol?
Beth oedd eich hoff lyfr pan oeddech yn blentyn?
Dw i'n cofio darllen amryw o gyfresi pan yr oeddem yn yr ysgol iau yn Aberteifi. Yna symud ymlaen i ddarllen nofelau trwchus gan fwynhau llyfrau megis Black Beauty, Wind and the Willows a'r Famous Five. Roedd rhaid bod 'na antur ymhob un llyfr. Ond rhaid i mi gyfaddef mai mam oedd yn fy ysbrydoli i fwyaf ym myd y darllen a chreu storïau. Roedd hi bob nos yn creu stori newydd ac yn adrodd y stori cyn gwely. Byddai'n creu cymeriadau lliwgar gan eu disgrifio i'r dim, byddai'n creu byd o ffantasi hefyd ac roedd hyn yn caniatáu i mi ymollwng i'r byd yna am amser. Rwy'n hynod ddiolchgar iddi.
Pryd ddechreuoch chi feddwl am ysgrifennu?
Dw i wastad wedi mwynhau ysgrifennu ers yr oeddem yn blentyn. Byddaf bob amser yn gafael mewn beiro. Dw i'n sobor o gysurus pan fydd beiro yn fy llaw. Os nad ydwyf yn ysgrifennu erthygl ar gyfer y papur lleol neu'n sgriptio, byddai'n hoff iawn o 'sgrifennu syniadau ar bapur neu'n gwneud rhestr fwyd, unrhyw beth ond ei fod yn ymwneud â geiriau!
O ble rych chi'n cael eich syniadau?
Byddaf yn cael fy ysbrydoli gan unrhywun neu unrhyw beth! Dw i'n gweld pobl yn ddiddorol, eu cymeriadau, eu sgyrsiau a'u ffordd o fyw. Mae pawb yn wahanol a phawb yn gweld pethau'n wahanol a does neb yn adrodd digwyddiad yr un peth. Mae straeon newyddion rhyngwladol yn dylanwadu arna i hefyd, digwyddiadau mewn sioeau ceffylau, brawddeg y mae rhywun yn ei bloeddio - unrhyw beth!
Pa gyngor allwch chi gynnig i rywun sy'n ystyried ysgrifennu llyfrau ar gyfer plant?
Dw i bob amser yn cadw pob syniad sydd gennyf ar bapur mewn llyfr. Efallai na fydd y syniad yn eich ysbrydoli am flynyddoedd, ond efallai y bydd hi'n ddefnyddiol wrth ysgrifennu stori am rywbeth arall. Ond y peth mwyaf yw bod yn rhaid i chi fod yn benderfynol, joiwch yr ysgrifennu ac ymchwiliwch ddigon i'r cynnwys, a chofiwch fod angen digon o ddychymyg arnoch chi!
Pwy yw eich hoff awduron?
Dw i'n mwynhau gwaith Bethan Gwanas, Menna Medi a Caryl Lewis yn fawr iawn ac wrth fy modd yn darllen eu nofelau gyda'r hwyr. Ers cael fy mhlant, Soffia sy'n dair a Henri sydd bellach yn naw mis, dw i wrth fy modd yn darllen llyfrau i blant bach hefyd. A s'dim yn well na chael awr fach mewn siop lyfrau a chael dewis llyfr oddi ar y silff.
Oes 'na rhagor o lyfrau am Siani neu llyfr arall ar y gweill?
Dw i'n gobeithio'n fawr y bydd 'na nofel arall yn y gyfres Siani, ond os na fydd yna nofel arall, gobeithiaf ysgrifennu cyfres newydd. Dw i'n siŵr y bydd hi'n gyfres yn ymwneud ag anifeiliaid, cyfres antur efallai, ond yn bendant fe fydd yna ddigon o hynt a helynt yn y nofelau a digwyddiadau cyffrous a doniol.