BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Dinas Abertawe o'r awyrAbertawe'n dathlu'r 40
Gorffennaf 2009
Ar achlysur 40 mlynedd ers Arwisgo Tywysog Cymru a rhoi statws dinas i Abertawe, dyma olwg ar ei hanes a'i digwyddiadau

Fe fydd unrhyw un sy'n cofio 1969 yn gallu dwyn i gof nifer o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif.

Hon oedd y flwyddyn pan laniodd yr Americanwr Neil Armstrong ar y lleuad, wedi iddo deithio yn y llong ofod Apollo 11. Wedi'r cyfan, pwy all anghofio'r geiriau anfarwol, "One small step for man, one giant leap for mankind".

Daeth y geiriau hyn yn symbol fod unrhyw beth, pa mor fawr bynnag, yn bosib. Ychydig yn is yn yr awyr, fe gafodd yr awyren uwchsonig concorde gyntaf ei hedfan, yn arwydd pellach fod yr Unol Daleithiau'n dod yn un o brif bwerau'r byd ym maes technoleg.

Yn rhannau eraill o'r byd, gwleidyddiaeth oedd ar frig yr agenda, a'r brwydro rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsiecoslofacia yn arwain at hunanladdiad y myfyriwr Jan Palach, oedd yn un o'r protestwyr mwyaf blaenllaw yn erbyn yr Undeb Sofietaidd am iddi feddiannu gwlad ei febyd.Fe ddaeth Palach yn symbol o'r brwydro parhaol, yn ferthyr dros yr achos.

Yn nes at adref, roedd merthyron gwleidyddol o fath gwahanol wedi dod i'r amlwg, diolch i ddathliadau ledled Cymru ar achlysur urddo'r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru.

Cynhaliwyd seremoni fawreddog yng Nghastell Caernarfon, gyda llygaid y byd yn gwylio. Nid yn unig roedd 4,000 o westeion y tu mewn i furiau'r castell, ond roedd miloedd yn rhagor ar y strydoedd. Ar ben hynny, roedd 500,000,000 yn gwylio ac yn gwrando ledled y byd o'u cartrefi.

Gellid honni bod cymaint â hynny o gynulleidfa i'r digwyddiad yn y dref yn golygu bod cryn dipyn o gefnogaeth i'r Arwisgiad, ond doedd hynny'n sicr ddim yn wir.

Roedd carfan helaeth o'r gynulleidfa yno i ddangos eu dicter bod Charles Windsor, Saes a mab i Frenhines Prydain Fawr yn cael ei benodi'n Dywysog Cymru, i safle sydd yn hanesyddol wedi bod yn un y Cymry cynhennid.

Roedd y Tywysog yn gobeithio y byddai ei benodiad yn uno'r genedl, ac y byddai gan Gymru dywysog y gallai Cymru ymfalchïo ynddo. Dywedodd y Tywysog ei hun yn ei araith yng Nghaernarfon, "Yn wir, rwy'n bwriadu cysylltu fy hun o ddifrif mewn gair a gweithred â chymaint o fywyd y Dywysogaeth - a'r fath dywysogaeth ydy hi - ag a fydd yn bosibl."

Dau o'r bobl nad oedd Tywysog Cymru wedi llwyddo i gysylltu â nhw oedd aelodau Byddin Ryddid Cymru, William Alwyn Jones a George Francis.

Ar Fehefin 30, cafodd bom ei osod ar gledrau yr oedd y trên brenhinol i fod i deithio arnynt Cafodd Jones a Francis eu lladd, a chawsant eu gweld wedi hynny yn ferthyron dros yr achos.

Un o'r rheini oedd yn barod iawn i leisio anniddigrwydd y bobl oedd y canwr poblogaidd, Dafydd Iwan.

Fe ddaeth ei ganeuon protest yn erbyn yr Arwisgiad yn symbol o wrthwynebiad y genedl i'r achlysur. Ym mlwyddyn yr Arwisgiad, sefydlwyd cwmni recordio SAIN gan Dafydd Iwan a Huw Jones, gyda nifer o draciau cenedlaetholgar yn dod i'r amlwg.

Cafodd 'Carlo', cân oedd yn cwestiynu ymroddiad Tywysog Cymru i'r diwylliant Cymreig, ei gwahardd am ei bod yn cael ei gweld fel sarhad ar y teulu brenhinol.

Roedd yn trafod y Tywysog yn darllen Saunders Lewis a Dafydd ap Gwilym "yn ei wely bob nos" a'i fod yn "aelod o'r FWA". Does rhyfedd felly, yn y fath hinsawdd gwleidyddol ac yng nghanol bri yr Arwisgiad, nad oedd agwedd o'r fath yn cael ei chroesawu gan yr awdurdodau.

Roedd agwedd Byddin Ryddid Cymru tuag at yr Arwisgiad ar ei orau'n ffyrnig.

Ar ddiwrnod yr Arwisgiad, cafodd chwech aelod eu canfod yn euog yn Abertawe o droseddau arfau tân ac o amharu ar y drefn gyhoeddus. Cafwyd tri arall yn ddieuog o'r un cyhuddiadau.

Fe ddaeth yr achos yn un o'r hwyaf yn hanes system gyfreithiol Cymru, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan Trevor Fishlock fel "elaborative and expensive way of dealing with toy soldiers".

Carcharwyd Dennis Coslett a Julian Cayo Evans am bymtheg mis yr un, a chafodd Keith Griffiths naw mis o garchar.

O'i gell yn y carchar, ynganodd Coslett y geiriau enwog, "Nid anghofiaf byth mo Gymru yn fy nghell unig".

Daeth hi i'r amlwg yn dilyn yr achos llys fod y barnwr Ustus Thompson wedi bod yn hael i'r rai diffynyddion oherwydd eu bod yn "lovers of Wales, and for this reason I can and should deal with you more leniently than I otherwise would".

Dyma lygedyn o obaith, felly, fod agweddau tuag at genedlaetholdeb a Chymreictod yn dechrau newid yng nghanol bwrlwm o Brydeindod.

Er gwaethaf ymdrechion Jones a Francis a'u tebyg i ddod â therfyn i'r dathliadau, fe aeth y Tywysog newydd ymlaen o Gaernarfon ar daith drwy Gymru. Yn ystod taith o bedwar diwrnod, derbyniodd Abertawe gymeradwyaeth Tywysog Cymru i gael ei hystyried ar gyfer statws dinas.

Ar Orffennaf 3, ddeuddydd ar ôl yr Arwisgiad, cyflwynwyd cymeradwyaeth y Tywysog yn ffurfiol, ac fe ddaeth Abertawe'n ddinas erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Erys dau gwestiwn. Yn gyntaf, sut y daeth Abertawe'n ddinas yn swyddogol? Ac yn ail, pam fod derbyn statws dinas yn ddatblygiad mor arwyddocaol i Abertawe?

Er mwyn ateb y cyntaf o'r cwestiynau hyn, rhaid edrych ar wleidyddiaeth y cynghorau lleol. Mewn gwirionedd, mae cynghorau lleol yn atebol i'r Goron.

Y Goron sy'n penderfynu ar statws trefi a dinasoedd gyda chymeradwyaeth a chyngor gan lywodraeth Prydain ar y pryd.

Mae'r ail gwestiwn yn symlach fyth i'w ateb.

Ychydig iawn o fanteision swyddogol sydd i drefi o dderbyn statws dinas, ond un peth sy'n sicr, sef bod tipyn o urddas yn perthyn i'r statws hwnnw.

Yn yr hen draddodiad o benodi dinasoedd, roedd y teitl yn cael ei roi i drefi o fewn plwyfi Anglicanaidd, hynny yw, trefi ag eglwys gadeiriol ynddynt.

Fe ddiddymwyd y traddodiad hwnnw yn Oes Fictoria, a bellach, dosbarthwyd yr anrhydedd yn ôl poblogaeth a chryfder traddodiadau'r dref.

Roedd Caerdydd eisoes wedi dod yn ddinas gyntaf Cymru ym 1905. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penderfynwyd y byddai'n rhaid bod gan unrhyw dref arall boblogaeth o 300,000 cyn cael gwneud cais am statws dinas

Am y rheswm hwn y gwrthodwyd cais cyntaf Abertawe ym 1918. Bu'n rhaid rhoi'r cynllun o'r neilltu am y tro, hyd nes i esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu gael ei ffurfio yn y 1920au.

Serch hynny, roedd gan Abertawe broblem o hyd, gan nad oedd eglwys gadeiriol o fewn muriau'r ddinas. Heb eglwys gadeiriol, roedd hi'n amhosibl i Abertawe barhau â'r cais i ddod yn ddinas.

Erbyn y 1960au, roedd dau Faer Abertawe'n dadlau'n frwd unwaith eto dros roi statws dinas i Abertawe ar sail oedran, hanes a diwylliant y dref. Yn y pen draw, roedd amseru'r Arwisgiad ym 1969 yn gyfleus i Abertawe, ac fe benderfynwyd y byddai statws dinas yn cael ei roi i'r dref ar ymweliad cyntaf Tywysog Cymru.

Dychwelodd y Tywysog ar Ragfyr 15, 1969 i gyflwyno'r siarter yn swyddogol i'r Arglwydd Faer yn Neuadd Brangwyn. Roedd yr achlysur yn un mawreddog yn y ddinas, ac roedd gwahoddedigion yn bresennol, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartref James Callaghan, yr Ysgrifennydd Gwladol George Thomas, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe Alan Williams, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe Neil McBride a'r Maer David Franklyn Bevan.

O gofio'r angen am 300,000 o boblogaeth cyn derbyn statws dinas, rhaid nodi yma fod gan Abertawe 225,000 o drigolion yn unig hyd heddiw.

Yng nghanol helynt yr Arwisgiad a derbyn statws dinas, roedd tîm rygbi Abertawe wedi croesawu De Affrica i San Helen. Roedd cyfnod apartheid ar drothwy'r drws, a phrotestwyr yn ymgasglu yn y cae i fynegi eu dicter tuag at bolisi hil llywodraeth gwlad yr ymwelwyr. Cafodd 67 o bobl eu harestio wrth i'r dorf ymladd yn erbyn yr heddlu, ac anafwyd mwy na 200 o bobl. Cafodd yr ornest ei disgrifio am flynyddoedd wedyn fel 'Maes Brwydr San Helen'. Dechreuodd yr heddlu anesmwytho'n gynnar yn yr ail hanner, wrth i garfan o gefnogwyr fentro i'r cae ac eistedd ar y llinell hanner yng nghanol y gêm. Yn sgil y protestiadau, cafodd 236 o gwynion eu cyflwyno yn erbyn yr heddlu, ac fe ddaeth i'r amlwg fod problem fyd-eang yn dechrau ymddangos. Yn sicr, cafodd helynt yr Arwisgiad ei osod yn ei gyd-destun pan welwyd trais o fath nas gwelwyd erioed o'r blaen yn Abertawe. Mor fuan y trodd dathliadau'n ddicter a thrais.

Mor wahanol oedd y golygfeydd ar y cae hanesyddol y diwrnod hwnnw i'r rheini a gafwyd pan oedd clwb criced Morgannwg ar fin cipio tlws Pencampwriaeth y Siroedd ddiwedd Awst 1969. Essex oedd yr ymwelwyr ar gyfer yr ornest olaf ond un yn y twrnament, a Morgannwg bron yn sicr y byddai buddugoliaeth yn golygu eu bod nhw'n bencampwyr. Fe ddaeth y fuddugoliaeth honno ar gae San Helen yn erbyn y Llundeinwyr, ac fe gipiwyd y bencampwriaeth yng Nghaerdydd wythnos yn ddiweddarach yn erbyn Swydd Caerwrangon, diolch yn bennaf i fowlio celfydd Tony Cordle a'r troellwr o Abertawe, Don Shepherd. Fe gipiodd y ddau 9 wiced rhyngddynt, wrth i Gaerwrangon fethu â chyrraedd eu nod o 256. Unwaith eto, fe chwaraeodd San Helen ran blaenllaw yn hanes chwaraeon yng Nghymru, gan osod Cymru yn y goleuni ar raddfa Brydeinig unwaith yn rhagor.

Felly, blwyddyn chwerwfelys oedd 1969 i Abertawe. Roedd pwnc yr Arwisgiad wedi hollti Cymru ac Abertawe, a theimladau cymysg yn gwbl amlwg ar nifer o ffurfiau drwy gydol y flwyddyn. Ond mae un peth yn sicr. Heb yr Arwisgiad, Clwb Pêl Droed Tref Abertawe, ac nid Dinas Abertawe, fyddai'n esgyn drwy adrannau'r Gynghrair Bêl Droed ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, Martinez neu beidio.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Beth ydych chi'n cofio am Abertawe ym 1969?
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Bws BBC Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy