Tra roedd Lloegr yn cystadlu yn erbyn Awstralia ar ail fore'r prawf cyntaf yng nghyfres y Lludw yng Nghaerdydd, roedd un o fawrion clwb criced Morgannwg yn cael ei anrhydeddu yn Abertawe gan y Brifysgol Fetropolitan. Derbyniodd Don Shepherd, sy'n hannu o Bort Einon ar Benrhyn Gwyr, gymrodoriaeth anrhydeddus yn Neuadd Brangwyn fore Iau, Gorffennaf 9fed.
Mae Don yn cael ei ystyried yn un o'r cricedwyr gorau na chafodd gyfle i gynrychioli Lloegr ar y llwyfan rhyngwladol, mewn gyrfa a oedd wedi para 23 o dymhorau. Cipiodd 2,218 o wicedi ar gyfartaledd o 22.32, sy'n fwy nag unrhyw chwaraewr arall sydd heb gael ei ddewis dros ei wlad.
Fe ddechreuodd ei yrfa ym 1950 fel bowliwr bras-gyflym yn erbyn Surrey ar gae'r Oval. Fel bowliwr bras-gyflym, doedd e ddim wedi profi llawer o lwyddiant ar lain San Helen, felly penderfynodd ddod yn droellwr bum mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei dymor mwyaf llwyddiannus ym 1956, gan gipio 177 o wicedi. Hwn oedd un o'r 12 o droeon pan gipiodd Don fwy na 100 wiced mewn tymor.
Roedd Don yn un o'r chwaraewyr amlycaf yn yr ornest yn erbyn Awstralia ar gae San Helen ym 1964. Cipiodd bedair wiced am 22 o rediadau mewn 17 o belawdau yn y batiad cyntaf, a phum wiced am 71 mewn 52 o belawdau yn yr ail fatiad. Roedd yn gapten ar Forgannwg yn erbyn Awstralia ym 1968, pan enillodd y sir ar gae San Helen unwaith eto.
Daeth uchafbwynt ei yrfa ym 1969, pan chwaraeodd ran blaenllaw ym muddugoliaeth Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd. Cafodd ei anrhydeddu â gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Wisden ym 1970.
Ond fe allai gyrfa Don Shepherd fod wedi bod yn gwbl wahanol. Cyn ymuno â Morgannwg, fe gafodd gynnig gan Sir Gaerwrangon i chwarae yn eu tîm cyntaf tra roedd e'n gwasanaethu yn y Llu Awyr yn Defford. Ond fe ddaeth galwad gan Forgannwg, a phenderfynodd chwarae dros sir ei febyd.
Dysgodd Don ei grefft fel cricedwr yn Ysgol Ramadeg Tregwyr, ond roedd e hefyd yn bêl-droediwr addawol. Cafodd brawf gyda chlwb Leeds United tra roedd e yn yr ysgol, ond criced oedd ei ddileit erioed.
Yn gynharach eleni, cafodd Don Shepherd ei ddewis gan arbenigwyr ar ran cylchgrawn Wisden Cricketer fel un o aelodau tîm sêr y siroedd (chwaraewyr sydd heb chwarae dros Loegr) yn Lloegr ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Don oedd yr unig enw i ymddangos ar restr pob un o'r beirniaid.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Yr Athro David Warner, "Er mor odidog yw cyflawniadau Don Shepherd fel cricedwr, rydyn ni'n ei anrhydeddu am dipyn yn fwy na gallu aruthrol yn ei ddewis faes, sydd wedi cael ei gydnabod eisoes drwy ei ethol i Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru a'i benodi'n aelod anrhydeddus o glwb criced MCC. Mae ei agwedd benderfynol, dehongliadol, craff ac onest i griced yn galluogi cefnogwyr criced i edrych yn ôl ar gyflawniadau eithriadol mewn modd agored a bonheddig. Aeth Don Shepherd â'r rhinweddau hyn gydag e yn ei ymddeoliad, boed hynny ym myd busnes, fel ynad neu fel sylwebydd radio a'r wasg. Bu'n fodel nid yn unig ym myd chwaraeon, ond yn ehangach o lawer na hynny."
Wrth annerch y gynulleidfa yn Neuadd Brangwyn, dywedodd Don Shepherd, "Roedd y rhan fwyaf o'm llwyddiant wrth fowlio, ond ro'n i'n mwynhau batio. Ond â dweud y lleiaf, ro'n i'n ddifater iawn wrth fatio. Ffoniodd fy ngwraig Joan San Helen un diwrnod, ac fe atebodd rywun a dweud, 'Mae'n ddrwg gen i, mae Don newydd fynd allan i fatio. Ond taswn i'n chi, fe fyddwn i'n aros - fydd e ddim yn hir iawn!'."
"Do'n i byth wedi meddwl y byddwn i'n gweld y dydd pan fyddwn i yma o'ch blaen chi, bobl dda. Rwy wedi eistedd allan yn fan'na ac wedi gweld yr holl artistiaid gwych yn dod i Neuadd Brangwyn, ond mae hwn yn achlysur arbennig iawn. Rhaid cyfadde' 'mod i'n teimlo'n freintiedig dros ben, a do'n i byth yn meddwl y gallai unrhyw beth fel hyn ddigwydd i fi."