Agorwyd cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r diwedd ar Chwefror 7, 2006, dair blynedd yn hwyr gyda phris ar y diwedd o bron i £67 miliwn, gan gynnwys technoleg gwybodaeth, offer darlledu a dodrefnu - bron i bum gwaith yn uwch na'r gyllideb wreiddiol.
Eisoes mae'r adeilad, a adwaenir fel y Senedd, ac a gynlluniwyd gan y pensaer yr Arglwydd Richard Rogers, wedi ennill gwobr bwysig am gael ei adeiladu yn gynaliadwy.
Mae gwobr y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) yn cydnabod yr egwyddorion 'gwyrdd' o fewn y cynllun a'r effaith amgylcheddol isel y mae'r adeilad yn ei chael trwy fod wedi mabwysiadu atebion ynni isel yng nghyswllt adeiladu, gwresogi a chynnal yr adeilad.

Agorodd y Senedd ar Chwefror 7, 2006
Yn ogystal â bod yn batrwm ar gyfer cynllunio amgylcheddol, mae'r Senedd yn cael ei ystyried fel adeilad ag arwyddocâd diwylliannol pellach hefyd - yn adlewyrchu aeddfedu democratiaeth Cymru trwy gael adeilad sy'n adlewyrchu'n glir egwyddorion atebolrwydd a chyfranogaeth.
Mae rhai sylwebwyr llai caredig wedi ei ddisgrifio fel 'sied fawr gyda siambr yn y canol' ynteu'n 'lolfa awyrenfa'.