hithau'n dathlu ei phenblwydd yn 90 oed eleni, mae Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe wedi bod yn ôl ar lwyfan unwaith eto, gyda pherfformiad o gomedi Huw Roberts, 'Hywel A'.
Mae'r ddrama'n cael ei llwyfannu yn Theatr Dylan Thomas ger y Glannau dros dair noson, ac mae'n ymddangos fel pe bai gŵyl flynyddol y gymdeithas wedi bod yn llwyddiannus unwaith eto eleni.
Mae gan y gymdeithas gartref newydd yn y theatr, ar ôl sawl blwyddyn yng Nghanolfan y Celfyddydau'r Taliesin ar gampws y Brifysgol. Serch hynny, neu efallai oherwydd hynny, mae'r cynulleidfaoedd yn parhau i heidio i weld y gymdeithas yn perfformio'r ddrama a lwyfannwyd gan y gymdeithas am y tro cyntaf ym 1984.
Mae'r gymdeithas erbyn hyn yn mentro allan i'r gymuned gyda'u cynyrchiadau, a thros y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd perfformiadau ym Mhontardawe, Rhydaman, Penrhiwllan, Felindre, Porthyrhyd a Sgeti.
Mae'r un wynebau'n dal i'w gweld ymhlith yr actorion - wynebau cyfarwydd fel Siwsan Thomas ac Eifion Price, sydd hefyd yn adnabyddus fel aelod o'r band gwerin Jac y Do. Ond at y wynebau arferol, gellir ychwanegu dau wyneb newydd, ffres sef Jenna Louise James a James Davies. Yn eu perfformiad cyntaf, gellir maddau iddynt am ambell foment o ansicrwydd yn ystod y perfformiad, oedd braidd yn sigledig ar adegau. Ond dan adain rhai o'r actorion mwyaf profiadol, does dim dwywaith y gallen nhw ddatblygu'n aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas yn y dyfodol.
Oherwydd natur y ddrama hon, ac absenoldeb Hywel A am ran fwyaf y stori, cafodd doniau actio Eifion Price eu cuddio rhywfaint. Mae'r actor hwn ar ei orau'n chwarae cymeriadau blaenllaw a bywiog, a chollwyd cyfle i ddefnyddio'r rhinweddau hyn yn llawn.
Serch hynny, fe weithiodd y berthynas rhwng Blodwen, gwraig Hywel A, a Syr John Prydderch (Dennis Morgan) i'r dim. Roedd tyndra cyson rhwng y ddau gymeriad hyn oherwydd dymuniad Syr John, sy'n fiolegydd, i ddefnyddio organau gŵr Blodwen at bwrpas ymchwil meddygol. Mae'r drwgdybiaeth rhwng y cymeriadau hyn yn cynnal llinyn storïol dref drwy gydol y ddrama.
Daw'r comedi mwyaf gan gymeriad Harri (Rhidian Rees), sy'n hypnotydd anifeiliaid, ond sy'n llwyddo i hypnoteiddio'i hun ar gam. Unwaith eto, dyma linyn storïol gref oedd wedi cynnal diddordeb y gynulleidfa hyd y diwedd. Mae'r elfen gomedi hon yn esgor ar berthynas ddoniol rhwng Harri a Men, merch Hywel a Blodwen, sy'n ceisio gwyrdroi effeithiau'r hyptnotedd. Ymhelaethir ar y berthynas hon wrth i Harri droi'n 'Harriet' drwy gamgymeriad anffodus, a Men yn gofalu amdano/i fel 'ffrind mynwesol'.
Mae'r cyfan oll yn digwydd yn ystafell dderbyn 'Plas Helyg'. Dydy'r gynulleidfa ddim wir yn cael gwybod beth yn union yw 'Plas Helyg', ond mae presenoldeb Syr John yn ein darbwyllo o grandrwydd y plas.
Wrth i Hywel A ddioddef yn ei wely, croesawir Nyrs Marged i'r plas i ofalu amdano, a chafwyd perfformiad cadarn gan Joy Parry. A hynny o bosib am ei bod hi ei hun yn nyrs gymunedol o ran ei galwedigaeth. Gwendid y cymeriad hwn, fodd bynnag, yw bod Marged yn 30 oed, meddai hi, ond mae'r actores ei hun yn ymddangos yn hŷn, mewn gwirionedd.
Braf oedd gweld Mark Gower yn ôl ar y llwyfan, yn chwarae rhan ddoniol, fel arfer. Mae'n chwarae rhan Ditectif-Arolygydd gyda'r Heddlu, ac yn argyhoeddi'r gynulleidfa o'i ddawn action o'r llinell gyntaf.
Wedi eu gweu drwy'r doniolwch, trafodwyd pynciau dwys, megis cariad, chwant, marwolaeth, bioleg ac etifeddiaeth. Ond roedd y cyfuniad o actorion a chymeriadau'n sicrhau nad oedd y pynciau hyn yn drech na'r llinyn storïol, a'u bod yn cynnal diddordeb y gynulleidfa.
Roedd cymeriad Alec (James Davies) yn cynnig rhyddhad o'r brif stori ar adegau, ond fe lwyddwyd i'w dynnu'n gelfydd i'r stori ganolog yn y pen draw, a hynny bron yn ddiymdrech.
Mae agosatrwydd y cymeriadau â'i gilydd yn cynnig y cyfle iddynt ddrwgdybio'u gilydd, ac mae'r cyfan yn troi'n ffars lle mae cyhuddiadau a bygythiadau'n hedfan i bob cyfeiriad.
Mae cerddoriaeth Dafydd Iwan yn gefndir i'r cyfan, gyda'r trac 'Mae 'Na Le' yn ddyfais gyson drwy'r ddrama cyn y trobwynt ar y diwedd.
I selogion y gymdeithas, byddai hi wedi bod yn brofiad rhyfedd heb y wyneb mwyaf cyfarwydd, sef Caradog Evans. Pe bai hwnnw'n dal i actio yng nghynyrchiadau'r gymdeithas, mae'n siŵr y byddai wedi bod wrth ei fodd yn chwarae cymeriad Syr John, fyddai'n gweddu'n berffaith i'w glyfrwch actio a'i ffraethineb.
90 o flynyddoedd ar ôl ei sefydlu, mae'n siŵr y bydd cryn baratoi at gyrraedd y garreg filltir nesaf ymhen deng mlynedd. Meddai Caradog Evans, Llywydd y Gymdeithas, yn ei ragair i'r rhaglen:
"Eleni, mae'r gymdeithas yn dathlu'i phenblwydd yn 90 oed - a'i chanmlwyddiant, felly, heb fod ymhell ar y gorwel. Er mwyn i ni allu edrych yn hyderus tuag at y garreg filltir honno, ga' i wneud apêl ar i bawb sydd â diddordeb yn y ddrama Gymraeg yn yr ardal hon feddwl am gyfrannu'n ymarferol tuag at weithgareddau'r Gymdeithas. Nid dim ond actorion, ond pobol i gynorthwyo y tu ôl i'r llwyfan, neu gyda'r gweinyddu a'r marchnata. Mae angen gwaed newydd - a mae e'n lot o hwyl, credwch chi fi".
Cawn edrych ymlaen, felly, at dipyn o ddathliad adeg canmlwyddiant y gymdeithas.