BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Noson Lawen Tyrfe Tawe 2007. Llun gan Siân PearceNoson Lawen Tyrfe Tawe
Cynhaliwyd noson gyntaf calendr Tyrfe Tawe 2007 ar Orffennaf 28, gyda Noson Lawen yn Nhŷ Tawe i godi ymwybyddiaeth o'r ŵyl a'i chyhoeddi hi'n swyddogol.

Dyma lansio blwyddyn arall o waith caled i ddod â goreuon y sin roc a phop Gymraeg i Abertawe ganol mis Hydref.

Cyflwynwyd y noson gan y digrifwr lleol, Ceri Phillips yn ei arddull unigryw ei hun. Cafwyd set i ddechrau'r noson gan Huw Dylan Owen, un o drefnyddion Tyrfe Tawe ers ei dechrau yn 2004, a chyn aelod o'r 'Defaid' a 'Gwerinos'. Perfformiodd lu o ganeuon gwleidyddol ar ei gitâr, ac fe fydd i'w weld yn perfformio eto ar lwyfan Tyrfe Tawe ym mis Hydref.

Roedd hi'n braf cael croesawu Tito Lewis i'r Noson Lawen ar ddiwrnod arwyddocaol i Batagonia, ei ardal enedigol. I ddathlu pen-blwydd Patagonia yn wladfa, perfformiodd gân werin draddodiadol yn Sbaeneg ac fe orffennodd gyda 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn' i ddod yn ôl i Gymru.

I dorri ar y canu, perfformiodd Heledd Mitchell gyfres o alawon ar y delyn, gan gynnwys 'Cân Walter' gan Meic Stevens a phib-ddawns draddodiadol. Dyma gyfle i ymlacio a chael blas ar ganu'r delyn ar ei orau.

Uchafbwynt y noson oedd y gantores Lowri Evans, gyda Lee Mason yn gitarydd gyda hi. Roedd ei llais hi ar y noson yn wefreiddiol a chyfareddwyd y dorf gan ei halawon Katie Melua-aidd. Roedd ei chaneuon hi'n cynnwys 'Mr Cwmwl Gwyn', 'Merch y Myny' a 'Swp-y-Star' oddi ar yr albwm 'Clyw Sibrydion', ynghyd â chymysgedd o ganeuon newydd.

Ar ran gweddill criw Tyrfe Tawe, diolch i'r holl berfformwyr am greu noson o gyffro a mwynhad, ac am roi o'u hamser i ddod i Dŷ Tawe. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad yn fawr iawn.

Mawr obeithio y bydd cefnogaeth fawr i ni ym mis Hydref. Yn y cyfamser, ewch i www.tyrfe-tawe.com am y datblygiadau diweddaraf.

Gan Alun Rhys Chivers


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Bws BBC Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy