Mae Gwyl Ffilm Bae Abertawe yn dechrau ar Fai 31, a thros gyfnod o wythnos, fe fydd mwy na 200 o ffilmiau'n cael eu dangos yn y ddinas yn rhad ac am ddim.
Yn goron ar wythnos o ddathlu, fe fydd noson wobrwyo'r 'Tinny' - fersiwn arbennig iawn Abertawe o wobrau'r Oscars - yn digwydd ar Fehefin 6.
Fe fydd y sgriptiwr a'r cyfarwyddwr, Jonathan (JF) Lawton, sy'n adnabyddus am ysgrifennu sgript 'Pretty Woman', yn cynnal gweithdai ffilm fel rhan o'r wyl.
Cyn i'r wyl ddechrau, fe siaradodd JF Lawton â Lleol i Mi am ei yrfa a'i obeithion ar gyfer dyfodol y diwydiant ffilm:
Oeddech chi'n teimlo y byddech chi'n mentro i fyd y ffilm o'r cychwyn?
Pan o'n i'n blentyn, ro'n i'n diodde'n wael o ddyslecsia, ac ro'dd dysgu darllen yn anodd iawn. Ond mewn ffordd, ro'dd her y peth yn gwneud i fi werthfawrogi'r gair ysgrifenedig yn fwy fyth. Ro'dd llyfrau'n ymddangos yn ddirgel ac yn bwerus i fi. Ro'dd rhaid i fi weithio ddwywaith mor galed i oresgyn yr anabledd dysgu.
Beth ysbrydolodd chi i fentro i'r diwydiant?
Ro'dd 'nhad yn awdur a chafodd ei nofel gynta', "Willie Boy: A Desert Manhunt" ei throi'n ffilm "Tell Them Willie Boy Is Here", o'dd yn cynnwys Robert Redford pan o'n i'n 8 oed. Ces i'r cyfle i ymweld â'r set, ac o fan'na 'mlaen, ro'dd hi'n ymddangos fel y peth gorau fyddai dod yn grewr ffilmiau. Dechreuais i ysgrifennu dramâu a straeon byrion cyn ro'n i'n gallu darllen yn dda iawn.
Sut cawsoch chi eich cyfle mawr?
Cafodd un o'm sgriptiau, "Three Thousand" ei derbyn gan Athrofa Sundance ar gyfer labordy awduron sgrîn. Aeth ymlaen i fod yn ffilm - "Pretty Woman", ar ôl i Touchstone Pictures brynu'r hawliau.
Rydych chi wedi ysgrifennu ac wedi cyfarwyddo ffilmiau. Pa un o'r ddwy swydd ydych chi'n ei hoffi fwyaf, a pham?
Rwy'n dwlu ar y ddwy. Maen nhw'n tynnu ar ochrau gwahanol iawn i'r ymennydd. Breuddwydio yw ysgrifennu. Cyfarwyddo yw gwneud y gwaith mawr.
Ysgrifennoch chi'r ddrama sgrîn ar gyfer "Pretty Woman". Fel cyfarwyddwr, sut deimlad oedd hi i weld y ffilm y gwnaethoch chi ei hysgrifennu yn cael ei chyfarwyddo gan rywun arall?
Gwnaeth Garry Marshall jobyn gwych ar "Pretty Woman". Ar y pryd, do'n i ddim wedi cyfarwyddo ryw lawer, ac felly ro'dd gweld sut ro'dd e'n gweithio yn brofiad addysgol arbennig iawn i fi.
Rydych chi wedi gweithio â nifer o actorion blaenllaw iawn. Pwy yw eich ffefryn a pham?
Rwy wedi bod yn ffodus iawn i weithio â llawer o actorion gwych. Byddai'n amhosib enwi unigolyn.
Allwch chi roi syniad am y prosesau sydd ynghlwm wrth ysgrifennu sgript ffilm o'r dechrau i'r diwedd?
Rwy'n meddwl am syniadau ar gyfer sgriptiau o hyd ac o hyd. Mae'r byd yn llawn pobl a sefyllfaoedd diddorol. Ddwsinau o weithiau bob dydd, yn llythrennol, fe fydda i'n meddwl am straeon. Ond mae rhai syniadau'n dod nôl dro ar ôl tro, ac yn y pen draw, fe fydd un neu ddau yn mynnu mwy a mwy o'm sylw.
Hefyd, mae ymchwil yn bwysig. Hyd yn oed os ydych chi'n ysgrifennu comedi neu stori ffug-wyddonol, mae'n anhygoel beth allwch chi ei gael allan o ymchwil.
Ar ôl hynny, mae'r gwaith caled o eistedd ac ysgrifennu. Rwy'n anaml iawn yn ysgrifennu triniaeth neu amlinelliad y dyddiau yma. Mae'n well gen i ganolbwyntio ar bob tudalen a gadael i'r stori esblygu. Ond unwaith rwy ar ben, rwy'n olygydd eitha llym. Bydda i'n mynd dros sgriptiau ddwsinau o weithiau i'w sgleinio.
Sut ydych chi'n teimlo pan rydych chi'n gweld un o'ch ffilmiau ar y sgrîn fawr?
Yn gyflawn. Mae tipyn mwy o waith wrth wneud ffilm nag y mae rhywun yn ei sylweddoli.
Beth yw uchafbwynt eich gyrfa hyd yn hyn?
Rwy'n gobeithio nad yw'r uchafbwynt wedi dod eto. Hoffwn i wneud tipyn mwy o ffilmiau eto.
Rydych chi ynghlwm wrth Wyl Ffilm Bae Abertawe yr haf hwn. Pa mor bwysig yw'r fath ddigwyddiadau i ddod o hyd i sêr y dyfodol?
Maen nhw'n bwysig iawn. Yn enwedig nawr gyda'r chwyldro digidol, mae ffilmiau gwych yn cael eu creu gan bobl ifanc o'r llefydd a'r sefyllfaoedd mwya' annisgwyl. Rwy o hyd yn cael fy mhlesio gyda'r holl dalent rwy'n gweld yn y gwyliau ffilm hyn. Mae'n gyfle gwych iddyn nhw ddod o hyd i gynulleidfa a chael eu darganfod.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i bobl ifanc sy'n ceisio dod yn (a) awduron sgriptiau a (b) cyfarwyddwyr ffilm?
Yn amlwg, mae'n beth da i astudio eich crefft, boed yn ysgrifennu neu gyfarwyddo. Ond mae'n dda hefyd i ddysgu am grefftiau eraill sy'n bwysig wrth wneud ffilm dda. Felly, rwy bob amser yn annog awduron a chyfarwyddwyr i ddysgu cymaint â phosib am waith camera, golygu ac actio. Y peth pwysicaf yw gweithio'n galed a charu'r hyn rydych chi'n ei wneud.