BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ymarfer Hen RebelProfiad yr Hen Rebel
Catrin Lewis, yn sôn am y cyfle o berfformio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn y sioe Hen Rebel.
"Wyt ti eisiau cymryd rhan mewn cynhyrchiad gan Theatr Cenedlaethol Cymru?"
Nid bob dydd y mae rhywun yn cael cynnig fel yna! Ond dyna ofynnwyd imi gan Nesta, trefnydd ar ran y Cwmni Theatr, dim ond ychydig wythnosau yn ôl.

Allwn i ddim gwrthod cyfle fel 'na a minne'n astudio Drama ar gyfer fy Lefel A. A pheth arall, roedd yn gyfle i deithio gyda'r cwmni fel rhan o'r corws a chael perffromio ar lwyfannau rhai o brif theatrau De Cymru.

Ychydig a wyddwn am gefndir y peth cyn mynd i gyfarfod â Cefin Roberts, cynhyrchydd y ddrama gerdd yng nghartref dros dro'r cwmni ym Mharc yr Arfordir Llanelli. Eglurodd inni fwriad y ddrama sef rhoi hanes diwygiad 1904 ond yn bennaf, hanes Evan Roberts a'i droedigaeth.

Cawsom ein cyflwyno i'r cefndir hanesyddol, gwelsom fodel bychan o'r set a chawsom wybod pwy fyddai'n cymryd rhan y prif gymeriadau. Roeddwn yn teimlo'n reit gyffrous yn gadael gan fy mod yn mynd i gael rhannu llwyfan gyda rhai o enwogion y byd perfformio yng Nghymru.

Yn yr ymarferion oedd i ddilyn, diddorol oedd y ffordd y cawsom ein paratoi yn feddyliol ac yn gorfforol gan ddysgu cymeriadu o ran hanes, iaith ac osgo.

A dyma ni, bron â gorffen ein taith gyda'r cwmni, ac wedi cael gwefr arbennig o gydweithio gyda'r sêr, cael gwisgo dillad dydd Sul o'r gorffennol ond yn fwy na dim, cael profi ymateb cynulleidfaoedd brwd yn arbennig ar ein tomen ein hunain yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin.

Gan: Catrin Lewis


Cyfrannwch

Lisa Marged o Nantycaws
Ti'n hollol gywir fana Catrin. Profiad bythgofiadwy yn perfformio gyda actorion LYSH (Evan Roberts ei hun!!!!!!!!!!!!!!!!)

Rita Bevan o Langynnwr
Ysgrifennu gwych gan ferch hynnod o dalentog, gyda dyfodol disglair!!!Tom!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy