| 'Adeilad sy'n edrych tuag allan i Gymru a thu hwnt' Dyma sut disgrifiwyd yr adeilad yma gan Ivan Harbour o Bartneriaeth Richard Rogers, pensaer y Senedd wrth iddo gychwyn ar ddylunio siambr Llywodraeth Cynulliad Cymru. Un gair sydd yn disgrifio'r athroniaeth dylunio - tryloywder. Adeilad lle mae'r broses ddemocrataidd i'w gweld ar waith, lle mae'r aelodau yn amlwg o flaen eu hetholwyr ac o'r herwydd yn atebol iddynt. "Nid oes lle i guddio yn yr adeilad yma" yw'r mantra. Canol a chanolbwynt yr adeilad yw'r siambr drafod gyda'r 'simdde' gylchog a nwydus o goed uwch ei ben. Ond nid addurn yn unig yw'r ffurf yma- mae'n dod â golau dydd i grombil yr adeilad ac yn awyru'r siambr mewn modd naturiol. Wrth i awyr poeth godi uwchben yr aelodau mae'n tynnu aer ffres i mewn i waelod y siambr. O'r tu allan fe welir y simdde yma o fewn ei chas o wydr a dur ac yna'n ymwthio allan drwy'r to, mae fel bo rhywbeth gwerthfawr yn cael ei amddiffyn yma- y trysor o lywodraeth atebol.
Mae lleoliad yr adeilad a'r llwybr i mewn iddo yn un trawiadol - ar lan Bae Caerdydd mae'n codi o'r dŵr mewn cyfres o lwyfannau gyda grisiau a rampiau o lechfaen sydd yn creu undod rhwng yr adeilad a'i dirlun ac mae ysgafnder yr adeiladwaith dur a gwydr yn cael ei bwysleisio yn y modd y mae'n cyferbynnu gyda'r plinth cadarn o lechfaen trwm. Fe welir yma yn y plinth, y colofnau a'r to estynedig adlais o arddull pensaerniaeth clasurol y Parthenon ac awgrym o ddemocratiaeth cynnar Groeg. O dan y to ymdonnog sydd yn ymestyn ymhell heibio'r waliau allanol mae'r brif fynedfa yn agor yn syth i'r llawr cyntaf ac mae bron pob man ar y llwyfan llechfaen yma yn agored i'r cyhoedd. O'r lefelau cyhoeddus mae'n bosib edrych allan drwy'r muriau gwydr ar draws y bae i'r Cymru tu hwnt ac i lawr i mewn i'r siambr ei hun at y Cymry oddi mewn - profiad dramatic yw ymweld â'r Senedd.
Mae'r penseiri wedi cadw at ddewis cyfyng o ddeunydd adeiladu - llechfaen, pren, dur a gwydr a'i hasio'n grefftus a di-ffwdan. Maent hefyd wedi ymgeisio i ymgorffori cymaint â phosib o ddeunydd adeiladu cynhenid o Gymru yn yr adeilad, nid yn unig fel gweithred symbolaidd ond fel rhan o athroniaeth y dyluniad. Athroniaeth sydd wedi sicrhau fod y Senedd eisoes wedi ennill gwobr am ei adeiladwaith cynaladwy a'i effeithlonrwydd ynni. Er bod gofynion diogelwch yn dilyn 9/11 ynghyd â gofynion deddfau anabledd wedi lleihau rhywfaint ar y weledigaeth o adeilad agored a'i gysylltiad i'r dŵr gerllaw, mae'r gofodau mewnol yn ymddangos fel pe taent yn llifo i'r tu allan tra bo'r golygfeydd allan o'r adeilad yn ei angori yn ei leoliad ar lan y dŵr gyda awyr fawr Bae Caerdydd uwchben. Mae perygl i elfennau symbolaidd fel gosod y 'bobl' uwchben yr aelodau a'r muriau allanol o wydr er enghraifft ymddangos yn drwsgl - ond yn yr achos yma mae sensitifrwydd y pensaer yn llwyddo i awgrymu'r nodweddion fel nad ydynt yn amlwg nac yn ystradebol. Tra bo'r awydd yma i geisio denu ac ymrwymo'r etholwyr yn y broses ddemocrataidd yn un i'w chanmol, yn enwedig o gofio cyn lleied o rym sydd gan y Cynulliad mewn gwirionedd, efallai fod dyletswydd yn awr ar y gwleidyddion i ymateb gyda mwy o hyder ac mewn modd sydd yn weddus i adeilad beiddgar a chyffrous. Wedi'r cwbl tydi adeilad trawiadol, caffi da a golygfeydd bendigedig ddim yn ddigon. Maredudd ab Iestyn
Chwefror 2006
 |