Anrhegion Nadolig. Rho i mi Sudoku consol Er ei fod yn ddrud. Gaf i gêm ciwb I'm cadw yn llon? 0 Mr, Sion Corn, Nid yw'n rhestr faith y flwyddyn hon!Ni allaf Anghofio Diolch, Sion Corn, Oherwydd hoffwn gael Lego y flwyddyn hon. I'ch cadw chi fynd drwy'r nos ar ei hyd Gadawaf siocled sy'n wyn i gyd. Diolchwn i chi am roddion diri',
A heddiw fe hoffwn gael 'gameboy SP'.
Fe gofiaf amdanoch trwy'r flwyddyn gron. Gobeithio y dewch chi y flwyddyn hon. Gan: Claire Hoffwn gael 'gameboy '
A 'Starwars 111',
A 'Fantasic Four',
Plis rhowch nhw i fi. Rwyf wedi bod yn fachgen da,
Yn helpu dad a helpu mam. Rwy'n helpu Steffan fy mrawd sy'n llai, A gwneud yn siŵr nad yw'n cael cam. Gan: Dafydd I'r Nadolig,
Fe hoffwn i Ystafell wely I fi fy hun. Ffôn symudol A sawl CD, A thrampolin I fi gael sbri Yn neidio fry Gan: Jodie I'r Nadolig Os gwelwch yn dda, Gaf i 'Laptop' Neu grys Man U A'r 'gameboy' newydd A sgramblwr cae, A ffôn symudol I ffonio ffrindiau?
Rwyf wedi bod Yn fachgen da, Trwy'r flwyddyn gron, O'r hydref i'r ha'.
Felly a ga'i nhw
Os gwelwch yn dda? Gan: Robert Ymddangosodd y penillion hyn yn rhifyn Rhagfyr 2005 o bapur bro Cwlwm.
 |