BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Fflur Dafydd a'r barfAdolygiad o ŵyl Tyrfe Tawe 2007
Adolygiad o ŵyl Tyrfe Tawe, Hydref 9 - 13, 2007 mewn lleoliadau ar hyd a lled Abertawe.
Y bandiau / perfformwyr
Nos Fawrth - Brigyn a Supergene
Bore Mercher - Heather Jones
Nos Iau - Noel James, Richard Bowen, Myfanwy Alexander, Dewi Fflint, Phil Evans
Nos Wener - Derwyddon Dr. Gonzo, Amledd, Gareth Phillips br> Nos Sadwrn, Genod Droog, Derwyddon Dr. Gonzo, Fflur Dafydd a'r Barf, Mr. Huw, Lowri Evans, Tara Bethan

Enw'r Adolygydd
Alun Rhys Chivers

Awyrgylch a pherfformiadau
Nos Fawrth - Roedd hi wir yn 'Nos Fawrth yn Abertawe' a doedd dim lle gwell i fod na Cafe Mambo. Gyda'r lle'n llawn yn gynnar iawn yn y noson, roedd pawb yn edrych ymlaen at noson agoriadol y pedwerydd Tyrfe Tawe. Roedd y goleuadau'n isel a'r llwyfan yn fach yng nghornel yr ystafell. Dyma awyrgylch oedd yn berffaith ar gyfer noson oedd i fod yn acwstig ei naws. Cafwyd gwared ar y naws acwstig wrth i Supergene ddod i'r llwyfan gyda'u gitârs trydan a'u drymiau i godi'r to. Roedd angerdd a brwdfrydedd yn eu perfformiad, a welwyd orau trwy eu caneuon 'Rhosneigr' a 'Jackie Jones'.

Roedd y lleoliad yn gweddu'n berffaith i'r sŵn gitârs ac organ a gafwyd gan Brigyn. Dyma ail ymweliad ag Abertawe ar nos Fawrth i'r bois o'r Gogledd, wedi iddyn nhw gamu i'r bwlch (a adawyd gan Frizbee) yn 'Roc Tawe Rock' yn y brifysgol nos Fawrth Hydref 2, 2007. Unwaith eto, cafwyd perfformiad iasol o rai o'u caneuon gorau gan gynnwys 'Lleisiau yn y Gwynt' ac 'Angharad'.

Bore Mercher - Tŷ Tawe oedd y lleoliad ar gyfer sesiwn ychydig yn wahanol i'r arfer, wrth i Heather Jones ddod i roi sgwrs am ei gyrfa a chanu ambell un o'i chlasuron. Prin iawn gellir ei galw'n set, ond roedd hi'n ddiddorol cael clywed am straeon o'r tu ôl i'r llenni, fel petai. Sesiwn yn arbennig i ddysgwyr oedd hon. Gorffennodd hi'r cyfan drwy gyfareddu'r gynulleidfa gyda 'Colli Iaith'.

Nos Iau - Am y tro cyntaf yn hanes Tyrfe Tawe, cynhaliwyd noson gomedi, a honno yn Theatr y Grand yng nghanol y ddinas. Noel James oedd prif ddigrifwr y noson, ac fe gyflwynodd e rai o ddigrifwyr gorau'r ardal hon, yn ogystal â Dewi Fflint a Myfanwy Alexander o'r rhaglen 'The LL Files' ar Radio Wales, Richard Bowen a Phil Evans. Roedd Noel James, cyflwynydd y noson, wedi diddanu'r dorf wrth iddo ddynwared ambell berson enwog gan gynnwys Mike Doyle a Stephen Hawking. Phil Evans oedd y perfformiwr cyntaf, ac fe lwyddodd e i gynhesu pawb gan dargedu unigolion yn y gynulleidfa oherwydd lliw gwallt a blew ar eu hwynebau. Daeth Richard Bowen o Bontardawe i'r llwyfan am set o un jôc ar ôl y llall yn gyflym, a phawb yn eu dagrau o fewn eiliadau. Dewi Fflint oedd y mwyaf doniol o bawb o bell ffordd gyda'i hiwmor gogleddol a'i jôcs am dai haf. Uchafbwynt y noson oedd gweld Myfanwy Alexander yn perfformio'n fyw. Roedd hi'n debyg i fod mewn Noson Lawen i raddau, a chanddi hithau droli Tesco yn gwmni iddi ar y llwyfan. O bawb, ei hiwmor hi oedd agosaf at yr asgwrn gydag ambell jôc am fachu dynion. Dyma noson lwyddiannus a fydd, gobeithio, yn parhau yn ddigwyddiad ar galendr Tyrfe Tawe yn y dyfodol.

Nos Wener - Unwaith eto, daeth y Tyrfe i'r Adam & Eve am y nos Wener flynyddol. Doedd hi ddim yn byrlymu â llawer o bobl ar ddechrau'r noson, nid bod hynny'n beth drwg o ystyried y problemau technegol a gafwyd yn ystod set Gareth Phillips. Serch hynny, aeth y noson yn ei blaen yn wych wedi hynny heb fawr o drafferthion, a'r pwyllgor yn teimlo rhyddhad wedi'r panic. Roedd hi'n anodd clywed y canwr-cyfansoddwr o Gaerfyrddin o gefn yr ystafell ar adegau, a'r sŵn yn ymylu ar fod yn hollol naturiol a heb system sain. O edrych yn ôl mae'n bosib nad oedd y lleoliad yn addas ar ei gyfer e fel canwr acwstig. Byddai Cafe Mambo ar ddechrau'r ŵyl, o bosib, wedi rhoi'r cyfle iddo ddangos ei ddoniau'n llawn.

Wrth i'r dorf fynd i'w hwyliau, daeth Amledd i'r llwyfan a'r system sain erbyn hyn yn llawer gwell. Roedd y band gwerin-drydan yn berffaith ar gyfer tafarn fach draddodiadol yng nghanol y ddinas, ac yn eu taflu eu hunain i ganol y dorf. Roedd Billy Thompson yn rhyfeddol ar y ffidil, a phawb yn clapio i gyfeiliant y caneuon. Gyda'r noson werin yn un o'r digwyddiadau a roddwyd i'r neilltu eleni, dyma gyfle i blethu elfennau gwerinol i'r ŵyl beth bynnag.

Amledd, i fi, oedd un o brif fandiau'r wythnos. Gyda'r dorf cyn y set yn gwneud tipyn o sŵn wrth siarad, doedd dim llawer o ddewis ond gwrando ar y band hwn a dawnsio o amgylch yr ystafell. Derwyddon Dr. Gonzo oedd prif fand y noson, a gyda'r dorf yn wyllt erbyn hyn, fe barhaodd y teimlad o barti gyda set o ganeuon bywiog gan un o fandiau mwyaf ecsentrig y sin roc Gymraeg. Roedd hi'n rhyfedd gweld aelodau'r band yn gwisgo pob math o fygydau, gan gynnwys pen anifail a choron 'Burger King'. Dyma ddiweddglo gwych i noson o gerddoriaeth gymysg, a'r dorf yn ysu am ragor o fwynhad y diwrnod wedyn yn y Schooner.

Nos Sadwrn - Gyda chymaint o newidiadau munud olaf a orfodwyd ar y pwyllgor, roedd pawb yn gobeithio am y gorau yn y Schooner mewn ystafell gefn mewn tafarn a oedd yn ymddangos yn fach iawn o'r tu allan. Wrth fynd i mewn, fe ges i'r teimlad o fod mewn stiwdio recordio, gyda'r ystafell wedi ei rhannu'n ddwy - y llwyfan yn y blaen a'r bar yn y cefn. Ychwanegwyd Tara Bethan i'r lein-yp yn hwyr iawn, ond fe gafwyd tipyn o berfformiad ganddi. Ar ddechrau'r set, roedd pawb yng nghefn yr ystafell yn gwrando'n dawel heb fawr o awyrgylch. Roedd ei set yn llawn caneuon gwlad gan gynnwys un oedd yn sôn am Indiaid Cochion a'i hanes hi fel merch i reslwr (Orig) oedd yn teithio tipyn pan oedd hi'n blentyn. Roedd hi'n amlwg ar ddechrau'r gân nad oedd rhai pobl yn gyfarwydd â'r gân sy'n agor gyda dyfyniad o 'Gypsies, Tramps and Thieves'. Roedd rhai yn geg-agored wrth i'r llinell Saesneg atseinio o amgylch yr ystafell! Aeth y set yn ei blaen gan greu naws gyffrous ar gyfer gweddill y noson.

Cylch cyfan oedd hi i Lowri Evans yn noson olaf Tyrfe Tawe, wedi iddi berfformio yn lansiad yr ŵyl ychydig fisoedd yn ôl. Erbyn iddi ddechrau, roedd y bobl leol yn dechrau treiddio i mewn o'r ystafell flaen a phawb yn mwynhau'r hyn oedd ganddi i'w gynnig. Fel yr arfer, roedd ei llais unigryw wedi plesio'n fawr, yn enwedig ei chân 'Merch y Myny'. Mae Lowri Evans yn enw cyfarwydd yn Abertawe gan iddi berfformio'n rheolaidd o amgylch y ddinas, a gobeithio y bydd hi'n enw fydd yn gysylltiedig â'r ŵyl am flynyddoedd i ddod.

Dechreuodd y dawnsio wrth i Mr. Huw ddechrau ar ei set yntau. Y teimlad yn gyffredinol oedd ei fod e'n ychwanegu dimensiwn gwahanol i'r noson, ac roedd pawb wrth eu bodd gyda'i gyfuniad unigryw o gitâr a thraciau cefndir. Un peth anarferol oedd nad oedd y band yn eu siwtiau gofod fel sydd wedi dod yn beth mor nodweddiadol o'r band. Cafwyd clasur o set ganddo gan gynnwys y ffefryn 'Morgi Mawr Gwyn' a 'Gwyneb Dod' gyda Mared Lenny (Swci Boscawen).

Braf oedd cael croesawu Fflur Dafydd a'r Barf i Tyrfe Tawe unwaith eto eleni, cafwyd y cymysgedd arferol o'i hen ganeuon ac ychydig o ddeunydd newydd. Roedd hi'n boblogaidd gyda'r dorf, a gan fod y lle'n llawn, roedd hi'n anodd cyrraedd y fan orau yn yr ystafell i'w chlywed hi'n iawn. Am yr ail noson yn olynol (gan fod Frizbee wedi tynnu allan), cafodd y dorf gyfle i fwynhau sŵn rhyfeddol Derwyddon Dr. Gonzo. Y farn yn gyffredinol oedd eu bod nhw hyd yn oed yn well yn y Schooner nag oedden nhw yn yr Adam & Eve. Roedd y lle'n fwrlwm o ddawnsio a chanu erbyn iddyn nhw gyrraedd y llwyfan, ac roedd y lleoliad yn wych ar eu cyfer nhw.

Genod Droog oedd gwir uchafbwynt y penwythnos ar sawl lefel. Roedden nhw wedi diddanu'r dorf gyda'u rap cadarn, ac erbyn diwedd y set, fe ddaeth Ed Holden i ganol y llawr a dawnsio gyda rhai pobl yn y dorf. Roedd awyrgylch parti yn y dafarn, a hyd yn oed rhai o'r bobl leol yn y dafarn yn ymuno yn yr hwyl. Fel dywedodd Ed Holden, roedd y tyrfe i'w deimlo yn yr ystafell!

Trac yr ŵyl
'Haleliwia' gan Brigyn (fersiwn Gymraeg o gân Leonard Cohen a ddefnyddiwyd yn y ffilm 'Shrek') - aeth ias i lawr fy nghefn drwy'r gân!

Uchafbwynt yr ŵyl
Y ffaith bod yr ŵyl wedi llwyddo i ddenu pobl o bob cefndir yn y ddinas at yr SRG.

Y peth gwaethaf am yr ŵyl
Y trafferthion sain a gafwyd ar nos Wener yn yr Adam & Eve - fe wnaeth hyn ddifetha set Gareth Phillips i mi, i raddau.

Achlysur Roc a Rôl
Gweld Ed Holden o Genod Droog yn perfformio set o ganeuon rap yn gwisgo coron Burger King oedd yn amlwg wedi ei ddwyn oddi ar Derwyddon Dr. Gonzo. Clasur!

Beth sy'n aros yn y cof?
Crynodeb Aled, canwr Supergene o Tyrfe Tawe - "Pobl Cymraeg, Pobl Saesneg, Cafe Mambo, Brigyn, ff*!@£& grêt!"

Talent gorau'r ŵyl
Amledd, ond Billy Thompson yn enwedig - athrylith!

Marciau allan o ddeg
9

Un gair am yr ŵyl
Trydanol!

Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Roedd cymysgedd gwych o sesiynau yn ystod yr wythnos yn arwain i fyny at yr uchafbwynt nos Sadwrn. Roedd ymdeimlad o ŵyl o'r dechrau i'r diwedd. Er gwaethaf nifer o banics munud olaf (newid lleoliad, bandiau / artistiaid yn tynnu allan, a.y.b.) roedd yr ŵyl yn llwyddiannus dros ben! Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n clywed Derwyddon Dr. Gonzo yn y Ddawns Ryng-gol fis Tachwedd.

  • Lluniau o Tyrfe Tawe 2007


  • Bws BBC Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy