Morecambe a Wise, Les Dawson a Roy Barraclough, y Ddau Ronnie.... Dyma'r ychydig ddeuawdau y gellir eu galw'n 'sefydliad' ym myd comedi Saesneg. Mae'r fath gysyniad yn fwy prin fyth yn Gymraeg. Nid bod prinder digrifwyr wedi bod yn Gymraeg ar hyd y blynyddoedd chwaith. Ond mae ffurfio deuawd yn gofyn am ddau ddigrifwr sy'n deall eu gilydd, yn gallu rhannu llwyfan ar lefel broffesiynol, tra'n gallu cynnal rhyw elfen o berthynas ar lefel bersonol hefyd.
O ystyried y pwynt olaf, pam a sut y bu Ryan Davies a Ronnie Williams - Ryan a Ronnie - mor llwyddiannus? Dyna'r cwestiwn, mae'n debyg, yr aeth Meic Povey ati i'w ateb yn ei ffilm 'Ryan a Ronnie', sydd wedi bod ar daith o amgylch Cymru ers ychydig dros fis.
Cafodd 'Ryan a Ronnie' ei dangos fel ffilm am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 2008, ac fe benderfynwyd ei hanfon o amgylch Cymru, gan ysgubo ar garlam drwy'r Gorllewin lle fuasai, mae'n debyg, yn cael croeso cynnes fel y cawsai'r deuawd eu hunain yn y cnawd. Cafodd y ddrama lwyfan ei hysgrifennu dair blynedd ynghynt.
Mae'r stori'n dechrau yng nghlwb Stardust yng Nghaerdydd, rhyw saith mlynedd ar ôl i'r ddeuawd ddod at ei gilydd am y tro cyntaf. Gwelwn o'r dechrau nad yw bywyd yn ddedwydd wrth fynd o un perfformiad i'r llall, sy'n dod â ni nôl i'r mater o berthynas bersonol a phroffesiynol, y soniais amdani ar y dechrau.
Er eu holl lwyddiant, roedd perthynas y ddau yn dechrau chwalu. Ryan, yn sicr, oedd y gwir seren, ac roedd Ronnie'n dechrau symud i'r cefndir. Roedd yn dechrau dadrithio wrth i'r galwadau i Ryan berfformio ar ei ben ei hun ddechrau cynyddu. Llwyddir i gyfleu'r dadrithiad hwn yn gelfydd drwy symbol y sigaret, sy'n methu tanio yn llaw Ronnie. Ai dyma'r fflam fyddai'n pylu'n ddiweddarach?
Roedd Ronnie yn llwyr ar goll heb Ryan, ac fe gyfeirir at 'Siôn heb Siân' wrth i Ronnie bendroni dros ddyfodol heb y cyfaill yr oedd yn methu gweithio ag e bellach, ond yr oedd yn methu byw hebddo, serch hynny.
Roedd Ryan yn dechrau troi ei olygon tuag at y 'mwg mawr' yn yr Unol Daleithiau, tra roedd Ronnie yn ddigon cartrefol yn teithio hyd a lled Cymru. Roedd Ryan yn adnabyddus fel un a oedd yn barod i wneud popeth o fewn ei allu i wireddu ei freuddwyd. Meddai'r awdur a'r darlledwr, Lionel Fanthorpe am Ryan, "Un dydd Sadwrn, fe gyflwynodd e raglan radio yn y bore. Yna, i lawr y grisiau yn y BBC, a recordio rhaglen i blant rhwng 9 a 12. Yna, gyrru i lawr i Abertawe am berfformiad yn y prynhawn. Fe arhosodd e i wneud perfformiad yn y nos rhwng 7.30 a 10. Yna, gyrru i Gaerffili i ymddangos yng Nghlwb Double Diamond. Dyna i chi ymroddiad..."
Yn sgil y math hwn o ymroddiad, gwelir dadl rhwng y ddau am y ffordd ymlaen i'w perthynas, ac fe grisielir y tyndra yn eu perthynas erbyn hyn pan ddywed Ryan, "Os nagw i yn y fast lane, sai mo'yn bod ar yr hewl". Ai'r 'hewl' i ebargofiant fyddai hyn i Ronnie, tybed? Roedd Ryan, erbyn hyn, eisoes yn galw 'Ron drist' ar ei gyfaill, er bod Ryan yntau hefyd yn dioddef erbyn hyn, ond o sgil effeithiau alcoholiaeth. Cic y ffilm yw mai ysfa Ryan i gyrraedd yr uchelfannau a'i laddodd yn y pen draw. Fe gafodd ei freuddwyd ei gwireddu drwy fynd i'r Unol Daleithiau. Ddaeth e ddim yn ôl. Roedd diwedd Ryan yn golygu dechrau'r diwedd i Ronnie ei hun.
Er gwaethaf y duwch oedd yn gysgod uwch perthynas y ddeuawd, mae elfennau comedïol y ffilm yn cynnig rhyddhad rhag y tyndra. Ac yn wir, fe ddaw'r cylch yn gyflawn ar ddiwedd y ffilm, wrth i ni weld y ddeuawd yn perfformio 'Blodwen a Meri', sy'n sicr yn arwydd bod elfen o gadernid yn eu perthynas hyd y diwedd, hyd yn oed os nad oedd yn gwbl amlwg ar adegau.
O ran yr actorion eu hunain, mae'n anodd mesur pa mor llwyddiannus oedd Rhys ap Hywel fel Ronnie, oherwydd bod y cymeriad ei hun yn gorfod chwarae rhan 'cynorthwy-ydd' i Ryan neu'r 'side-kick', ys dywed y Sais. Mae Aled Pugh yn dod â chymeriad Ryan yn fyw i ni mewn ffordd gredadwy, fel nad yw'n ymddangos fel ffilm ffug-ffeithiol drwyddi draw.
Yn sicr, mae ffilmiau sy'n darlunio cymeriadau enwogion wedi blasu cryn dipyn o lwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gyda 'The Curse of Steptoe' yn cael ei dangos ar BBC4; ffilmiau ehangach fel 'The Damned United' yn darlunio cymeriad y rheolwr pêl droed, Brian Clough; a 'Fantabuluso' sy'n bortread o'r digrifwr a'r actor Kenneth Williams gan y Cymro Michael Sheen.
Fe fydd ffilmiau o'r fath o hyd yn denu elfen ddadleuol, gan nad yw'n bosib cael darlun perffaith o gymeriad heb gythruddo rhywun neu'i gilydd. Mae hyn yn sicr yn wir am 'The Damned United' a 'The Curse of Steptoe'. Mae'n bwysig dan y fath amgylchiadau, o bosib, bod rhywfaint o fewnbwn gan y teulu eu hunain wrth i'r ffilm fynd i'r sgrîn. Ond eto, mae'n bosib y gallai hynny gwtogi rhywfaint ar y darlun gwrthrychol a geir gan y cyfarwyddwr.
Ceisiwyd lleihau ar y posibilrwydd o gamarwain y gynulleidfa o safbwynt 'Ryan a Ronnie', gan fod Arwyn Davies, mab Ryan, yn gyfarwyddwr cerdd i'r cynhyrchiad, ac yn hynny o beth, yn cadw rhywfaint o reolaeth dros y cynhyrchiad (caiff Arwyn ei hun ei chwarae yn y ffilm gan Llewelyn Hopwood, mab y Prifardd Mererid).
Yn ddiau, mae elfennau i'r ffilm hon y gellir eu cwestiynu, wrth reswm, ond ar y cyfan, mae'n darlunio prif agweddau'r berthynas rhwng dau o ddigrifwyr mwyaf cofiadwy Cymru, ac yn codi'r cwestiwn am gyflwr comedi yng Nghymru. Mae'n rhaid mynd yn ôl i'r saithdegau i gael deuawd comedi sydd wedi gadael eu marc ar y genedl, ac mae'n annhebygol y gwelwn eu tebyg am gryn amser i ddod.
Gellir gweld y ffilm yn y lleoliadau canlynol:
Theatr Gwaun, Abergwaun - Ebrill 17
Theatr y Lyric, Caerfyrddin - Ebrill 17
Theatr Elli, Llanelli - Ebrill 17
Theatr Mwldan, Aberteifi - Mai 2, 4, 5, 7 & 9
Portread o Ryan Davies