Cynhaliwyd cinio blynyddol y gangen yn yr HQ yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ionawr 30ain. Cafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd Robert James ac offrymwyd gras gan y trysorydd Ken Thomas. Cawsom wledd arbennig wedi ei pharatoi gan Robert a'i staff ac yna croesawyd y gwr gwadd, sef y sylwebydd Wyn Gruffydd, Llangain (gynt o'r Glog). Cafwyd araith hyfryd ganddo yn llawn hiwmor a bu'n sôn am yr holl wledydd bu'n ymweld â nhw wrth iddo sylwebu ar gemau rygbi. Roedd ganddo lond cwdyn o fathodynnau adnabod (rhain oedd ei docyn mynediad i'r maes!) a bu'n adrodd nifer o straeon difyr am y bobl ddiddorol roedd wedi cyfarfod ar ei deithiau. Soniodd hefyd am yr amser hyfryd cafodd yng nghwmni dau gyfaill agos iddo, sef y diweddar annwyl Ray Gravell a Brian Williams. Diolchodd Wyn Evans i Wyn Gruffydd am araith wych a darllenodd yntau yr englyn canlynol o'i eiddo i gyfarch Wyn:- O'r Glôg a'i aml nentydd - un cadarn Ac yn fab i Elerydd Amryddawn fel sylwebydd Ond heno, ein barchus lywydd
 |