Bardd eisteddfodol a thafodieithol
Roedd Dewi Emrys yn fardd, nid bardd mawr ond un digon talentog a phoblogaidd yn ei ddydd i gael ei gofio hyd heddiw, a nid yn unig yn y siroedd gorllewinol lle mae beirdd lleol yn tueddu cael eu mawrygu, weithiau, tu hwnt i bob rheswm. Un o'r ffactorau paham nad yw wedi mynd i angof oedd ei fuchedd fohemaidd lliwgar odiaeth - roedd yn hoff iawn o ddiod ac o ferched ac, fel Dylan Thomas, roedd yn barod pob tro i chwarae rhan i fodloni disgwyliadau rhamantaidd pobl am yr hyn y dylai bardd fod.
Fe'i ganwyd ym 1891 yng Ngheinewydd, Sir Aberteifi, ond fe'i cysylltir fel arfer â Sir Benfro, oblegid ei fagwraeth yn Rhosycaerau yn y sir honno.
Ei enw iawn oedd David Emrys James.
Y gweinidog bohemaidd
Newyddiaduraeth oedd ei waith cyntaf ond ar ôl astudio yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin fe'i ordeinwyd yn weinidog; gwasanaethodd yn Nowlais, Bwcle, Pontypridd a Llundain.
Dychwelodd at newyddiadura ym 1918 a byw yn Llundain.
Ond ym 1940 ymsefydlodd yn Nhalgarreg yn Sir Aberteifi.
Daeth i amlygrwydd fel bardd ym 1926 pan enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac aeth ymlaen i ennill y Gadair ym 1929,1930, 1943 a 1948; bu'n ffigwr cyfarwydd ar y Maes ac yn y Babell Lên.
Cyhoeddodd ddim ond dwy gyfrol o'i gerddi Cymraeg, sef Y Cwm Unig (1930) a Cerddi'r Bwthyn (1950), ac un o'i gerddi Saesneg, Rhymes of the Road (1928) o dan yr enw David Emrys.
Cafwyd gyfrol goffa, Wedi Storom, ym 1965.
Golygydd colofn farddol
Ychwanegodd at ei fri fel llenor ar gyfrif ei olygyddiaeth o'r golofn farddol yn Y Cymro rhwng 1936 a 1952, lle rhoddai gyngor ac anogaeth i lu o feirdd ifainc; cyhoeddwyd pigion o farddoniaeth ei 'ddisgyblion' yn y gyfrol Cerddi'r Babell (1938).
Ysgrifennodd hefyd gyfrol o ysgrifau eithaf gwerthfawr, sef Odl a Chynghanedd (1937).
Ei waith amlycaf
Yr enwocaf o'i gerddi yn ddios, ac yn wir, mae'r cof amdano'n dibynnu i raddau helaeth ar y gerdd hon, yw 'Pwllderi', a ysgrifennwyd yn nhafodiath parthau gogleddol Sir Benfro.
Gwelir cwpled ohoni wedi ei dorri ar y gofgolofn a saif ger Trefaser, nepell o Abergwaun: 'A thina meddylie sy'n dŵad ichi / Pan fo'ch chi'n ishta uwchben Pwllderi'.
Bu farw'r bardd ym 1952 ac ar ei fedd ym mynwent capel Pisgah yn Nhalgarreg gwelir yr arysgrif; 'Melys hedd wedi aml siom / Distawrwydd wedi storom', sy'n crisialu ei fywyd yn ddigon cywir.
Mae yna, yn ogystal, blac ar Y Bwthyn, y tŷ yn y pentref lle treuliodd y bardd ei flynyddoedd olaf.
Meic Stephens