Ddydd Gwener, Mehefin 4ydd, cafodd Ysgol Gynradd Llwynderw yn West Cross, Abertawe ei hagor yn swyddogol, ychydig yn llai na blwyddyn ar ôl agor ei drysau am y tro cyntaf. Cafodd yr achlysur ei nodi a'i ddathlu yng nghwmni rhai o gyn-ddisgyblion yr ysgol, sydd bellach yn Ysgol Gyfun Gŵyr, athrawon a chyn-athrawon, llywodraethwyr, Aelodau'r Cynulliad ac aelodau Cyngor Dinas a Sir Abertawe. Cafodd yr ysgol ei hagor yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.
Ysgol Gynradd Llwynderw yw'r ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Abertawe i gael adeilad pwrpasol newydd.
Mae'r enw Ysgol Gynradd Llwynderw wedi bodoli ers saith mlynedd bellach, ond am flwyddyn yn unig yn ei chartref presennol yn West Cross. Fe ddechreuodd y cyfan yn 2002, pan agorwyd yr ysgol mewn caban ar safle Ysgol Gyfun Bishop Gore yn Sgeti. Ac os oedd hi'n ymgyrch faith i gyrraedd y fan honno, roedd hi'n anos fyth cael hyd i safle newydd i'r ysgol.
Mae'r ymgyrch i geisio ennill ysgol ychwanegol yn yr ardal honno wedi para ugain mlynedd bellach. Mae Cymdeithas Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu'n galed ar hyd y blynyddoedd, ac wrth reswm, roedd cyffro i'w deimlo pan gyrhaeddodd y diwrnod mawr.
Ers symud i'r safle newydd, mae'r disgyblion wedi bod yn codi arian at adeilad ysgol newydd i blant yn Affrica. Fe ddechreuodd y cyfan â chymorth gan elusen Cymorth Cristnogol, ac erbyn hyn, mae'r plant wedi llwyddo i godi tua £5,000.
Cafodd y seremoni ei hagor gan brifathro'r ysgol, Mr. Alun Jones, oedd yn bennaeth ar Ysgol Gynradd Felindre cyn dechrau ar y swydd hon. Fe gododd pawb ar eu traed ar ddechrau'r seremoni, yn groes i'r traddodiad, i gyd-ganu'r anthem. Roedd adlais i'w chlywed yn adlamu o gadair i gadair.
Cafodd cyfeillion yr ysgol a'r gwesteion arbennig eu hannerch gan Mr. Adrian Davies, cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, a oedd wedi sôn am y saith mlynedd o waith caled a wynebodd yr ysgol i gyrraedd y fan lle mae hi heddiw. Fe gyfeiriodd yr Arglwydd Faer Alun Lloyd ac arweinydd y Cyngor, Chris Holley at holl waith caled y staff a'r disgyblion ym mlynyddoedd cynnar yr ysgol.
Cafodd yr ysgol ei hagor yn swyddogol am 2.30yh, ac fe gyfeiriodd y Prif Weinidog at y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn Abertawe. Mae Ysgol Llwynderw yn un o'r ysgolion cyntaf i dreialu'r Cyfnod Sylfaen, lle mae addysg yn cael ei theilwra yn ôl oedran y plant mewn ffordd ddeinamig, gan ganolbwyntio'n fanylach ar bynciau penodol, yn barod ar gyfer y symudiad i addysg uwchradd. Wrth sefyll ar fuarth yr ysgol, fe ddywedodd y byddai'n bleser cael gweld y tu mewn i'r ysgol am y tro cyntaf.
Cafodd y gynulleidfa ei diddanu gan gôr yr ysgol, wrth iddyn nhw ganu "Boed i ti", y gân sy'n cynnwys arwyddair yr ysgol, "Boed i ti dyfu'n gyfiawn, boed i ti dyfu'n driw". Mae'n sicr y bydd yr arwyddair hwnnw'n datblygu ymhellach wrth i ethos yr ysgol gryfhau ar hyd y blynyddoedd. Fe ganodd y côr gân arall am yr ysgol, gan ddefnyddio alaw "Any Dream Will Do", gan amlygu'r ffaith fod y freuddwyd o gael adeilad newydd wedi dod yn wir o'r diwedd. Yn y flwyddyn pan gafodd Twm Morys ei benodi'n Fardd Plant Cymru, roedd hi'n briodol i'r côr ganu 'Gerfydd Fy Nwylo Gwyn', a gafodd ei chyfansoddi ganddo ar gyfer plant Affrica a UNICEF. Roedd yna ias pan ganodd y plant "Mae Ddoe Wedi Mynd". Yn wir, mae ddoe yr ysgol hon wedi mynd, ac fe allan nhw edrych ymlaen at ddyfodol disglair. Roedd y mwynhad i'w deimlo wrth iddyn nhw ganu cân arbennig yr ysgol, "Cân Llwynderw", ac mae'n sicr y bydd y gân honno'n tyfu'n rhan o draddodiad yr ysgol.
Ar ddiwedd y seremoni ffurfiol, fe gafodd y gwahoddedigion gyfle i fynd ar daith o amgylch yr ysgol. Un o'r rhyfeddodau sy'n sefyll allan yw'r ffenest lliw ar flaen yr adeilad, gafodd ei dylunio gan yr artist Catrin Jones, a gafodd ei chomisiynu i gwblhau'r gwaith. Mae'r ffenest yn adlewyrchu lleoliad yr ysgol ar lan y môr. Yn wir, gellir gweld y môr o fannau uchaf yr adeilad.
Dywedodd prifathro Ysgol Gynradd Llwynderw, Alun Jones: "Agoron ni yn un o hen stafelloedd bwyta Ysgol Esgob Gore saith mlynedd yn ôl, ac aethon ni mlaen o fan'na.
"Dechreuon nhw adeiladu yma ddwy flynedd yn ôl, ac ry'n ni'n dod yn fwy o ran o'r gymuned erbyn hyn."
"Mae twf addysg Gymraeg yn Abertawe yn amlwg, ac mae'n bwysig bod addysg o'r safon ucha'n cael ei chynnig yma. Mae eisiau i ni edrych ar fap o Abertawe a gweld ble mae'r galw mwyaf."
Un o'r rheini sydd wedi bod yn flaenllaw ym mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn Abertawe yw Heini Gruffudd. "Ar ôl ugain mlynedd o ymgyrchu, mae'n hollol wych gweld ysgol Gymraeg gyda'r gorau yng Nghymru wedi ei sefydlu mewn ardal na fydden ni byth wedi dychmygu y byddai hi."
"Cafwyd addewid y byddai'r hen Gyngor Sir yn dod o hyd i safle, a gyda'r Cyngor newydd hwn nawr, dyma ni saith mlynedd yn ddiweddarach yn cael cartref newydd. Mae'n dipyn o chwyldro â dweud y gwir ein bod ni'n cael y safle yma. Mae gweld sefydlu'r ysgol hon yn dipyn o freuddwyd."
Pob dymuniad da i'r ysgol ar ei newydd wedd, a gobeithio y bydd hi'n parhau i fynd o nerth i nerth.